Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Canllawiau diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer banciau bwyd ac elusennau

Cael gwared ar fwyd

Gwybodaeth am sut i gael gwared ar fwyd yn gywir.

Rhaid i chi gael gwared ar wastraff bwyd a bwyd nad yw bellach wedi’i fwriadu i’w fwyta gan bobl, nac yn ddiogel i’w fwyta ganddynt, mewn modd priodol.

Os yw gwastraff bwyd neu ddeunyddiau a bwyd na fwriedir ei fwyta bellach (former foodstuffs) yn deillio o anifeiliaid neu’n cynnwys cynhyrchion sy’n deillio o anifeiliaid, rhaid i chi gael gwared arnynt mewn ffordd nad yw’n peri risg i iechyd pobl nac anifeiliaid.

Mae gan y llywodraeth ganllawiau ar sut i gael gwared ar wastraff bwyd yn gywir.