Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Ymgynghoriad llawn ar Gyflenwi Cig ac Offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha yng Nghymru a Lloegr

Penodol i Gymru a Lloegr

Ymgynghoriad llawn ar y newidiadau i ofynion oeri ar gyfer cig ac offal Qurbani a gyflenwir gan ladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod Eid al-Adha.

Bydd yr ymgynghoriad gwn o ddiddordeb i'r canlynol:

  • defnyddwyr (yn enwedig y gymuned Fwslimaidd sy'n bwyta cig ac offal Qurbani)
    cynrychiolwyr y gymuned Fwslimaidd
    gweithredwyr lladd-dai sy'n cyflenwi cig ac offal Qurbani
    cigyddion sy’n derbyn/cyflenwi cig ac offal Qurbani
    Swyddogion Gorfodi Cyfraith Bwyd
    cyrff masnach y diwydiant

Pwnc a phwrpas yr ymgynghoriad

Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn croesawu safbwyntiau rhanddeiliaid ynghylch a ddylid cyflwyno newidiadau i ofynion oeri cig ac offal Qurbani a gyflenwir o ladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod Eid al-Adha. 


Mae cwmpas yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys cig carcas buchol, cig carcas defaid a chig carcas geifr) ac offal coch cysylltiedig (iau/afu, calon, ysgyfaint ac arennau) yr anifeiliaid hynny a leddir mewn lladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod Eid al-Adha ac a gyflenwir yn uniongyrchol i'r defnyddiwr neu a gyflenwir trwy gigydd neu gyfanwerthwr sy'n cyflawni archebion cyfredol gan ddefnyddwyr terfynol adnabyddadwy (cyfeirir at hyn y ddogfen hon fel “cyflenwi uniongyrchol”). Mae unrhyw drafodion neu gyflenwi busnes-i-fusnes arall y tu allan i'r cwmpas. Mae cig ac offal Qurbani ar gyfer y farchnad allforio hefyd y tu allan i'r cwmpas.


Mae'r ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio ar y cynigion a ddisgrifir yn y ddogfen hon a, gan ddibynnu ar y canlyniad, mae’n bosibl y bydd ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal i ganolbwyntio ar weithredu.  Mae’r dull dau gam hwn yn ei gwneud yn bosibl i randdeiliaid ymgysylltu a chyfrannu drwy gydol y broses. 


Cyfeirir at Eid al-Adha hefyd fel Gŵyl yr Aberth, gŵyl Islamaidd bedwar diwrnod lle mae anifeiliaid yn cael eu haberthu a'u bwyta fel rhan o'r dathliad. Mae'n well gan lawer o ddefnyddwyr Mwslimaidd gasglu eu cig ac offal Qurbani cyn gynted â phosibl ar ôl i’r anifail gael ei ladd gan fod hyn yn nodi dechrau'r ŵyl. Dim ond y cig o anifeiliaid a aberthwyd yn ystod yr ŵyl sy'n gymwys i  gyflawni'r rhwymedigaeth grefyddol.  


Mae fframwaith rheoleiddio clir ar waith sy'n nodi'r gofynion oeri ar gyfer cig ac offal y mae'n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd gadw atynt. Gall hyn atal defnyddwyr rhag cael eu cig ac offal Qurbani cyn gynted ag y byddent yn dymuno oherwydd gall gymryd sawl awr ar ôl lladd i garcas gyrraedd y tymereddau craidd gofynnol (7°c ar gyfer carcas a 3°c ar gyfer offal). 

Sut i ymateb

Gofynnir bod ymatebion yn dod i law erbyn diwedd y dydd 11 Medi 2022. Yn eich ymateb, nodwch a ydych chi’n ymateb fel unigolyn preifat neu ar ran sefydliad neu gwmni, gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli.

Dylech ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch anfon eich ymateb dros e-bost i meathygiene@food.gov.uk.

Byddwn yn ystyried y sylwadau a wneir mewn ymateb i’r ymgynghoriad pan fyddwn yn asesu'r dull hirdymor o gyflenwi cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol yn ystod Eid al-Adha.  Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am sut rydym yn trin data a ddarperir mewn ymateb i ymgynghoriadau yn ein hysbysiad preifatrwydd am ymgynghoriadau

Cyflwyniad

Mae rhestr o fyrfoddau / acronymau ar gael yn Atodiad A.

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau defnyddwyr, y diwydiant, awdurdodau gorfodi, defnyddwyr a rhanddeiliaid eraill â buddiant ynghylch a ddylid cyflwyno newidiadau i ofynion oeri cig ac offal Qurbani a gyflenwir yn uniongyrchol o ladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod cyfnod Eid al-Adha. 


