Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau arddangos ar-lein ar gyfer y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd

Mae’r canllawiau hyn yn nodi sut i arddangos eich sgôr hylendid bwyd ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Bydd hyn yn sicrhau eich bod yn rhoi gwybodaeth gywir i'ch cwsmeriaid, gan eu galluogi i archebu'n hyderus.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Awst 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Awst 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Egwyddorion arweiniol

Mae bwyd yn cael ei werthu ar-lein trwy lawer o wahanol ddulliau ac ar draws gwahanol lwyfannau. Mae hyn yn golygu na fyddai un maint a fformat yn addas ar gyfer pob busnes, o bosib.

Wrth benderfynu sut i arddangos eich sgôr hylendid bwyd ar-lein, sicrhewch fod ei lleoliad yn bodloni'r holl egwyddorion arweiniol. Mae hyn yn golygu y dylai eich sgôr: 

  • ymddangos yn amlwg ar eich gwefan fel ei bod yn hawdd ei gweld pan fydd eich cwsmeriaid yn cyrchu tudalen.  
  • fod yn ddigon mawr fel ei bod yn hawdd i'ch cwsmeriaid ei darllen. Dylech osgoi lleihau maint neu gydraniad y ddelwedd i’r fath raddau fel bod y sgôr yn mynd yn anodd ei darllen neu’n cael ei bicseleiddio. 
  • ymddangos unrhyw le cyn y pwynt lle bydd y cwsmer yn dewis neu’n archebu bwyd. Dylech ystyried y gwahanol ffyrdd y gall cwsmeriaid gyrchu eich gwefan a sicrhau bod y sgôr yn ymddangos yn amlwg, hyd yn oed os nad ydynt yn cyrchu eich hafan. 

Fel rheol, os gall y defnyddiwr ddewis neu archebu bwyd heb allu gweld y sgôr hylendid o fewn ei faes gwelediad, nid ystyrir bod y sgôr hylendid wedi'i rhoi mewn man lle mae'n hawdd ei gweld.

Arddangos ar y wefan 

Mae llawer o fusnesau bwyd yn cymryd archebion yn uniongyrchol trwy eu gwefannau. Gallwch arddangos eich sgôr ym mhennyn eich gwefan, ar y fwydlen, neu mewn unrhyw fan cyn i gwsmer ddewis neu archebu bwyd. Rhaid i leoliad eich sgôr ar-lein fodloni'r egwyddorion arweiniol:   

  • A all eich cwsmeriaid weld sgôr eich busnes yn hawdd?
  • A all eich cwsmeriaid ddarllen sgôr eich busnes yn hawdd? 
  • A yw eich sgôr yn weladwy cyn y pwynt lle gall cwsmeriaid ddewis neu archebu bwyd, p’un bynnag sy'n dod gyntaf ar lwybr y defnyddiwr?

Lawrlwytho eich sgôr 

Mae ystod o delweddau sgoriau hylendid bwyd  wedi eu dylunio gyda gwahanol feintiau a fformatau fel y gallwch eu haddasu i weddu i ofynion arddangos ar-lein eich busnes. Mae'r sgoriau ar gael i’w lawrlwytho yn Saesneg ac mewn fformat dwyieithog Cymraeg i fusnesau yng Nghymru.   

Os ydych wedi cofrestru eich busnes bwyd ond heb gael sgôr eto, gallwch arddangos 'aros am arolygiad' ar gyfer busnesau yn Lloegr a Gogledd Iwerddon neu 'aros am sgôr' ar gyfer busnesau yng Nghymru. Mae delweddau wedi'u darparu ar gyfer pob sgôr, o ‘0 – angen gwella ar frys’ i ‘5 – da iawn’.

Cael cod ar gyfer eich sgôr

Os ydych yn arddangos eich sgôr ar eich gwefan, gallwch fewnosod y cod javascript ar gyfer y sgôr berthnasol yn hytrach na lawrlwytho ffeil y ddelwedd a’i storio’n lleol. 

Mae hyn oherwydd bod y cod javascript wedi’i ddatblygu i ddiweddaru’n awtomatig os bydd eich sgôr yn newid. Felly, dim ond unwaith y bydd angen gwneud hyn. 

