Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad

Cyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha yng Nghymru a Lloegr

Penodol i Gymru a Lloegr

Ymgynghoriad ar newidiadau i ofynion oeri cig ac offal Qurbani a gyflenwir gan ladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod Eid al-Adha.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 January 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 13 January 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Crynodeb o'r ymatebion

Cyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha yng Nghymru a Lloegr: crynodeb o ymatebion rhanddeiliaid (Saesneg yn unig)

Roeddem yn croesawu barn rhanddeiliaid ynghylch a ddylid cyflwyno newidiadau i ofynion oeri cig ac offal Qurbani a gyflenwir o ladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod Eid al-Adha. Mae Qurbani yn golygu aberth, a’r enw ar y cig a ddaw o’r aberth yw cig Qurbani.

Roedd yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y cynigion a ddisgrifir yn y ddogfen hon a, gan ddibynnu ar y canlyniad, mae’n bosibl y bydd ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal i ganolbwyntio ar weithredu.

Mae’r dull dau gam hwn yn ei gwneud yn bosib i randdeiliaid ymgysylltu a chyfrannu drwy gydol y broses. 

I bwy fydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

Roedd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb i’r canlynol: 

  • Defnyddwyr (yn enwedig y gymuned Fwslimaidd sy’n bwyta cig ac offal Qurbani)
  • Cynrychiolwyr y gymuned Fwslimaidd
  • Gweithredwyr lladd-dai sy'n cyflenwi cig ac offal Qurbani
    Cigyddion sy’n derbyn/cyflenwi cig ac offal Qurbani
    Swyddogion gorfodi cyfraith bwyd
    Cyrff masnach y diwydiant cig

Pwnc yr ymgynghoriad 

Testun yr ymgynghoriad hwn yw cyflenwi cig ac offal Qurbani o ladd-dai yng Nghymru a Lloegr i ddefnyddwyr terfynol yn ystod cyfnod Eid al-Adha.

Mae hyn wedi'i gyhoeddi ar y cyd â’r asesiad risg canlynol a gomisiynwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (Saesneg yn unig).

Diben yr ymgynghoriad 

Diben yr ymgynghoriad hwn oedd ceisio safbwyntiau a sylwadau ehangach gan randdeiliaid ynghylch a ddylid cyflwyno newidiadau i ofynion oeri cig ac offal Qurbani a gyflenwir o ladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod Eid al-Adha. Er mwyn datblygu’r gwaith hwn, rydym yn ceisio adborth drwy’r ymgynghoriad cyhoeddus hwn ar y ddau opsiwn canlynol:

OPSIWN A – Gorfodi’r ddeddfwriaeth bresennol yn llawn, hynny yw diddymu'r dull hyblyg cyfredol o orfodi yn raddol, gan gadw'n llawn at y gofynion oeri ar gyfer pob cig ac offal cyn gadael y lladd-dy. 

OPSIWN B – Cyflwyno newid deddfwriaethol i ganiatáu rhanddirymiad rhag y gofynion oeri ar gyfer cig ac offal Qurbani o ladd-dai yng Nghymru a Lloegr. 

Yn ogystal â safbwyntiau ar yr opsiynau uchod, hoffem hefyd gael adborth ar y canlynol:

  • sut y byddai'r cynigion yn effeithio ar ddefnyddwyr a gweithredwyr busnesau bwyd (cadarnhaol a negyddol)
  • a yw rhanddeiliaid wedi ystyried unrhyw faterion eraill o ddiddordeb nad ydynt wedi’u crybwyll yn y pecyn ymgynghori
  • sut mae cyflenwad cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha yn effeithio ar swyddogion gorfodi cyfraith bwyd awdurdodau cymwys (cadarnhaol a negyddol)

Asesiad Risg

Asesiad o'r risg i ddefnyddwyr o ganlyniad i darfu ar y gadwyn oer wrth gyflenwi cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol (Saesneg yn unig).

Sut i ymateb   

Gofynwyd i ymatebion ddod i law erbyn diwedd y dydd 11 Medi 2022. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli).

Dylech ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb drwy anfon e-bost at meathygiene@food.gov.uk.

Manylion yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau’r diwydiant, awdurdodau gorfodi, defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill â buddiant ynghylch a ddylid cyflwyno newidiadau i ofynion oeri cig ac offal Qurbani a gyflenwir yn uniongyrchol o ladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod Eid al-Adha.

Ceir rhagor o fanylion yn y  ddogfen ymgynghori .

Rydym wedi penderfynu bod ymgynghoriad 12 wythnos o hyd yn briodol i geisio safbwyntiau rhanddeiliaid ehangach. Y nod yw cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion o fewn tri mis wedi i’r ymgynghoriad ddod i ben

Darllen y ddogfen ymgynghori lawn

Ymgynghoriad llawn ar gyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha yng Nghymru a Lloegr (fersiwn hygyrch)

England and Wales

Effeithiau

Mae’r ASB wedi asesu’r effeithiau ar y risg i’r defnyddiwr terfynol o ganlyniad i darfu ar y gofynion oeri yn yr asesiad risg

Nid yw'r ASB wedi cynnwys asesiad effaith busnes llawn fel rhan o’r ymgynghoriad hwn. Bydd asesiad llawn o'r costau a'r buddion i ddefnyddwyr, y diwydiant, awdurdodau lleol a’r Llywodraeth yn sgil unrhyw newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol yn cael ei ddadansoddi mewn ail ymgynghoriad os caiff y dull gweithredu hwnnw ei ddatblygu.


Mae'r ASB wedi crynhoi'r effaith ddisgwyliedig ar ddefnyddwyr a’r diwydiant yn sgil y mesurau lliniaru a arweinir gan y diwydiant, ac rydym yn croesawu unrhyw wybodaeth bellach am y costau a'r buddion a brofwyd. Rydym hefyd yn croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid ar ein hasesiad o effaith y cynigion.

Cynnwys perthnasol: Cyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha

  • Asesiad Risg yr ASB: Asesiad o'r risg i ddefnyddwyr o ganlyniad i darfu ar y gadwyn oer wrth gyflenwad cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol.
  • Datganiad ar y Cyd gan Is-grŵp y Gweithgor Partneriaeth Qurbani (QPWG SG)
  • Dogfen Gweithdrefnau Gweithredu Qurbani ar Wefan AHDB 

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

Ar ôl i’r ymgynghoriad hwn ddod i ben, bydd yr ymatebion a ddaw i law yn cael eu crynhoi a’u dadansoddi, a bydd dolen i’r crynodeb hwnnw yn cael ei chynnwys ar y dudalen hon.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym ni’n trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau

Mwy o wybodaeth

Mae'r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi. Os cynhyrchwyd Asesiad Effaith, mae wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na chynhyrchwyd Asesiad Effaith, rhoddir y rheswm yn y ddogfen ymgynghori.

Cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion

O fewn tri mis ar ôl i’r ymgynghoriad ddod i ben, byddwn yn anelu at gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion a chynnwys dolen iddo ar y dudalen hon. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut yr ydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau.

Mwy o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori llywodraeth y DU.. Os oes Asesiad Effaith wedi’i lunio, bydd wedi’i gynnwys yn y dogfennau ymgynghori. Os na ddarparwyd Asesiad Effaith, nodir y rheswm dros hynny y ddogfen ymgynghori.