Mae cwmpas yr ymgynghoriad hwn yn cynnwys cig carcas buchol, cig carcas defaid a chig carcas geifr ac offal coch cysylltiedig (iau/afu, calon, ysgyfaint ac arennau) yr anifeiliaid hynny a gaiff eu lladd mewn lladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn ystod Eid al-Adha ac a gyflenwir yn uniongyrchol i'r defnyddiwr neu a gyflenwir trwy gigydd neu gyfanwerthwr sy'n cyflawni archebion cyfredol gan ddefnyddwyr terfynol adnabyddadwy (cyfeirir at hyn y ddogfen hon fel “cyflenwi uniongyrchol”).  Mae unrhyw drafodion neu gyflenwi busnes-i-fusnes arall y tu allan i'r cwmpas. Mae cig ac offal Qurbani ar gyfer y farchnad allforio hefyd y tu allan i'r cwmpas.

Gŵyl Fwslimaidd – Eid al-Adha/Eid Qurbani

Eid al-Adha / Eid Qurbani, a elwir hefyd yn "Ŵyl yr Aberth", yw'r ail o ddwy ŵyl Islamaidd (Eid al-Fitr ac Eid al-Adha) sy'n cael eu dathlu ledled y byd bob blwyddyn. Ystyrir mai hon yw’r fwyaf sanctaidd o’r ddwy ŵyl. Mae'n anrhydeddu parodrwydd Ibrahim i aberthu ei fab fel gweithred o ufudd-dod i orchymyn Duw. Ond, ac yntau ar fin aberthu ei fab, rhoddodd Dduw hwrdd i Ibrahim ei aberthu yn ei le. I gofio am yr ymyrraeth hon, aberthir anifail yn ddefodol a'i rannu'n dair rhan. Argymhelliad yw hwn; gall perfformiwr y Qurbani benderfynu rhoi'r carcas cyfan i elusen neu gall benderfynu peidio â rhoi unrhyw gig o gwbl i elusen.  Os caiff ei rannu, rhoddir un rhan i'r tlawd a'r anghenus, cedwir rhan arall gartref, a rhoddir y drydedd ran i berthnasau/ffrindiau. Dethlir Eid al-Adha ar ddegfed diwrnod Dhū al-Hijjah, sef deuddegfed mis, a mis olaf, y calendr Islamaidd. Yn draddodiadol, mae'n para pedwar diwrnod calendr. 

Dim ond ar ôl gweddïau Eid ar ddiwrnod cyntaf Eid al-Adha y gall gweithred Qurbani (yr aberth) ddechrau. Felly, y cynharaf y gellir lladd yr anifail Qurbani cyntaf yw tua 30-45 munud ar ôl machlud yn lleoliad y lladd-dy. Yr amser lladd/aberthu hwyraf yw machlud haul ar drydydd neu bedwerydd diwrnod yr ŵyl (gan ddibynnu ar safbwynt crefyddol y defnyddiwr). Mae'r ffenestr gymharol fer hon yn rhoi cryn bwysau ar y lladd-dai hynny sy’n cyflenwi cig halal dros y cyfnod hwn.  

Mae'n well gan rai defnyddwyr Mwslimaidd gasglu eu cig ac offal Qurbani cyn gynted â phosibl ar ôl i’r anifail gael ei ladd gan fod hyn yn nodi dechrau'r ŵyl. Gall gymryd sawl awr i garcas ac offal gyrraedd tymheredd craidd o 7°c a 3°c, felly gall cadw at y gofynion oeri atal defnyddwyr rhag cael gafael ar gig ac offal Qurbani mor fuan ag y byddent yn dymuno ei gael.Gofynnwyd am gyngor gan y Prif Imam ym Mosg Canolog Llundain, a gadarnhaodd mai arfer yw cyflenwi cig Qurbani yn gyflym, nid rhwymedigaeth grefyddol.

Deddfwriaeth Gyfredol 

Mae Atodiad B yn rhoi crynodeb o'r ddeddfwriaeth berthnasol.

Mae cyflenwi cig ac offal o'r lladd-dy i ddefnyddwyr terfynol yn ddarostyngedig i ofynion Rheoliad a Ddargedwir (CE) 852/2004.  

Mae'r gofynion storio a chludo a nodir yn Adran I, Pennod VII (storio a chludo), Atodiad III o Reoliad a Ddargedwir (CE) 853/2004 (fel y'i diwygiwyd) yn gymwys i unrhyw gig ac offal a gynhyrchir mewn lladd-dy.  

Mae'r gofynion hyn yn ei gwneud yn ofynnol i gig a werthir i ddefnyddwyr terfynol gael ei oeri i dymheredd craidd o 7°C (carcas) neu 3°C (offal) mewn lladd-dai cig coch.  

