Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Canllawiau diogelwch a hylendid bwyd ar gyfer banciau bwyd ac elusennau

Sefydlu banc bwyd, elusen cymorth bwyd neu ddarparwr cymorth bwyd

Canllawiau ar gyfer sefydlu darparwr bwyd elusennol.

Os yw eich gweithrediad wedi’i bennu’n fusnes bwyd, mae angen iddo ddilyn yr un egwyddorion sy’n gymwys i fusnesau bwyd eraill.

Mae hyn yn cynnwys dilyn rheolau mewn perthynas â’ch:

  • safle
  • mannau paratoi bwyd
  • offer
  • gwastraff bwyd
  • mesurau rheoli alergenau

Os ydych yn gweithredu mewn adeilad neu leoliad a rennir, mae angen i chi roi’r un mesurau a rhagofalon ar waith â phe bai’n eiddo meddiannaeth unigol.