Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau anifeiliaid hela gwyllt

Rheoliadau hylendid ar gyfer cyflenwi anifeiliaid hela i'w bwyta gan bobl.

Dogfen ganllaw anifeiliaid hela gwyllt

Mae'r canllawiau anifeiliaid hela gwyllt yn berthnasol i’r canlynol:  

  • Cynhyrchwyr cynradd (er enghraifft, helwyr, aelodau o bartïon hela, ystadau saethu)
  • Gweithredwyr busnesau bwyd
  • Swyddogion Gorfodi:  Awdurdodau lleol yng Nghymru a Lloegr, Cynghorau Dosbarth yng Ngogledd 

Ceir gwybodaeth ychwanegol am wahanol sefyllfaoedd cyflenwi yn y canllawiau.

Pwysig

Cyfeiriadau at ddeddfwriaeth yr UE yng nghanllawiau’r ASB

Nid yw deddfwriaeth sy'n uniongyrchol gymwys i'r UE bellach yn gymwys ym Mhrydain Fawr. Daeth deddfwriaeth yr UE a ddargadwyd pan ymadawodd y DU â’r UE yn gyfraith a gymathwyd ar 1 Ionawr 2024, yn unol â’r hyn a gyhoeddwyd ar legislation.gov.uk. Dylai cyfeiriadau at unrhyw ddeddfwriaeth yng nghanllawiau’r ASB sydd ag ‘UE’ neu ‘CE’ yn y teitl (er enghraifft, Rheoliad (CE) 178/2002) gael eu hystyried yn gyfraith a gymathwyd lle bo hynny’n gymwys i Brydain Fawr. Bellach, dylid ystyried cyfeiriadau at ‘Gyfraith yr UE a Ddargedwir’ neu ‘REUL’ fel cyfeiriadau at gyfraith a gymathwyd.  
 
Yn achos busnesau sy’n symud nwyddau o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, mae gwybodaeth am Fframwaith Windsor ar gael ar GOV.UK.  
 
Mabwysiadwyd Fframwaith Windsor gan y DU a’r UE ar 24 Mawrth 2023. Mae’r Fframwaith yn darparu set unigryw o drefniadau i gefnogi llif cynhyrchion manwerthu bwyd-amaeth o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon, gan ganiatáu i safonau Prydain Fawr o ran iechyd y cyhoedd mewn perthynas â bwyd, marchnata a deunyddiau organig fod yn gymwys i nwyddau manwerthu wedi’u pecynnu ymlaen llaw a gaiff eu symud drwy Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS).

 

Gallwch ddarllen y ddogfen ganllaw ar anifeiliaid hela gwyllt yma.


Gofynion cyfreithiol

Rheolau hylendid penodol sy’n gymwys i fusnesau sy’n cynhyrchu bwyd sy’n dod o anifeiliaid, a nodir yn:

Rheolau cyffredinol mewn cysylltiad â sgil-gynhyrchion anifeiliaid a chynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid na fwriedir eu bwyta gan bobl, a nodir yn:

Gofynion cyffredinol ar gyfer hylendid bwydydd sy’n gymwys i bob busnes bwyd, gan gynnwys cynhyrchwyr cynradd, a nodir yn:

Rheolau ar reolaethau swyddogol a gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau y cymhwysir cyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion a gweithredoedd cysylltiedig, a nodir yn:

Egwyddorion a gofynion cyffredinol cyfraith bwyd a gweithdrefnau mewn materion diogelwch bwyd, gan gynnwys olrhain bwyd a bwyd anifeiliaid, a nodir yn:

Anifeiliaid hela gwyllt

Yn y ddeddfwriaeth, diffinnir anifeiliaid hela gwyllt fel:

  • carnolion a lagomorffau gwyllt, yn ogystal â mamaliaid tir eraill sy’n cael eu hela i’w bwyta gan bobl ac a ystyrir yn anifeiliaid hela gwyllt o dan y gyfraith berthnasol

Carnolion gwyllt

Mae carnolion gwyllt yn famaliaid tir a gaiff eu hela i'w bwyta gan bobl.

Gall y rhain gynnwys:

  • carnolion fel ceirw gwyllt
  • baeddod gwyllt
  • rhai poblogaethau defaid a geifr gwyllt

Lagomorffiaid

Mae lagomorffiaid gwyllt yn famaliaid tir a gaiff eu hela i’w bwyta gan bobl.

  • cwningod
  • sgwarnogod
  • cnofilod (er enghraifft, gwiwerod)

Adar gwyllt

Adar gwyllt yw’r rheiny a gaiff eu hela i’w bwyta gan bobl. Enghraifft o hyn yw ffesant sydd wedi’i ddeor/magu mewn amgylchiadau wedi’u rheoli cyn ei ryddhau i’r gwyllt i’w hela.

Canllawiau anifeiliaid hela gwyllt (ffotograffau)

Mae'r canllawiau anifeiliaid hela gwyllt (ffotograffau) yn rhoi enghreifftiau o arfer da a gwael. Mae’r wybodaeth yn y ddogfen yn cwmpasu’r canlynol:

  • croeshalogi
  • dulliau cludo da a gwael
  • dulliau storio gwael
  • storio helgig mewn oergell
  • bwtrïoedd helgig
  • datganiadau unigolion cymwys
  • anifeiliaid hela gwyllt yn eu plu, wedi'u pluo a pharod i'w coginio

England, Northern Ireland and Wales

Datganiad unigolyn cymwys

Mae’n rhaid i unrhyw garcasau a gymerir i/a godir gan Sefydliad Trin Helgig Cymeradwy (AGHE) gael archwiliad cychwynnol gan unigolyn cymwys.

Mae’n rhaid atodi datganiad at y carcasau, ni waeth pwy a saethodd y carw.

Mae’n rhaid i’r datganiad hwn gynnwys gwybodaeth am canlynol:

  • rhywogaeth
  • rhyw
  • dyddiad
  • pryd a lle y’i saethwyd
  • rhif adnabod

Hefyd, mae’n rhaid cynnwys datganiad er mwyn disgrifio unrhyw nodweddion a ganfuwyd, a gall y datganiad hefyd gynnwys:

  • unrhyw ymddygiad anarferol
  • nodweddion y carcas
  • halogiad amgylcheddol

Mae’n rhaid i unigolyn cymwys lofnodi’r datganiad hwn.