Mae’r ASB yn cydnabod y farn wyddonol a gyhoeddwyd gan Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop (EFSA) yn 2014 am y risgiau i iechyd y cyhoedd sy’n gysylltiedig â chynnal y gadwyn oer pan fydd cig coch (ac eithrio offal) yn cael ei storio a’i gludo. Mae hyn yn awgrymu ei bod yn bosibl pennu tymereddau targed ar gyfer carcasau mewn lladd-dai sy’n uwch na’r 7°C a orchmynnir ar hyn o bryd ym mhob rhan o’r carcas (gan gynnwys y craidd), law yn llaw â chyfnodau cludo gwahanol, heb achosi i fwy o facteria dyfu. Ar sail barn EFSA, ac o ystyried yr offer asesu sydd ar gael, mae'n bosibl cyflwyno dulliau amgen mwy hyblyg o ymdrin â’r amodau ynglŷn â thymheredd pan fydd cig ffres yn cael ei gludo, yn enwedig yn achos carcasau neu doriadau mwy, heb gynyddu’r risg i iechyd y cyhoedd, a heb wyro oddi wrth yr egwyddor sylfaenol y dylid oeri’r cig hwnnw i 7°C drwy ostwng y tymheredd yn barhaus. 

Mae Rheoliad a Ddargedwir (CE) 853/2004 (fel y’i diwygiwyd) yn caniatáu i gig sy'n cael ei gludo o fusnes i fusnes, e.e. o ladd-dy at gigydd, gael ei oeri’n rhannol. Mae’n darparu rhanddirymiad i'r gofynion oeri ar gyfer cig carcas yn unig, sy'n ei gwneud yn bosibl i gig gyrraedd y defnyddiwr yn gyflymach ar ôl i’r anifail gael ei ladd. Cafodd y gofynion hyn eu dargadw yng nghyfraith y DU, ac maent yn parhau i fod ar waith.  Fodd bynnag, nid yw'r hyblygrwydd/rhanddirymiadau cyfredol yn caniatáu i gig gael ei gyflenwi i'r defnyddiwr terfynol heb ei oeri'n llawn.

Yr awdurdod cymwys sy'n gyfrifol am orfodi rheoliadau hylendid bwyd.  Yng Nghymru a Lloegr, mae'r awdurdod cymwys yn dibynnu ar y math o sefydliad. Yr ASB yw’r awdurdod cymwys ar gyfer pob lladd-dy. Rhaid i unrhyw sefydliad sy'n gweithredu fel busnes bwyd ac sydd wedi'i gymeradwyo gan yr ASB/awdurdod lleol, neu sydd wedi'i gofrestru gyda'r awdurdod lleol, gadw at y rheoliadau hylendid bwyd. 

Mae lladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn cael eu cymeradwyo gan yr ASB, ond gall cig Qurbani gael ei gyflenwi i ddefnyddwyr trwy gigyddion a chyfanwerthwyr a reoleiddir gan yr awdurdod lleol.

Is-grŵp Gweithgor Partneriaeth Qurbani (SGQPWG) a datblygu mesurau lliniaru 

Yn 2019, ffurfiwyd is-grŵp o Weithgor y Bartneriaeth  â’r Diwydiant/ASB  (QPWG SG) i ystyried y cyflenwad o gig ac offal Qurbani i’r defnyddiwr terfynol yn uniongyrchol o’r lladd-dy.

Mae QPWG SG yn grŵp sy’n gweithredu ar draws y Deyrnas Unedig (DU), sy’n cynnwys cyrff masnach y diwydiant cig, gweithredwyr busnesau bwyd, sefydliadau ardystio Mwslimaidd (y Pwyllgor Monitro Halal (HMC) a’r Awdurdod Bwyd Halal (HFA)), y Gymuned Fwslimaidd, awdurdodau lleol a chynghorwyr milfeddygol a pholisi yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban. Ceir rhestr lawn o'r sefydliadau a gynrychiolir yn y grŵp yn Atodiad C .

Yn 2020, cynigiodd cynrychiolwyr y diwydiant nifer o fesurau lliniaru (egwyddorion) i'w rhoi ar waith yn ystod Eid al-Adha i'r ASB eu hystyried er mwyn caniatáu i weithredwyr busnesau bwyd fodloni gofynion y gymuned Fwslimaidd, gan ddiogelu defnyddwyr ar yr un pryd. Wrth ddatblygu'r mesurau lliniaru, ystyriodd y QPWG SG y risgiau diogelwch bwyd sy'n ymwneud â rheoli tymheredd â’u cydbwyso â’r risgiau posibl i'r defnyddiwr terfynol. 