Os byddwch yn dewis lawrlwytho ffeil y ddelwedd yn uniongyrchol, dylech sicrhau eich bod yn gwneud y newidiadau perthnasol i’r sgôr ar bob un o’ch llwyfannau digidol, os bydd eich sgôr yn newid.

Gwefannau trydydd partïon

Ar gyfer busnesau sy'n cymryd archebion trwy lwyfan neu wefan cydgasglu trydydd parti, mae'n bosib bod eich sgôr wedi'i harddangos ar eu llwyfan yn barod. 

Os nad yw eich sgôr wedi'i harddangos yn gywir, dylech gysylltu â'r llwyfan cydgasglu i ddiweddaru hyn. 

Dylai gweithredwyr a datblygwyr gwefannau trydydd parti adolygu Rhyngwyneb Rhaglennu Cymwysiadau’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd er mwyn creu cyngor mwy penodol ar sut mae sicrhau bod eu llwyfannau’n bodloni gofynion arddangos y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Arddangos ar y cyfryngau cymdeithasol 

Mae llawer o fusnesau bwyd yn defnyddio’r cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo eu cynhyrchion a chymryd archebion ar-lein. 

Wrth gymhwyso'r egwyddorion arweiniol  o ran sicrhau bod sgoriau’n hawdd eu gweld a’u darllen  cyn archebu bwyd, dylech drin eich tudalennau busnes ar y cyfryngau cymdeithasol fel y prif fan gwerthu ar gyfer eich cwsmeriaid. 

Yn yr un modd â safleoedd ffisegol, dylech arddangos eich sgôr ar eich holl sianeli ar y cyfryngau cymdeithasol, gan gynnwys lle y gellir wneud archebion trwy wasanaeth negeseuon. 

Mae yna lawer o wahanol opsiynau ar gyfer arddangos sgoriau ar-lein ar draws y cyfryngau cymdeithasol. Isod rydym yn rhoi argymhellion ar gyfer sut y gallwch gydymffurfio ar draws gwahanol lwyfannau’r cyfryngau cymdeithasol. 

Lluniau isod at ddiebenion enghreifftiol yn unig.

Facebook

Gallai rhai busnesau gymryd archebion trwy neges uniongyrchol ar Facebook neu drwy Facebook Marketplace.

Wrth werthu bwyd trwy Facebook, dylech sicrhau y canlynol: 

  • bod eich sgôr yn cael ei harddangos yn barhaol ac mewn modd sefydlog ar eich proffil ac y gall cwsmeriaid ei gweld pan fyddant yn ymweld â’ch tudalen.
  • bod y sgôr yn ddigon mawr fel y gellir ei darllen yn hawdd ac nad yw’n lleihau’n sylweddol o ran ei maint pan gaiff ei chyrchu trwy ddyfais symudol.

Gellir cyflawni hyn trwy arddangos eich sgôr fel rhan o ddelwedd clawr eich proffil Facebook, fel postiad Facebook wedi'i binio, neu yn y rhestriad ei hun ar Facebook Marketplace.

Delwedd clawr Facebook 

Delwedd Facebook gyffredinol

Gallwch arddangos eich sgôr yn amlwg trwy fewnosod y ddelwedd berthnasol o’r sgôr yn eich delwedd clawr proffil. Dylid ychwanegu hon at ochr dde delwedd y clawr fel nad yw'n gwrthdaro â'ch delwedd proffil.

Gellir mewnosod y sgôr yn hawdd ar ddelwedd eich clawr trwy ddefnyddio offer golygu delweddau ar-lein rhad ac am ddim fel PIXLR neu Canva.

Postiad Facebook wedi'i binio 

Delwedd Facebook - postiad wedi'i binio

Gallwch uwchlwytho eich sgôr fel postiad unigol cyn belled â'i fod wedi'i binio i'ch proffil fel ei fod yn ymddangos yn amlwg ar frig eich tudalen.

Bydd methu â phinio'r postiad yn golygu y bydd postiadau yn y dyfodol yn gwthio’r sgôr ymhellach i lawr ffrwd eich tudalen gan ei gwneud hi'n anodd i gwsmeriaid ddod o hyd iddi. Ni fyddai hyn yn bodloni egwyddorion  arweiniol y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd parthed arddangos sgoriau. 

