Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ruth Nolan, Cyfarwyddwr Pobl ac Adnoddau

Gwybodaeth am Brif Weithredwr a chyfarwyddwyr yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB).

Ymunodd Ruth â’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) ym mis Hydref 2022 fel Dirprwy Gyfarwyddwr Cyllid a Chynllunio a daeth yn Gyfarwyddwr yn haf 2023. 

Dechreuodd Ruth ei gyrfa yn PwC, gan weithio am wyth mlynedd ym maes archwilio ac ymgynghori ar brosiectau gyda chleientiaid yn y sector cyhoeddus wrth ennill ei chymhwyster cyfrifeg, cyn symud i’r sector cyhoeddus yn 2016.

Cyn hynny, bu Ruth yn gweithio yn yr Adran Gwaith a Phensiynau (DWP), lle bu’n Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyllid ers Ionawr 2020. Roedd hi’n bartner busnes ar gyfer y rhaglen Credyd Cynhwysol, gan arwain tîm a oedd yn cefnogi holl raglenni trawsnewid mawr y DWP. Cyn hynny, bu’n gweithio ym maes cyllid strategol yn yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol (BEIS), ac yn bartner busnes yn yr Adran Cymunedau a Llywodraeth Leol.