Penderfynodd yr ASB ddefnyddio dull cymesur o orfodi'r gofynion oeri ar gyfer cig ac offal Qurbani a gyflenwir heb ei oeri’n llawn.   Ategwyd y dull gorfodi gan nifer o fesurau lliniaru risg dan arweiniad y diwydiant a weithredwyd gan weithredwyr busnesau bwyd. Dim ond am y pedwar diwrnod ar ôl cychwyn gŵyl Eid al-Adha y caniateir defnyddio’r mesurau lliniaru hyn, sy’n cynnwys oeri rhannol, gwella’r prosesau olrhain, lleihau croeshalogi, a rhoi cyngor i ddefnyddwyr i gyd-fynd â'r cynhyrchion. 

Comisiynodd yr ASB asesiad risg  i werthuso a oedd unrhyw risg ychwanegol i ddefnyddwyr o ganlyniad i gyflenwi a bwyta cig ac offal Qurbani heb ei oeri'n llawn yn ystod Eid al-Adha.  

Gan ddefnyddio data a gasglwyd gan weithredwyr busnesau bwyd, milfeddygon swyddogol a'r cyhoedd, canfu’r asesiad o’r risg i ddefnyddwyr yn sgil tarfu ar y gadwyn oer wrth gyflenwi cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol y canlynol: 

  • Y prif bathogenau sy’n peri pryder yw Salmonella enterica nad yw’n ddeiffoidaidd, Escherichia coli sy’n cynhyrchu tocsin Shiga, a Clostridium perfringens oherwydd eu presenoldeb posibl a’u twf mewn cig eidion, cig oen a chig gafr.
    Roedd yr asesiad risg yn ystyried gwybodaeth a gasglwyd o arolygon a oedd yn targedu gweithredwyr busnesau bwyd, milfeddygon swyddogol a defnyddwyr yn ogystal â data gwyddonol cyhoeddedig ar y pathogenau.
    Yn y senario nodweddiadol, sef y canlyniad mwyaf tebygol yn seiliedig ar y data a gasglwyd, nid oes unrhyw wahaniaeth sylweddol mewn risg i iechyd defnyddwyr, a phennwyd lefel y risg fel Isel Iawn (“annhebygol iawn, ond nid yn amhosibl”). 
    Mewn sefyllfa waethaf y gellir ei rhagweld yn rhesymol, gallai lefelau rhywogaethau Salmonela ac  Escherichia coli  sy’n cynhyrchu tocsin Shiga gynyddu o 10 i 100 gwaith y gram, gan gyflwyno risg uwch i'r defnyddiwr. Pennwyd y lefel risg hon fel Isel (“annhebygol ond mae’n digwydd”).
    Daeth yr asesiad risg i’r casgliad bod ansicrwydd sylweddol yn parhau, gan gynnwys o ran tymheredd y carcas a’r offal pan fyddant yn cyrraedd defnyddwyr, y data epidemiolegol sy’n cysylltu achosion o salwch â bwyta cig ac offal Qurbani, a pha mor gyffredin yw’r tri phathogen mewn cig, yn enwedig cig ac offal gafr, a lefelau cyfrifo’r pathogenau hynny

O ystyried y canfyddiadau hyn, mae’r ASB wedi penderfynu parhau i ddefnyddio’r mesurau lliniaru a arweinir gan y diwydiant yn 2022 tra bod dull hirdymor yn cael ei ddatblygu. 

Bydd yr asesiad effaith, canlyniadau'r ymarfer ymgynghori hwn, a gwaith QPWG SG hyd yma yn llywio dull hirdymor yr ASB o gyflenwi cig Qurbani ac offal yn uniongyrchol.

Mae rhestr gyfunol o fesurau lliniaru a arweinir gan y diwydiant a fydd yn cael eu rhoi ar waith yn ystod Eid al-Adha yn 2022 wedi’i chyhoeddi ar wefan y Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB).

Prif gynigion

Mae’r ASB yn ceisio casglu adborth ar y ddau ddewis canlynol ar gyfer dull hirdymor o gyflenwi cig ac offal Qurbani o ladd-dai yng Nghymru a Lloegr yn y dyfodol:

DEWIS A – Gorfodi’r ddeddfwriaeth gyfredol yn llawn, hynny yw diddymu'r dull hyblyg cyfredol o orfodi yn raddol, gan gadw'n llawn at y gofynion oeri ar gyfer pob cig ac offal cyn gadael y lladd-dy. 

DEWIS B – Cyflwyno newid deddfwriaethol i ganiatáu rhanddirymiad rhag y gofynion oeri ar gyfer cig ac offal Qurbani o ladd-dai yng Nghymru a Lloegr.

