Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd – Tystysgrif Cymhwysedd Dros Dro, Tystysgrif Cymhwysedd, a Thrwydded WATOK

Gwybodaeth am ein polisi preifatrwydd mewn perthynas â’r Dystysgrif Cymhwysedd Dros Dro (TCoC), y Dystysgrif Cymhwysedd (CoC), a pholisi preifatrwydd trwyddedau WATOK, pam mae angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym yn ei wneud â’r data a’ch hawliau.

Bydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn gweithredu fel ‘Rheolydd’ y data personol a ddarperir i ni.

Pam mae angen yr wybodaeth hon?

Mae angen i ni gasglu’r wybodaeth hon er mwyn gallu prosesu’ch cais.

Mae’r ASB yn defnyddio’r wybodaeth a ddarperir gennych chi yn y ffurflen hon wrth gyflawni ei dyletswyddau statudol. Ni fyddwn yn casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad oes ei angen arnom. Mae darparu’r wybodaeth hon yn ofyniad statudol a gallai methu â darparu’r wybodaeth olygu nad yw’r ASB yn gallu prosesu eich cais.

Sut a ble rydym yn storio’ch data a chyda phwy y gallwn ei rannu? 

Mae’n bosib y bydd eich gwybodaeth yn cael ei rhannu â Llywodraeth Cymru, awdurdodau llywodraeth leol, Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (Defra) a’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Bydd yr ASB weithiau’n rhannu data gydag adrannau eraill o’r llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy’n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i’w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd er budd y cyhoedd.

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni’r swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y byddwn ni’n cadw’r wybodaeth am 60 mlynedd wedi iddi ddod i law.

I gael mwy o wybodaeth, gweler yr adran Sut a ble rydym yn storio’ch data, a chyda phwy y gallwn ei rannu? yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Trosglwyddiadau rhyngwladol

I gael mwy o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE) 

I gael mwy o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, gweler adran dinasyddion yr UE yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Eich hawliau

I gael mwy o wybodaeth am eich hawliau, gweler yr adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol. 

Cysylltu â ni 

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau ar ein defnydd o’r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.