Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Ymgynghoriad ar gynhyrchion rheoleiddiedig

Ymgynghoriad ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid

Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 12 October 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 12 October 2023
Gweld yr holl ddiweddariadau

Crynodeb o ymatebion

I bwy bydd yr ymgynghoriad hwn o ddiddordeb yn bennaf?

  • Gwneuthurwyr, mewnforwyr/allforwyr a manwerthwyr bwyd anifeiliaid 
  • Pob prynwr bwyd anifeiliaid, gan gynnwys ar gyfer anifeiliaid sy’n cynhyrchu bwyd ac anifeiliaid nad ydynt yn cynhyrchu bwyd
  • Cyrff masnach sy’n cynrychioli rhanddeiliaid mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, amaethyddiaeth a’r amgylchedd
  • Undebau llafur sy’n cynrychioli rhanddeiliaid yn y diwydiant ffermio
  • Sefydliadau sy’n cynrychioli buddiannau defnyddwyr mewn cadwyni bwyd a chadwyni bwyd anifeiliaid
  • Awdurdodau Gorfodi

Mae rhestr o bartïon sydd â buddiant wedi’i chynnwys yn Atodiad A.

Pwnc yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn ymwneud â deuddeg o geisiadau am ychwanegion bwyd sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi ym Mhrydain Fawr. O dan y trefniadau gweithredu presennol ar gyfer Gogledd Iwerddon, bydd busnesau sy’n ceisio awdurdodiad newydd ar gyfer rhoi cynnyrch bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig ar farchnad Gogledd Iwerddon yn parhau i ddilyn rheolau’r UE.

Yn ogystal â’r ymgynghoriad hwn, rydym wedi cyhoeddi dogfen ar y cyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a Safonau Bwyd yr Alban, yn cynnwys safbwyntiau ac asesiadau diogelwch ar gyfer y ceisiadau.

Diben yr ymgynghoriad

Mae’r ymgynghoriad hwn yn rhoi’r cyfle i randdeiliaid leisio eu barn, er mwyn hysbysu Gweinidogion Cymru a Lloegr (gan roi gwybod i Weinidogion yng Ngogledd Iwerddon), cyn iddynt wneud penderfyniad ar awdurdodi’r ychwanegion bwyd anifeiliaid sydd wedi’u cynnwys yn yr ymgynghoriad hwn. 

Rydym yn ceisio adborth ar y telerau awdurdodi arfaethedig, ein hasesiad o’r effeithiau posibl a nodir yn y pecyn ymgynghori, ac unrhyw dystiolaeth bellach a allai fod gennych ar effeithiau ychwanegol y dylem eu hystyried.  

Bydd ymgynghoriad cyfochrog yn cael ei gyhoeddi gan Safonau Bwyd yr Alban.

Pecyn ymgynghori

Mae’r pecyn ymgynghori hwn yn darparu’r wybodaeth gefndirol a’r manylion y bydd angen i chi eu gwybod er mwyn ymateb i’r cwestiynau yn yr ymgynghoriad hwn. Mae’r ddogfen ymgynghori lawn ar gael ar y tudalennau canlynol hefyd.

Ymgynghoriad ar ddeuddeg cais am ychwanegion bwyd anifeiliaid i’w defnyddio mewn bwyd anifeiliaid (fersiwn hygyrch)

Sut i ymateb

Dylid cyflwyno ymatebion i’r ymgynghoriad hwn trwy’r arolwg ar-lein (Microsoft forms). Fodd bynnag, os nad yw hyn yn bosib, gallwch ymateb trwy anfon e-bost i:

E-bost: RPconsultations@food.gov.uk
Enw: Y Tîm Cymeradwyo Cynhyrchion Rheoleiddiedig
Is-adran/Cangen: Gwasanaethau Rheoleiddiedig

Os ydych yn ymateb trwy e-bost, nodwch a ydych yn ymateb fel unigolyn neu ar ran sefydliad neu gwmni (gan gynnwys manylion unrhyw randdeiliaid y mae eich sefydliad yn eu cynrychioli), ac ym mha wlad rydych wedi’ch lleoli.