Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd neu folysgiaid dwygragennog

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar fewnforio cynhyrchion pysgodfeydd neu folysgiaid dwygragennog yn ddiogel i Brydain Fawr, mesurau rheoli ar y pwynt mynediad a gwybodaeth am farcio adnabod.

Mae rheolau llym ar gyfer mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd, molysgiaid dwygragennog a chynhyrchion sy’n eu cynnwys o du allan i Brydain Fawr.

Mae’r organebau canlynol yn cael eu diffinio fel cynhyrchion pysgodfeydd:

  • cramenogion – corgimychiaid, cimychiaid, cimychiaid yr afon (crayfish) a berdys (shrimps)
  • seffalopodau – octopws, môr lawes (squid) ac ystifflog (cuttlefish)
  • cynhyrchion dyframaeth – eog, brithyll, corgimychiaid, berdys wedi’u ffermio
  • olewau pysgod – i’w bwyta gan bobl
  • tiwnigogion – chwistrell fôr (sea squirt)
  • echinodermau – crwtyn y môr (sea urchin) a chiwcymbr y môr
  • gastropodau – cregyn moch, gwichiaid a chlustiau môr (whelks, winkles ac abalone)
  • molysgiaid dwygragennog – wystrys (oysters), cregyn gleision, cregyn Berffro (clams), cocos a chregyn bylchog (scallops)

Mae molysgiaid dwygragennog yn bwydo drwy hidlo, sy’n golygu bod risg iddynt amlyncu bacteria peryglus. Oherwydd y risg hwn, dim ond o ardaloedd cynhyrchu cymeradwy y gellir cynaeafu’r rhywogaethau hyn yn fasnachol. Mae'r ardaloedd hyn yn cael eu monitro i sicrhau eu bod yn bodloni'r meini prawf biotocsinau a microbiolegol a amlinellir yn Rheoliad a gymathwyd (CE) 852/2004 a Rheoliad a gymathwyd (CE) 853/2004.

Os ydych chi’n mewnforio cynnyrch sy’n dod o anifeiliaid (gan gynnwys cynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog) dylech wirio bod y wlad a’r sefydliad sy’n allforio wedi’u cymeradwyo i fewnforio’r fath nwyddau i Brydain Fawr.

Mewnforio i Brydain Fawr o’r UE a gwledydd y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd

Gallwch gael hyd i’r categorïau risg mewnforio o dan y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd a fewnforir o’r UE, y Swistir, Norwy, Gwlad yr Iâ, Liechtenstein, Ynysoedd Ffaro a’r Ynys Las (gwledydd EFTA) i Brydain Fawr, a’r rheolau mewnforio a’r cyfraddau arolygu ar gyfer pob categori ar GOV.UK.

Mae’r ddolen uchod yn dangos y categorïau risg BTOM a’r canrannau arolygu ar gyfer mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd o’r UE a gwledydd y Gymdeithas Fasnach Rydd Ewropeaidd (EFTA).

Bydd mewnforion yn destun gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol. Mae cyfraddau canrannol y gwiriadau adnabod a ffisegol (y gyfradd arolygu) yn dibynnu ar gategori risg y nwydd sy’n cael ei fewnforio:

  • bydd nwyddau categori risg ganolig yn cael eu harolygu ar gyfradd rhwng 1% a 30% – darllenwch ragor o wybodaeth am gyfraddau amlder nwyddau risg ganolig
  • ni fydd nwyddau categori risg isel yn cael eu harolygu’n rheolaidd, ond gallant fod yn destun gwiriadau anarferol neu wiriadau ar sail cudd-wybodaeth

Mae’n rhaid i bob cynnyrch risg ganolig a fewnforir sy’n dod o anifeiliaid ddod ynghyd â Thystysgrif Iechyd Allforio.

Gallwch ddod o hyd i fwy o wybodaeth am fewnforio POAO ar y dudalen Mewnforio bwyd a diod o’r UE i Brydain Fawr ar GOV.UK.

Mewnforio i Brydain Fawr o wledydd nad ydynt yn yr UE

Gallwch gael hyd i’r categorïau risg mewnforio o dan y Model Gweithredu Targed ar gyfer Ffiniau (BTOM) ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd a fewnforir o wlad nad yw’n rhan o’r UE i Brydain Fawr, y rheolau mewnforio, a’r cyfraddau arolygu ar gyfer pob categori ar GOV.UK.

Mae’r ddolen uchod yn dangos y categorïau risg BTOM a’r canrannau arolygu ar gyfer mewnforio cynhyrchion pysgodfeydd o wledydd nad ydynt yn yr UE.

Bydd mewnforion yn destun gwiriadau adnabod a gwiriadau ffisegol. Mae cyfraddau canrannol y gwiriadau adnabod a ffisegol (y gyfradd arolygu) yn dibynnu ar gategori risg y nwydd sy’n cael ei fewnforio:

  • bydd nwyddau categori risg ganolig yn cael eu harolygu ar gyfradd rhwng 1% a 30%
  • ni fydd nwyddau categori risg isel yn cael eu harolygu’n rheolaidd, ond gallant fod yn destun gwiriadau anarferol neu wiriadau ar sail cudd-wybodaeth

Rhaid i fasnachwyr:

