Canlyniadau chwilio
Dangos 1-10 o 50 gyda’r hidlyddion chwilio presennol
Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig ar gyfer awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig amrywiol: un bwyd newydd ac un ychwanegyn bwyd.
Ymgynghoriad ar ddiweddariad i fframwaith cydymffurfio ar arolygiadau rheolaethau swyddogol cynhyrchu cynradd mewn sefydliadau llaeth cofrestredig yng Nghymru a Lloegr.
Rydym yn ceisio safbwyntiau rhanddeiliaid mewn perthynas â cheisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig am wyth organeb a addaswyd yn enetig (GMOs) i’w defnyddio at ddibenion bwyd a bwyd anifeiliaid, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi, ac ar gyfer newid deiliaid yr awdurdodiadau ar gyfer pum deg un GMO awdurdodedig.
Mae’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn ceisio sylwadau gan randdeiliaid mewn perthynas â’r cynnig i dynnu gostyngiadau ar daliadau am weithgarwch gorfodi gweithredwyr busnesau bwyd yn y diwydiant cig.
Nod yr ymynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau ar newidiadau arfaethedig i'r rheolau ar gyfansoddiad cynhyrchion Bara a Blawd.
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid mewn perthynas â’r ceisiadau am gynhyrchion rheoleiddiedig a ystyrir yn y ddogfen hon, sydd wedi’u cyflwyno i’w hawdurdodi.
Rydym yn ceisio barn rhanddeiliaid mewn perthynas â chaniatáu estyniad i’r cyfnod goddefiant ar gyfer lefelau bach iawn o dri chynnyrch GMO a dynnwyd yn ôl (rêp had olew Ms1×Rf1, Ms1×Rf2 a Topas 19/2) a diwygiadau i gyfraith yr UE a ddargedwir 1829/2003 a 619/2011.
Diben yr ymgynghoriad hwn yw ceisio safbwyntiau, sylwadau ac adborth rhanddeiliaid ar y cynigion i gywiro diffygion mewn deddfwriaeth genedlaethol (Cymru yn unig) mewn perthynas â bwyd anifeiliaid, deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd, a thoddyddion echdynnu, ar wahân, er mwyn sicrhau bod y ddeddfwriaeth yn gweithredu’n effeithiol ar ôl i’r Deyrnas Unedig (DU) ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE).
Mae’r ymgynghoriad yn ymwneud â’r pictograff ‘Do Not Eat’ ar eitemau gweithredol neu ddeallus a roddir ar farchnad Prydain Fawr. Mae Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy’n ymwneud â deunyddiau a ddaw i gysylltiad â bwyd yn parhau i fod yn gymwys yng Ngogledd Iwerddon, ac o dan delerau cyfredol Protocol Iwerddon/Gogledd Iwerddon. Bydd cynhyrchion a roddir ar farchnad Gogledd Iwerddon yn parhau i ddefnyddio pictograff ‘Do Not Eat’ yr UE.
Ymgynghoriad ar gyfnod pontio arfaethedig wedi’i ddeddfu o dan y rheoliadau bwydydd newydd ar gyfer pryfed bwytadwy yng Nghymru, Lloegr, a’r Alban. Mae’r cynnig wedi’i ddatblygu gyda mewnbwn gan Safonau Bwyd yr Alban.