Mae'r canllawiau anifeiliaid hela gwyllt yn berthnasol i:
- fusnesau bwyd
- helwyr anifeiliaid hela gwyllt a chyflenwad yr helgig hwnnw un ai yn ei ffwr neu'i blu, neu fel symiau bach o helgig gwyllt
Diffinnir anifeiliaid hela gwyllt yn Atodiad I Rheoliad 853/2004 fel:
- carnolion gwyllt
- adar gwyllt
Carnolion gwyllt
Mae carnolion gwyllt yn famaliaid y tir a gaiff eu hela i'w bwyta gan bobl.
Gall y rhain gynnwys:
- gwiwerod
- carnolion fel ceirw gwyllt
- baeddod gwyllt
- rhai poblogaethau gwyllt o ddefaid a geifr
- cwningod a llwynogod
Adar gwyllt
Adar gwyllt yw'r rheiny a gaiff eu hela i'w bwyta gan bobl. Enghraifft o hyn yw ffesant sydd wedi'i fagu/wedi deor o dan amodau wedi'u rheoli cyn ei ryddhau i'r gwyllt i'w hela.
Canllawiau anifeiliaid hela gwyllt (ffotograffau)
Mae'r canllawiau anifeiliaid hela gwyllt (ffotograffau) yn darparu enghreifftiau o arfer da a gwael. Mae gwybodaeth yn y ddogfen am:
- groeshalogi
- dulliau cludo da a gwael
- dulliau storio gwael
- storio helgig yn yr oergell
- bwtrïoedd helgig
- datganiadau unigolion cymwys
- anifeiliaid hela gwyllt yn eu plu, wedi'u pluo a pharod i'w coginio
Datganiad unigolyn cymwys
Mae'n rhaid i unrhyw garcasau a gymerir i/a godir gan Sefydliad Trin Helgig Cymeradwy gael archwiliad cychwynnol gan unigolyn cymwys.
Mae'n rhaid atodi datganiad i'r carcasau, waeth pwy a saethodd y carw.
Mae'n rhaid i'r datganiad hwn gynnwys gwybodaeth am y:
- rhywogaeth
- rhyw
- dyddiad
- amser a lleoliad y'i saethwyd
- rhif adnabod
Hefyd, mae'n rhaid cynnwys datganiad er mwyn disgrifio unrhyw nodweddion a ganfuwyd, a gall y datganiad hefyd gynnwys:
- unrhyw ymddygiad annormal
- nodweddion y carcas
- halogiad amgylcheddol
Mae'n rhaid i unigolyn cymwys lofnodi'r datganiad hwn.