Yn ogystal â safbwyntiau ar yr dewisiadau uchod, hoffem hefyd gael adborth ar y canlynol:

  • Sut  byddai'r cynigion yn effeithio ar ddefnyddwyr a gweithredwyr busnesau bwyd (cadarnhaol a negyddol).
    A yw rhanddeiliaid wedi ystyried unrhyw faterion eraill o ddiddordeb nad ydynt wedi’u crybwyll yn y pecyn ymgynghori?
    Sut mae cyflenwad cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha yn effeithio ar swyddogion gorfodi cyfraith bwyd awdurdodau cymwys (cadarnhaol a negyddol).

Gweler yr adran ar y broses ymgysylltu ac ymgynghori ar gyfer y cwestiynau penodol a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn. 

Effeithiau

Ar hyn o bryd mae'r ASB yn defnyddio dull dros dro, cymesur o orfodi'r gofynion oeri ar gyfer cig ac offal Qurbani sy'n cael ei gyflenwi heb ei oeri’n ddigonol. Os penderfynir mabwysiadu Dewis A (fel y disgrifir uchod), bydd y dull hyblyg cyfredol o orfodi yn cael ei ddileu'n raddol.  

Os penderfynir mabwysiadu Dewis B (fel y disgrifir uchod), byddai'r ASB yn cyflwyno rhanddirymiad statudol o'r gofynion oeri ar gyfer cig ac offal Qurbani. 

Nid yw'r ASB wedi cynnwys asesiad effaith busnes llawn fel rhan o'r ymgynghoriad hwn. Bydd asesiad llawn o'r costau a'r buddion i ddefnyddwyr, y diwydiant, awdurdodau lleol a'r Llywodraeth yn sgil unrhyw newidiadau deddfwriaethol yn y dyfodol yn cael ei ddarparu os penderfynir mabwysiadu’r dull gweithredu hwn. 

Mae crynodeb o’r effaith ddisgwyliedig ar ddefnyddwyr a’r diwydiant o ganlyniad i’r mesurau lliniaru a arweinir gan y diwydiant a gynhaliwyd rhwng 2020 a 2021 ac a fydd yn cael eu cynnal yn 2022 wedi’i nodi yn Atodiad D. Croesewir unrhyw wybodaeth bellach am y costau a'r buddion a brofwyd er mwyn llywio asesiadau effaith yn y dyfodol.

Y broses ymgysylltu ac ymgynghori

Mae’r gwaith ymgysylltu â’r grŵp QPWG SG wedi bod yn mynd rhagddo ers 2019 ac mae’r grŵp yn gefnogol o’r ymgynghoriad hwn gan yr ASB.  

Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid ehangach, hynny yw, defnyddwyr, y diwydiant, awdurdodau gorfodi a phartïon eraill â buddiant nad ydynt eto wedi cael cyfle i roi adborth mewn perthynas â chyflenwi cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol yn ystod Eid al-Adha yng Nghymru a Lloegr.

Y cwestiynau a ofynnir yn yr ymgynghoriad hwn:
(Wrth ymateb, nodwch a ydych yng Nghymru neu Loegr)
Cwestiynau i bawb:

  • Er mwyn datblygu’r gwaith hwn, byddem yn croesawu eich barn ar y ddau ddewis canlynol: (Rhowch gymaint o wybodaeth / rhesymu ag y gallwch dros eich ymateb.)

DEWIS A – Gorfodi’r ddeddfwriaeth gyfredol yn llawn, hynny yw, diddymu'r dull hyblyg cyfredol o orfodi yn raddol, gan gadw'n llawn at y gofynion oeri ar gyfer pob cig ac offal cyn iddynt adael y lladd-dy. 

DEWIS B – Cyflwyno newid deddfwriaethol i ganiatáu rhanddirymiad rhag y gofynion oeri ar gyfer cig ac offal Qurbani o ladd-dai yng Nghymru a Lloegr. 

  • Rhowch unrhyw fanylion/awgrymiadau ar fesurau lliniaru neu hyblygrwydd ychwanegol a ddylai gael eu hystyried, yn eich barn chi. 
    Yn ogystal â chyflenwi cig ac offal Qurbani yn ystod Eid al-Adha, a ydych yn ymwybodol o unrhyw amgylchiadau crefyddol / diwylliannol eraill pan fydd angen oeri carcasau am gyfnod cyfyngedig?  
    Eglurwch unrhyw feysydd o ddiddordeb adnabyddadwy sydd wedi’u hepgor o gwmpas yr ymgynghoriad hwn yn eich barn chi.    

