Kitchen Life 2
Gwybodaeth am y prosiect ymchwil 'Kitchen Life 2', recriwtio ar gyfer gwaith maes, a manylion cyswllt ar gyfer ein partneriaid ymchwil, Basis a Fieldsauce
Mae ‘Kitchen Life 2’ yn brosiect ymchwil gymdeithasol sy’n archwilio ymddygiadau bywyd go iawn mewn ceginau gan ddefnyddio fideo yn ogystal ag arolygon, cyfweliadau, dyddiaduron bwyd, a mathau eraill o arsylwi (megis monitro tymereddau oergelloedd) i ddeall arferion ac ymddygiadau mewn ceginau domestig a masnachol. Mae'r ymchwil hon yn dilyn astudiaeth wreiddiol Kitchen Life.
Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd wedi comisiynu Basis Social i gynnal yr ymchwil hon ar ein rhan. Mae Basis yn gweithio mewn partneriaeth â Big Sofa, Field Sauce a Phrifysgol Leeds.
Gwaith maes Kitchen Life 2
Mae ein hasiantaeth ymchwil, Basis Social, yn dechrau recriwtio ar gyfer gwaith maes y prosiect hwn ym mis Awst 2021. Maent yn dewis amrywiaeth o bobl wahanol i gymryd rhan ar draws grwpiau oedran, cyfnodau bywyd, a chefndiroedd teuluol gwahanol..
Os cawsoch eich gwahodd i gymryd rhan ac os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â Stephen Gooblar yn Field Sauce trwy gdpr@fieldsauce.com neu 07809 428486; neu'r Rheolwr Prosiect Darren Bhattachary trwy social@basisresearch.co.uk.
Adolygiad Llenyddiaeth Kitchen Life 2
Fel rhan o brosiect ymchwil Kitchen Life 2, comisiynodd yr ASB gwmni Basis Social a Phrifysgol Leeds i gynnal adolygiad llenyddiaeth. Mae’r adolygiad llenyddiaeth yn archwilio tystiolaeth sy’n bodoli ar brif ymddygiadau, y gweithredwyr, y sbardunau a’r rhwystrau i ymddygiadau hylendid bwyd (fel glanhau a choginio) mewn ceginau domestig a cheginau busnesau. Yn ogystal â llenyddiaeth gyhoeddedig, cynhaliwyd cyfweliadau arbenigol hefyd i ddeall effaith COVID-19 ar ymddygiadau hylendid bwyd.
Mae Adolygiad Llenyddiaeth Kitchen Life 2 yn darparu sylfaen ar gyfer cwmpas a chynllun prosiect Kitchen Life 2, ac ar gyfer datblygu ymyriadau ymddygiadol neu fodelau asesu risg dilynol.