Ein partneriaethau
Rydym ni’n ymdrechu i adeiladu partneriaethau strategol a chydweithredol yn y DU a thramor.
Mae partneriaethau gwyddonol ar draws y llywodraeth a chyda'r byd academaidd yn hanfodol er mwyn diwallu ein hanghenion gwyddoniaeth a thystiolaeth. Er enghraifft, mae ein proses dadansoddi risg, sy'n dadansoddi risgiau diogelwch bwyd, yn seiliedig ar safbwyntiau annibynnol dros 100 o arbenigwyr gwyddonol, dadansoddwyr ac ymarferwyr eraill.
Caiff ein Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd ei gynnal mewn partneriaeth â 373 o awdurdodau lleol ar draws Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Maent yn cynnal arolygiadau hylendid mewn tua 490,000 o fusnesau – gan hybu dewis defnyddwyr a gwella safonau hylendid mewn bwyd.
Mae gwaith partner cryf hefyd yn ein helpu i ddeall a chyrraedd y defnyddwyr yr ydym ni’n ceisio eu diogelu. Er enghraifft, mae ein partneriaeth â Just Eat wedi ein helpu i gynyddu tryloywder gwybodaeth am hylendid mewn busnesau bwyd, gan alluogi defnyddwyr i ystyried diogelwch bwyd wrth archebu bwyd ar-lein.
Mae cydweithio gydag elusennau fel Allergy UK a’r Ymgyrch Anaffylacsis yn ein helpu i ddeall a chefnogi pobl sy’n byw gyda gorsensitifrwydd i fwyd yn well.