Cwestiwn penodol i weithredwyr busnesau bwyd: 

  • Rhowch fanylion ynghylch sut y gallai Opsiwn B, y cynnig i gyflwyno newid deddfwriaethol i ganiatáu rhanddirymiad rhag  gofynion oeri, effeithio ar eich busnes (cadarnhaol neu negyddol).  
    Yn ogystal, nodwch pa fath o fusnes rydych yn ei gynrychioli (busnes mawr â 250+ o staff cyfwerth ag amser llawn (CALl), busnes canolig â 50-250 CALl, busnes bach â 10-49 CALl, busnes micro â 1-9 CALl).  

Cais i weithredwyr busnesau bwyd - nodwch eich manylion cyswllt os ydych yn fodlon cymryd rhan mewn arolygon casglu gwybodaeth yn y dyfodol i'n helpu i asesu effaith y cynnig hwn.

Cwestiwn penodol i Swyddogion Gorfodi Cyfraith Bwyd:

  • Disgrifiwch sut y byddai Dewis B, sef y cynnig i gyflwyno newid deddfwriaethol i ganiatáu rhanddirymiad rhag y  gofynion oeri, yn effeithio ar eich gwaith (cadarnhaol neu negyddol).  
    Yn ogystal, nodwch a ydych yn gweithio i awdurdod lleol, partner cyflawni'r ASB neu'r ASB ei hun.   
      

Eglurwch eich atebion a rhowch dystiolaeth lle bo modd.

Ymatebion

Gofynnir bod ymatebion yn dod i law erbyn diwedd y dydd 11 Medi 2022. Yn eich ymateb, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni, gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli.

Dylech ymateb i’r ymgynghoriad gan ddefnyddio’r arolwg ar-lein. Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch anfon eich ymateb dros e-bost i: meathygiene@food.gov.uk.

Ar ôl i'r ymgynghoriad hwn ddod i ben, bydd yr ymatebion a ddaw i law yn cael eu casglu a’u dadansoddi, a'u cyhoeddi wedyn ar www.food.gov.uk.  Byddwn yn ystyried y sylwadau a wneir yn ystod yr ymgynghoriad pan fyddwn yn asesu'r dull hirdymor o gyflenwi cig ac offal Qurbani yn uniongyrchol yn ystod Eid al-Adha.

Mae Gweinidogion ym mhob un o’r pedair gwlad wedi cytuno ar fframwaith cyffredin dros dro ar gyfer diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid. Paratowyd yr ymgynghoriad hwn yn unol â’r ymrwymiadau i gydweithio ar draws y pedair gwlad a nodir yn y fframwaith hwn. Mae cynnwys yr ymgynghoriad hwn yn cynrychioli safbwyntiau’r ASB a’r ffactorau y mae wedi nodi eu bod yn berthnasol i’r cynnig hwn. 

I gael gwybodaeth am sut mae’r ASB yn trin eich data personol, cyfeiriwch at yr hysbysiad preifatrwydd ar gyfer ymgynghoriadau 

Rhagor o wybodaeth

Mae’r ymgynghoriad hwn wedi’i baratoi yn unol ag egwyddorion ymgynghori Llywodraeth Ei Mawrhydi.

Ar ran yr Asiantaeth Safonau Bwyd, hoffwn ddiolch yn fawr i chi am gymryd rhan yn yr ymgynghoriad cyhoeddus hwn.

Yn gywir,
Rebecca Sudworth 
Cyfarwyddwr Polisi yr ASB 

Atodiadau

Atodiad A

Byrfoddau Acronymau
AHDB Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth 
CA Awdurdod Cymwys 
DAERA Adran Amaethyddiaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (Gogledd Iwerddon) 
EC Y Gymuned Ewropeaidd 
EFS Awdurdod Diogelwch Bwyd Ewrop
UE Yr Undeb Ewropeaidd 
FBO Gweithredwr Busnes Bwyd 
ASB Asiantaeth Safonau Bwyd 
CALl Cyfwerth ag Amser Llawn (staff)
HFA Awdurdod Bwyd Halal 
HMC Pwyllgor Monitro Halal 
ALl Awdurdod Lleol 
OV Milfeddyg Swyddogol 
QOP Gweithdrefnau Gweithredu Qurbani 
QPWG SG Is-grŵp y Gweithgor Partneriaeth Qurbani 
RA Asesiad Risg 
DU Deyrnas Unedig 

 

Atodiad B: Deddfwriaeth

Rheoliad a Ddargedwir (CE) 852/2004 sy’n pennu’r rheolau hylendid bwyd cyffredinol sy'n berthnasol i bob busnes cofrestredig a chymeradwy.  Mae'r rheoliad yn nodi amcanion ar gyfer arferion hylendid da i ddiogelu defnyddwyr.

