Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Canllawiau diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer banciau bwyd ac elusennau

Hyfforddiant ar gyfer darparwyr bwyd elusennol

Hyfforddiant sydd ar gael i ddarparwyr bwyd elusennol.

Rhaid i weithredwyr busnesau bwyd (perchennog neu reolwr) fod wedi cael hyfforddiant diogelwch a hylendid bwyd addas. Nid oes rhaid i unigolion sy'n trin bwyd gael tystysgrif hylendid bwyd er mwyn paratoi neu werthu bwyd. Fodd bynnag, rhaid iddynt gael eu goruchwylio’n briodol a chael hyfforddiant hylendid bwyd priodol, yn unol â'r maes y maent yn gweithio ynddo, y gellir ei ddysgu trwy:

  • Hyfforddi wrth weithio
  • Hunan-astudio
  • Profiad blaenorol

Rydym yn cynnig hyfforddiant ar-lein rhad ac am ddim i unigolion a busnesau er mwyn sicrhau arferion gorauym maes diogelwch bwyd, gan gynnwys:

Gofynnwch i’ch awdurdod lleol am gyrsiau hylendid bwyd.

Efallai y bydd modd i chi gael cyllid neu grantiau ar gyfer hyfforddiant diogelwch trwy grantiau'r llywodraeth, eich awdurdod lleol, neu drwy godi arian.