Trwy ychwanegu postiad wedi'i binio, gallwch roi lle parhaol ar gyfer eich sgôr ar eich proffil a rhoi unrhyw gyd-destun ychwanegol yn y testun sy'n cyd-fynd ag e. 

Facebook Marketplace 

Mae rhai busnesau bwyd a defnyddwyr unigol yn gwerthu bwyd yn uniongyrchol trwy Facebook Marketplace. 

I arddangos sgôr ar Facebook Marketplace, dylech gynnwys delwedd eich sgôr yn yr holl bostiadau sy’n ymwneud â’r rhestriad a'r testun sy’n cyd-fynd ag e.

Gellir gwneud hyn trwy ychwanegu'r sgôr fel troshaen at y ddelwedd gyntaf yn y rhestriad, neu drwy gynnwys delwedd o'r sgôr lawn yn y carwsél. 

Gellir ychwanegu delwedd o’r sgôr yn hawdd at ddelwedd y rhestriad gan ddefnyddio offer golygu delweddau ar-lein rhad ac am ddim fel PIXLR neu Canva.

Facebook Marketplace (Hysbyseb) - Cymraeg

Instagram

Ar Instagram, dylech arddangos eich sgôr ar eich proffil mewn modd amlwg a sefydlog. 

Yn ogystal ag arddangos eich sgôr ar ffurf delwedd, gallwch gynnwys disgrifiad ysgrifenedig o’ch sgôr ym mlwch bywgraffiad eich cyfrif, ond ni ddylid trin y testun fel dewis amgen i ddefnyddio llun o’ch sgôr.

Fel Facebook, gallwch hefyd binio neges i frig eich proffil Instagram.

Os na fyddwch chi’n pinio’r neges, bydd unrhyw negeseuon yn y dyfodol yn gwthio’ch sgôr ymhellach i lawr eich tudalen. Byddai hyn yn ei gwneud yn anodd i gwsmeriaid ddod o hyd i’ch sgôr ac ni fyddai’n bodloni egwyddorion arweiniol arddangos y CSHB. 

Trwy binio neges, bydd lle parhaol ar gyfer eich sgôr ar eich proffil Instagram.

Twitter/X

Wrth gymhwyso’r egwyddorion arweiniol  at dudalen proffil Twitter eich busnes, dylech wneud y canlynol:

  • Arddangos eich sgôr mewn modd parhaol a sefydlog ar eich proffil. 
  • Sicrhau bod y sgôr yn ddigon mawr fel y gellir ei darllen yn hawdd ac nad yw’n lleihau’n sylweddol o ran ei maint pan gaiff ei chyrchu trwy ddyfais symudol.
  • Gellir cyflawni hyn trwy arddangos eich sgôr fel rhan o ddelwedd pennyn eich proffil Twitter neu fel trydariad wedi’i binio. 

Delwedd pennyn Twitter/X

Gallwch arddangos eich sgôr yn amlwg trwy ei mewnosod yn eich delwedd pennyn. Dylid ychwanegu hon at ochr dde delwedd y pennyn fel nad yw'n gwrthdaro â'ch delwedd proffil.

Gall dewis delweddau addas i fewnosod eich sgôr ynddynt wella eich gweithgarwch hyrwyddo a’i gwneud yn haws i gwsmeriaid pan fyddant yn cyrchu eich tudalen.

Gellir ychwanegu delwedd o’r sgôr yn hawdd gan ddefnyddio offer golygu delweddau ar-lein rhad ac am ddim fel PIXLR neu Canva

Pennyn Twitter

Trydariad wedi’i binio

Gallwch ychwanegu eich sgôr fel trydariad unigol, ond dylai hwn gael ei binio i’ch proffil fel y bydd yn ymddangos yn amlwg ar frig eich tudalen. 

Bydd methu â phinio'r postiad yn golygu y bydd trydariadau yn y dyfodol yn gwthio’r sgôr ymhellach i lawr eich ffrwd gan ei gwneud hi'n anodd i gwsmeriaid ddod o hyd iddi. Ni fyddai hyn yn bodloni egwyddorion  arweiniol y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd parthed arddangos sgoriau. 

Trwy ychwanegu trydariad wedi'i binio, gallwch roi lle parhaol ar gyfer eich sgôr ar eich proffil a rhoi unrhyw gyd-destun ychwanegol yn y testun sy'n cyd-fynd ag e. 

Trydariad wedi'i binio