Rheoliad a Ddargedwir (CE) 853/2004 sy’n pennu’r rheolau hylendid penodol ar gyfer bwyd sy'n dod o anifeiliaid (fel y’i diwygiwyd).

Rheoliad y Comisiwn a Ddargedwir (UE) 2017/1981 dyddiedig 31 Hydref 2017 sy’n diwygio Atodiad III i Reoliad (CE) 853/2004 Senedd Ewrop a’r Cyngor o ran yr amodau tymheredd pan fydd cig yn cael ei gludo.

Rheoliad a Ddargedwir (UE) 2017/625 sy’n ymwneud â’r rheolaethau swyddogol a’r gweithgareddau swyddogol eraill a gyflawnir i sicrhau bod y gyfraith bwyd a bwyd anifeiliaid, a’r rheolau ar iechyd a lles anifeiliaid, iechyd planhigion a chynhyrchion diogelu planhigion, yn cael eu rhoi ar waith. 

Rheoliad a Ddargedwir y Comisiwn (UE) 2019/624 sy’n ymwneud â’r rheolau penodol ar gyfer cyflawni rheolaethau swyddogol o ran cynhyrchu cig a chynhyrchu a hau ardaloedd molysgiaid dwygragennog byw yn unol â Rheoliad (UE) 2017/625 Senedd Ewrop a’r Cyngor.

Rheoliad a Ddargedwir y Comisiwn (UE) 2019/627 sy’n pennu’r trefniadau ymarferol unffurf i gyflawni rheolaethau swyddogol o ran cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid y bwriedir iddynt gael eu bwyta gan bobl yn unol â Rheoliad (UE) 2017/625.

Rheoliadau Diogelwch a Hylendid Bwyd (Lloegr) 2013 sy’n cynnwys y darpariaethau gorfodi yn Lloegr.

Rheoliadau Hylendid Bwyd (Cymru) 2006 a Rheoliadau Bwyd Cyffredinol 2004 sy’n cynnwys y darpariaethau gorfodi yng Nghymru.

Atodiad C: Aelodau’r QPWG SG

  • Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB)
    Cymdeithas Cyflenwyr Cig Annibynnol (AIMS)
    Cymdeithas Proseswyr Cig Prydain (BMPA)
    Adran Amaeth, yr Amgylchedd a Materion Gwledig (DAERA)
    Dunbia
    Euro Quality Lambs
    Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB)
    Safonau Bwyd yr Alban
    Awdurdod Bwyd Halal (HFA)
    Pwyllgor Monitro Halal (HMC)
    Cyngor Mwslimiaid Prydain (MCB)
    Cyngor Wakefield 

Atodiad D: Crynodeb o'r effaith ddisgwyliedig ar ddefnyddwyr a busnesau

Costau i ddefnyddwyr 

Disgwylir i gostau ychwanegol i ddefnyddwyr yn sgil y mesurau lliniaru fod yn fach. Fodd bynnag, mae yna risgiau sy’n  gysylltiedig â'r broses o gyflenwi cig Qurbani ac offal yn uniongyrchol i ddefnyddwyr.

Mae’n bosibl y bu cynnydd ymylol yn nifer y clefydau a gludir gan fwyd o ganlyniad i’r methiant i oeri cig ac offal Qurbani yn llawn, fel yr amlygwyd yn yr Asesiad Risg. O ganlyniad, yn ogystal ag unrhyw boen a dioddefaint a achosir, mae’n bosibl bod defnyddwyr wedi colli arian os nad oeddent yn gallu gweithio, ochr yn ochr â chostau eraill.

Mae’n bosibl bod defnyddwyr hefyd wedi gorfod wynebu mwy o gostau teithio wrth gasglu cig ac offal Qurbani heb ei oeri’n drylwyr yn uniongyrchol o ladd-dai, yn hytrach na disgwyl i gig ac offal Qurbani wedi’i oeri’n drylwyr gael ei ddosbarthu iddynt gan y cigydd y gwnaethant archebu’r cig Qurbani ganddo ymlaen llaw.

Costau i fusnesau  

Lluniwyd nifer o ddogfennau fel rhan o'r mesurau lliniaru, i gefnogi cynhyrchu a bwyta cig ac offal Qurbani yn ddiogel. Cyhoeddwyd yr 11 o ddogfennau hyn ar wefan AHDB ac roeddent yn cynnwys:  

  • Taflen wybodaeth i ddefnyddwyr
    Ffurflenni datganiad defnyddwyr 
    Gweithdrefnau gweithredu Qurbani, gan gynnwys canllawiau ar ofynion cludo, gofynion oeri a dogfennu carcasau at ddibenion olrheiniadwyedd.

