Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Manteisio i’r eithaf ar eich sgôr hylendid bwyd

Mae ein pecyn cymorth yn helpu eich busnes bwyd i fanteisio i’r eithaf ar eich sgôr hylendid bwyd. Rydym yn darparu canllawiau ar ddelweddau, adnoddau i’w lawrlwytho a baneri y gallwch eu defnyddio ar gyfer eich gwefan.

Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Rhagfyr 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 11 Rhagfyr 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Rydym yn darparu syniadau ar sut i hyrwyddo safonau hylendid a helpu i gynyddu nifer y cwsmeriaid sy’n dod drwy’r drws neu sy’n archebu ar-lein.

Wales

Ysbrydoliaeth

Mae hylendid a safonau bwyd gwell yn golygu y gall busnesau a defnyddwyr elwa ar ein Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB).

Defnyddio delweddau’r Cynllun Sgorio

Rydym ni eisiau i fusnesau bwyd elwa ar y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), a manteisio i’r eithaf ar eu sgôr hylendid bwyd. Yn ogystal ag arddangos y sgôr yn eich ffenestr neu ar eich drws, gallwch elwa ar sgôr dda trwy ei chynnwys yn eich gweithgarwch hyrwyddo a deunyddiau fel gwefannau, taflenni, negeseuon cyfryngau cymdeithasu a bwydlenni. Er mwyn helpu gyda hyn, mae fersiynau y gellir eu lawrlwytho o ddelweddau’r Cynllun ar gael drwy’r dolenni isod. 

Mae delweddau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB) a logo’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) (y “Delweddau”) wedi’u gwarchod gan nodau masnach cofrestredig y Deyrnas Unedig (DU) a hawliau eiddo deallusol eraill ac mae’r ASB yn berchen arnynt ac yn eu rheoli. 

Er mwyn sicrhau nad yw’r cyhoedd yn cael eu drysu neu eu camarwain, rhaid dilyn y rheolau isod wrth ddefnyddio’r delweddau:

  • Ni ddylid newid na diwygio’r delweddau heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Gellir gofyn am ganiatâd ar gyfer unrhyw newid gan yr ASB trwy gysylltu â HygieneRatings@food.gov.uk
  • Mae elfennau gweledol y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd a logo’r ASB yn rhan annatod o ddyluniad y delweddau. Gellir eu defnyddio fel rhan o weithgarwch hyrwyddo fel y disgrifir uchod ac ni ddylid eu defnyddio mewn unrhyw ffordd arall heb ein caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw. Gellir gofyn am ganiatâd ar gyfer unrhyw ddefnydd arall o’r fath gan yr ASB trwy gysylltu â HygieneRatings@food.gov.uk 
  • Ni ddylid cyflwyno’r delweddau mewn unrhyw weithgarwch a deunyddiau hyrwyddo mewn unrhyw fodd a allai awgrymu bod yr ASB yn hyrwyddo unrhyw fusnes bwyd unigol, cadwyn o fusnesau bwyd, gwefan, adnodd ar-lein neu weithgarwch arall
  • Rhaid i fusnesau bwyd ddefnyddio delweddau o’u sgôr hylendid bwyd cyfredol yn unig. Pe bai sgôr unrhyw fusnes bwyd yn newid mewn arolygiad dilynol, dim ond delweddau o’r sgôr newydd y gellir eu defnyddio a rhaid diweddaru neu dynnu unrhyw ddelweddau o sgoriau blaenorol ar unwaith o’r holl weithgarwch hyrwyddo a’r deunyddiau y maent yn ymddangos ynddynt

Os na fydd busnes bwyd yn defnyddio’r sgôr gywir a ddyfarnwyd, bydd hyn yn torri’r rheolau a gall fod yn drosedd. Gall yr ASB derfynu eich caniatâd ar unwaith i ddefnyddio’r delweddau o ganlyniad i hynny neu unrhyw achos arall o dorri’r rheolau hyn. 

Gall yr ASB roi caniatâd, dynnu caniatâd neu roi amodau ar gyfer unrhyw un o’r uchod yn ôl ei disgresiwn llwyr. Cedwir pob hawl arall yn llawn.

Gall yr ASB ddiwygio'r rheolau hyn ar unrhyw adeg. Bydd unrhyw ddiwygiadau yn cael eu rhannu yma. Gwiriwch y dudalen hon yn rheolaidd. Trwy barhau i ddefnyddio’r delweddau, byddwch chi’n cytuno i’r diwygiadau. Os na fyddwch yn cytuno, bydd yn rhaid i chi roi’r gorau i’w defnyddio.

Trwy lawrlwytho a/neu ddefnyddio’r delweddau, mae pob busnes bwyd yn derbyn ac yn cytuno i gydymffurfio’n llwyr â’r rheolau hyn.

Sticeri’r CSHB

Mae sticeri’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yn cynnwys y delweddau ac maent yn destun yr holl reolau uchod, ond dim ond awdurdodau lleol sy’n gweithredu’r cynllun sy’n eu dyfarnu. Rhaid peidio â chaffael sticeri o unrhyw ffynhonnell arall. Byddai gwneud hynny’n golygu torri’r rheolau a nodwyd uchod. Dyma atgoffa busnesau bwyd bod arddangos neu ddefnyddio sgôr annilys mewn unrhyw weithgarwch neu ddeunydd hyrwyddo yn torri’r rheolau uchod a’n hawliau. Os byddwch yn torri’r rheolau uchod a/neu ein hawliau eiddo deallusol, efallai y byddwn yn gofyn i chi roi’r gorau i ddefnyddio’r delweddau ar unwaith, ond nid yw hynny’n ein rhwystro rhag cymryd camau cyfreithiol. 

Gall hefyd fod yn drosedd o dan ddeddfwriaeth safonau masnachu, er enghraifft o dan Ddeddf Sgoriau Hylendid Bwyd (Cymru) 2013. Yn Lloegr, mae’n drosedd o dan Reoliadau Diogelu Defnyddwyr rhag Masnachu Annheg 2008. Yng Ngogledd Iwerddon, mae’n drosedd o dan Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2016.

Baneri gwe ar gyfer busnesau a masnachu. Gellir lawrlwytho pob baner wedi’i animeiddio a fersiynau statig.

Baneri gwe y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd yng Nghymru 

Rydym yn darparu dewis o ddelweddau sgôr hylendid bwyd i’w harddangos ar eich gwasanaethau digidol ar-lein, gan gynnwys gwefannau, apiau, y cyfryngau cymdeithasol ac e-byst. 

I gael y sgôr ar-lein ar gyfer eich busnes, ewch i’ch tudalen unigol yn ein hadnodd chwilio. Yno, fe welwch ddolen i’r delweddau y gellir eu lawrlwytho lle gellir cyrchu eich sgôr benodol.

Mae canllawiau ar gael ar sut i gymhwyso arferion gorau o ran arddangos eich sgôr ar-lein ac ar draws y cyfryngau cymdeithasol.

Ewch ati i lawrlwytho delweddau sgoriau ar-lein ar gyfer eich gwefan neu lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol.

Adnoddau i awdurdodau lleol, a thaflenni enghreifftiol

Lloegr a Gogledd Iwerddon

Taflenni ar gyfer defnyddwyr a busnesau bwyd

Wales