Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar hylendid llaeth yfed amrwd

Canllawiau i fusnesau ar laeth yfed amrwd a hufen amrwd ac amlinelliad o'r rheolaethau cyfredol, canllawiau ar hylendid llaeth a phrofi llaeth am weddillion gwrthfiotig.

Mae llaeth amrwd neu laeth heb ei basteureiddio yn fwy agored i gael ei heintio gan facteria niweidiol. Mae'r dudalen hon yn nodi'r rheolaethau hylendid ar gyfer y math hwn o laeth yn y Deyrnas Unedig (DU).

Llaeth yfed amrwd a hufen amrwd

Rydym ni'n cynghori y gall llaeth heb ei basteureiddio neu laeth a hufen amrwd gynnwys bacteria niweidiol sy'n achosi gwenwyn bwyd. Os ydych chi mewn grŵp sy'n agored i newid neu os oes gennych chi system imiwnedd wan, rydych chi'n fwy agored i wenwyn bwyd ac ni ddylech yfed llaeth a/neu hufen heb ei basteureiddio.

Mae grwpiau sy'n agored i niwed yn cynnwys menywod beichiog, yr henoed, pobl sydd â system imiwnedd wan, babanod a phlant.

Darllenwch ragor o ganllawiau i fusnesau ar gofrestru a gwerthu llaeth buwch i'w yfed yn amrwd.

Mesurau rheoli presennol ar werthu llaeth yfed amrwd

Mae'r lefelau risg wrth yfed llaeth yfed amrwd yn is pan gaiff rheolaethau hylendid priodol eu gweithredu. Fodd bynnag, mae'r lefel risg yn uwch i blant ifanc, yr henoed, y rhai sydd â system imiwnedd wael a/neu fenywod beichiog.

Yn 2015, nododd ein Bwrdd y dylid darparu rhybuddion am y risgiau hyn yn y man gwerthu yn ôl y ddeddfwriaeth gyfredol i ganiatáu i'r defnyddiwr wneud penderfyniad gwybodus am yfed cynnyrch o'r fath.

Cytunodd ein Bwrdd hefyd y dylai'r cyfyngiadau gwerthu barhau yn eu lle, fel y disgrifiwyd gan y ddeddfwriaeth gyfredol. Nod y mesurau rheoli presennol yw cydbwyso dewis defnyddwyr, ynghyd â diogelu iechyd y cyhoedd a buddiannau ehangach defnyddwyr.

Braslun o'r rheolaethau cyfredol

arperir y mesurau rheoli canlynol ar gyfer llaeth buwch amrwd mewn deddfwriaeth ddomestig ac maent yn berthnasol i Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae gwerthu llaeth yfed amrwd (pob rhywogaeth) wedi'i wahardd yn yr Alban. Darllenwch ein rheolaethau cyfredol ar laeth buwch i'w yfed yn amrwd

  • nid yw gwerthu llaeth yfed amrwd o ddefaid, geifr a byfflo yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau mewn daliadau cynhyrchu llaeth cofrestredig.
  • mae'n rhaid i laeth yfed amrwd o fyfflos gydymffurfio â gofyniad statws y fuches – yn/o giât y fferm neu mewn gweithrediad arlwyo ar y fferm lle mae'r llaeth yfed amrwd yn deillio ohono, mewn marchnadoedd ffermwyr (gan y ffermwr), gan ddosbarthwr o gerbyd a ddefnyddir fel safle siop yn gyfreithlon, er enghraifft, rowndiau llaeth. 
  • mae'n rhaid i laeth yfed armwd o ddefaid a geifr ddod o anifeiliaid sy'n iach ac sy'n perthyn i ddaliad cynhyrchu sy'n rhydd rhag brwselosis.
  • rhaid i laeth yfed amrwd gydymffurfio â rheolau hylendid llaeth a safonau microbiolegol
  • caiff cydymffurfiaeth â'r gofynion hyn ei fonitro mewn arolygiadau a raglennir ar sail risg.

Rhaid i laeth yfed  amrwd o ddefaid a geifr, ond nid byfflos, gynnwys  y rhybudd iechyd. Yng Nghymru, mae'n rhaid i laeth amrwd gan y tair rhywogaeth fod â'r rhybudd iechyd priodol.

Nid yw gwerthu hufen amrwd

  • yn ddarostyngedig i'r cyfyngiadau mewn daliad cynhyrchu llaeth a safle godro 
  • rhaid iddo gydymffurfio â'r holl ofynion sy'n berthnasol i gynhyrchion llaeth o dan reolau hylendid llaeth a safonau microbiolegol
  • rhaid ei gynhyrchu â llaeth sy'n bodloni'r meini prawf statws y fuches. Dim ond gan rywun sydd â daliad cynhyrchu llaeth cofrestredig y gellir gwerthu llaeth yn uniongyrchol i ddefnyddwyr a rhaid i laeth yfed amrwd gydymffurfio â rheolau hylendid llaeth a safonau microbiolegol
  • nid oes angen i hufen amrwd gario'r rhybudd iechyd ond rhaid dangos y geiriau 'wedi'i wneud gyda llaeth amrwd' ar y cynnyrch
  • caiff cydymffurfiaeth â'r gofynion hyn ei fonitro trwy arolygiadau sy'n seiliedig ar risg

Cofrestru i werthu llaeth yfed amrwd

Rhagor o wybodaeth am y mesurau rheoli:

Cynhyrchu llaeth yfed amrwd

Mae nifer y cynhyrchwyr llaeth buwch amrwd cofrestredig yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon fel a ganlyn:

  • amcangyfrifir mai dim ond 0.01% o'r holl laeth buwch a gaiff ei yfed sy'n llaeth amrwd
  • tua 160 o gynhyrchwyr llaeth buwch i'w yfed yn amrwd cofrestredig yn 2017
  • mae yfed llaeth yfed amrwd o eifr, defaid a byfflo hefyd wedi'i gyfyngu