Neilltuodd llawer o gynrychiolwyr y diwydiant amser staff ac adnoddau eraill i ddatblygu'r mesurau lliniaru. Roedd yn ofynnol i weithredwyr busnesau bwyd a oedd yn dymuno cyflenwi cig ac offal Qurbani heb ei oeri'n drylwyr ymgyfarwyddo â'r holl ddogfennau cyngor a chanllawiau a gyhoeddwyd ynghylch y mesurau lliniaru. Mae'n bosibl bod y gweithredwyr busnesau bwyd hyn wedi wynebu costau ychwanegol i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gweithdrefnau gweithredu Qurbani, er enghraifft, o ran gofynion pecynnu a sicrhau bod datganiadau defnyddwyr yn cael eu cwblhau. 

Gan fod y mesurau lliniaru yn caniatáu i fewnbwn gynyddu i ateb y galw dros gyfnod Qurbani, mae’n bosibl y byddai busnesau wedi mynd i gostau ychwanegol pe bai angen i staff weithio goramser i brosesu'r nifer angenrheidiol o garcasau.

Ystyrir bod y risg o unrhyw afiechyd a achosir gan gig neu offal Qurbani heb ei oeri’n drylwyr yn isel, ond os nad yw gweithwyr yn gallu gweithio o ganlyniad i ddal clefydau a gludir gan fwyd, mae'n bosibl y bydd cyflogwyr wedi mynd i gostau anuniongyrchol yn sgil colledion cynhyrchiant.

Manteision i ddefnyddwyr 

O dan y mesurau lliniaru a arweinir gan y diwydiant, roedd defnyddwyr yn gallu casglu eu cig ac offal Qurbani yn fuan ar ôl i’r anifail gael ei ladd, gan elwa'n llawn ar arwyddocâd crefyddol a diwylliannol Qurbani. Yn y pen draw, mae hyn yn debygol o fod wedi arwain at fwy o foddhad i ddefnyddwyr. 

Trwy ganiatáu i gig Qurbani gael ei gyflenwi heb fynd drwy’r gofynion oeri arferol, gallai’r mesurau lliniaru fod wedi helpu i leihau nifer yr achosion o ladd anifeiliaid gartref a gwaredu sgil-gynhyrchion yn anghyfreithlon, sy’n debygol o arwain at ostyngiad yn nifer y clefydau a gludir gan fwyd.   

Gallai’r mesurau lliniaru a arweinir gan y diwydiant fod wedi helpu i leihau achosion o dwyll Qurbani, trwy leihau’r angen i werthu cig a baratowyd cyn gweddïau Eid (a chyn y wawr) fel cig Qurbani, i ateb galw defnyddwyr. Roedd y mesurau lliniaru yn ei gwneud yn ofynnol i'r amser a'r dyddiad gael eu hargraffu ar dag y carcas Qurbani, gan ganiatáu i ddefnyddwyr wirio’r cig Qurbani roeddent yn ei brynu. 

Costau i fusnesau

Y budd i fusnesau sy'n cyflenwi cig ac offal Qurbani yw y byddant yn fwy cynhyrchiol yn ystod y cyfnod hwn, er mwyn ateb gofynion y gymuned Fwslimaidd.  Yn ogystal, oherwydd y cyflenwad a'r galw, deellir bod pris defaid (y brif rywogaeth a gyflenwir) hefyd yn cynyddu’n sylweddol yn ystod y cyfnod hwn.

Mae'r galw am gig ac ofal Qurbani yn golygu bod y pris a'r trwybwn mewn lladd-dai yn cynyddu yn ystod y cyfnod hwn, gan arwain at fwy o elw i gyflenwyr. 

Roedd y dull cymesur o orfodi’r gofynion oeri yn galluogi lladd-dai i ymdrin â mwy o drwybwn nag arfer. Os nad oes angen oeri cig Qurbani i'r tymereddau a bennir gan y gofynion deddfwriaethol, mae'n treulio llai o amser ar safleoedd lladd-dai, gan alluogi lefelau uwch o fewnbwn. 

Mae’r dull cymesur o orfodi’r gofynion oeri yn galluogi busnesau i wneud arbedion sylweddol ar eu cost oeri fesul uned, gan ddibynnu ar y math o system oeri a ddefnyddir a’i chapasiti. Mae'r cyfuniad hwn o alw cynyddol, prisiau uwch, a chostau uned is (oherwydd y gofynion oeri llai) yn cyfrannu at elw cynyddol i fusnesau yn ystod cyfnod y Qurbani.