Diwylliant gweithio’r ASB
Rydym ni’n cynnig trefniadau gweithio cwbl hyblyg ac ymrwymiad i gydbwysedd rhwng bywyd a gwaith gan ein bod yn credu fod hyn yn galluogi ein pobl i weithio ar eu mwyaf effeithiol.
Mae ffyrdd hyblyg o weithio (gan gynnwys y dewis i weithio’n gyfan gwbl o gartref) ac offer digidol sy'n hwyluso gweithio o bell yn golygu ein bod ni’n mwynhau lefelau uchel o ymgysylltiad staff ac yn ein helpu i ddenu a chadw'r dalent orau.
Yn 2019, fe wnaethom ni ennill y Wobr ‘Arloesi mewn Gweithio Hyblyg’ yng Ngwobrau Cyflogwyr Gorau Workingmums.co.uk. Roedd y wobr hon yn cydnabod bod ein polisïau a’n harferion hyblyg yn wirioneddol arloesol ac yn torri tir newydd.
Yn 2017 gwnaethom gyflwyno rhaglen i osod y safon aur ar gyfer gweithio hyblyg:
- Fe wnaethom ni symud ein swyddfa yn Llundain, adnewyddu ein swyddfeydd yng Nghaerdydd ac yng Nghaerefrog ac agor safle newydd sbon yn Birmingham
- Fe gyflwynon ni gontractau newydd ar gyfer staff (gweithio yn y swyddfa, gweithio o gartref neu gyfuniad o’r ddau) a thrawsnewidiwyd ein technoleg gwybodaeth er mwyn gallu gweithio o bell
- Fe roesom ni gyfle i staff gael gwell cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith trwy roi dewis iddynt pa ran o'r dydd/gyda'r nos neu'r penwythnos y mae'n well ganddynt weithio
Ein ffyrdd o weithio mewn rhifau
- Dywedodd 69% o’r staff eu bod yn fwy bodlon
- Dywedodd 75% o’r staff eu bod yn fwy tebygol o aros yn yr ASB
- Dywedodd 80% o’r staff eu bod yn fwy cynhyrchiol
- Arbedwyd £2.2 miliwn trwy addasu ein swyddfeydd
Mae ein blog ar Ein ffyrdd arloesol o weithio yn archwilio sut y gwnaethom gyflwyno'r rhaglen weithio well.