Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyflenwi a Gwerthu Cig yn Uniongyrchol yn ystod Qurbani

Penodol i Gymru a Lloegr

Datganiad ar y cyd gan Is-grŵp y Gweithgor Partneriaeth ar Qurbani

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Mehefin 2022

Cefndir

Ym mis Ionawr 2020, sefydlodd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) grŵp i asesu materion yn ymwneud â lladd-dai sy’n gwerthu neu’n cyflenwi cig yn uniongyrchol i ddefnyddwyr o’u safle i ddeall rhagor am alw a blaenoriaethau defnyddwyr yn y maes hwn a sut y gellir sicrhau sicrwydd rheoliadol yn effeithiol.

Mae’r ASB yn cefnogi bod cynhyrchwyr â’r gallu i werthu cig yn uniongyrchol fel hyn i fodloni disgwyliad crefyddol, fel ymgymryd â Qurbani. Mae Qurbani yn ddefod o aberthu anifail da byw yn ystod gŵyl Fwslimaidd Eid al Adha sy’n cael ei dathlu bob blwyddyn.

Mae’r datganiad ar y cyd a ganlyn wedi’i gytuno gan y grŵp i hwyluso cyflenwi cig diogel i’r gymuned Fwslimaidd yn ystod Qurbani/Eid yng Nghymru a Lloegr yn unig, yn 2022.


Datganiad ar gyfer 2022

Mae aelodau Is-grŵp y Gweithgor Partneriaeth (PWG SG) ar gyflenwi uniongyrchol yn parhau i weithio gyda’i gilydd i ddatblygu dull hirdymor cynaliadwy a chymesur ar gyfer cyflenwi cig yn ystod Qurbani ac mae’r trafodaethau'n parhau i fod yn gynhyrchiol. 

Mae aelodau’r PWG SG yn cydnabod bod y cyflenwad uniongyrchol i ddefnyddwyr terfynol o ladd-dai yn weithgaredd wedi’i reoleiddio, ac yn cefnogi’r angen i alluogi cyflenwi cig i’r gymuned Fwslimaidd yn ystod Qurbani/Eid 2022 o dan amodau sy’n sicrhau lefelau priodol o ddiogelwch i iechyd y cyhoedd.

Felly, rydym ni wedi cytuno y bydd y mesurau lliniaru arfaethedig a weithredwyd yn ystod Qurbani 2020 a 2021 yn cael eu gwella a’u cymhwyso yng Nghymru ac yn Lloegr ar gyfer Qurbani 2022. 

Bydd rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar dudalen ‘Cyfleoedd Halal’ ar wefan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB).

Y tu allan i gwmpas y datganiad ar y cyd hwn: 

  • Gwerthu a chyflenwi Busnes i Fusnes o dan Reoliad (EU) a ddargedwir 2017/1981. 
  • Gofynion Covid-19 mewn perthynas â chanllawiau busnesau ar gadw pellter cymdeithasol yn unol â chyngor perthnasol y llywodraeth a oedd ar waith ar y pryd.

Cyflenwi Uniongyrchol yn ystod Qurbani 2022

Rydym wedi datblygu dogfennaeth weithredu fanwl well i gefnogi gweithredwyr busnesau bwyd a swyddogion sy’n ystyried yr egwyddorion lliniaru risg canlynol: 

  • Oeri cig yn rhannol cyn ei gyflenwi’n uniongyrchol 
  • Gwirio cyflenwad yn unig i ddefnyddwyr terfynol, neu eu cynrychiolwyr, gyda datganiad gan y cwsmer neu brawf olrhain ar gyfer yr holl werthiannau/cyflenwi perthnasol
  • Rhoi gwybodaeth am iechyd a chyngor i ddefnyddwyr
  • Mesurau ar waith i leihau croeshalogi, gan gynnwys deunydd lapio addas
  • Arddangos samplu microbiolegol addas a/neu hanes hylendid
  • Cynnwys dyddiad ac amser y lladd ar label y Qurbani 
  • Mesurau lliniaru ychwanegol ar gyfer cyflenwi cig Offal

Cymeradwywyd y dull hwn gan Brif Weithredwr yr ASB a’r Tîm Rheoli Gweithredol.

Sefydliadau a gynrychiolir ar y PWG SG