  • hysbysu’r safle rheoli ar y ffin (BCP), sydd wedi’i ddynodi i wirio’ch nwydd, trwy’r System Mewnforio Cynhyrchion, Anifeiliaid, Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (IPAFFS), cyn i unrhyw lwythi o gynhyrchion pysgodfeydd gyrraedd
  • cyflwyno’r dogfennau perthnasol i’r BCP ar gyfer cynhyrchion pysgodfeydd risg ganolig, gan gynnwys tystysgrif iechyd wreiddiol. Mae’r math o dystysgrif sydd ei hangen yn dibynnu ar y math o gynnyrch a’r wlad tarddiad
  • cyflwyno’r nwyddau i’r BCP er mwyn gallu cynnal gwiriadau milfeddygol
  • o ran cynhyrchion pysgodfeydd risg isel, rhaid i’r llwythi ddod ynghyd â dogfennau masnachol
  • talu’r holl gostau ar gyfer arolygu’r nwyddau, a chadw’r CHED, a roddir wrth glirio nwyddau, am flwyddyn o’r adeg y mae’r nwyddau’n cyrraedd eu cyrchfan gyntaf ym Mhrydain Fawr

Ceir mwy o wybodaeth am ofynion mewnforio ar GOV.UK.

O ran mewnforion:

  • rhaid iddynt ddod o wlad gymeradwy
  • rhaid iddynt ddod ynghyd â thystysgrif iechyd briodol wedi’i llofnodi, oni bai eu bod mewn categori risg isel
  • rhaid iddynt ddod o sefydliad neu safle cynhyrchion pysgodfeydd cymeradwy neu ardaloedd cynhyrchu molysgiaid dwygragennog cymeradwy
  • rhaid iddynt ddod i mewn i Brydain Fawr drwy Safle Rheoli ar y Ffin dynodedig swyddogol lle cynhelir gwiriadau milfeddygol/hylendid gan Arolygydd Pysgod Swyddogol
  • rhaid rhoi gwybod am bob llwyth i’r Safle Rheoli ar y Ffin ymlaen llaw cyn iddo gyrraedd
  • mae’r amodau iechyd cyhoeddus ar gyfer cynhyrchu cynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog, a’u rhoi ar y farchnad, wedi’u hamlinellu yn Rheoliad a gymathwyd (CE) 853/2004

Mae rhai gwledydd cymeradwy sydd ond wedi’u caniatáu i allforio un ai cynhyrchion pysgodfeydd neu folysgiaid dwygragennog. Felly mae’n bwysig gwybod i ba gategori y mae eich cynnyrch yn perthyn. Gweler Rheoliad a gymathwyd (UE) 2019/626.

Wrth ddod â nwyddau i mewn i Brydain Fawr o’r tu allan, rhaid i fewnforwyr roi gwybod i’r Safle Rheoli ar y Ffin ymlaen llaw. Mae mewnforion sy’n cyrraedd yn destun gwiriadau milfeddygol; mae hyn yn cynnwys gwiriadau dogfennol, adnabod a ffisegol yn y Safle Rheoli ar y Ffin.

Bydd tâl yn cael ei godi am yr holl wiriadau ar hap gorfodol sy’n ofynnol o dan y ddeddfwriaeth, ac mae’n rhaid i’r mewnforiwr dalu hwn.

Gall methu â chydymffurfio â rheoliadau arwain at ddychwelyd nwyddau i’r wlad sy’n allforio neu eu dinistrio – gyda’r mewnforiwr yn talu am hyn.

Molysgiaid dwygragennog

Yn Rheoliad (CE) a gymathwyd 853/2004, mae molysgiaid dwygragennog yn cael eu diffinio fel molysgiaid dwygragennog (lamellibranch) sy'n bwydo drwy hidlo. Mae’r cynhyrchion hyn yn bwydo drwy hidlo sy’n golygu bod perygl iddynt amlyncu bacteria peryglus. Os yw pobl yn bwyta’r cynhyrchion pysgod hyn sy’n cario bacteria peryglus, gallai fod yn niweidiol i’w hiechyd.

Oherwydd y risg hwn, dim ond o ardaloedd cynhyrchu cymeradwy y gellir cynaeafu’r rhywogaethau hyn yn fasnachol, a chaiff yr ardaloedd hyn eu monitro er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni’r meini prawf tocsinau a microbiolegol.

Os ydych chi’n mewnforio cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, dylech wirio bod y wlad sy’n allforio wedi’i chymeradwyo.

Marciau adnabod

O dan Reoliad 853/2004, mae’n ofynnol bod llwythi (consignments) o gynhyrchion pysgodfeydd a molysgiaid dwygragennog yn arddangos marc adnabod yn unol ag Atodiad II, sy’n berthnasol i’r rhan fwyaf o gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid.

Cyfrifoldeb gweithredwyr busnesau bwyd yw sicrhau nad yw eu cynhyrchion yn peri risg iechyd i'r cyhoedd. Bydd gweithredwr y busnes bwyd yn y man cyrraedd (y safle bwyd yn y DU), yn ôl ei ddisgresiwn ei hun, yn cynnal system o wiriadau ei hun o dan gynllun Dadansoddi Peryglon a Phwyntiau Rheoli Critigol (HACCP) wedi’i ddiffinio ymlaen llaw er mwyn bodloni safonau hylendid gofynnol.

Pysgota anghyfreithlon

Mae mewnforion pysgod yn destun rheolau newydd o dan Bysgota Anghyfreithlon, Heb ei Adrodd a Heb ei Reoleiddio.

Mae’n ofynnol bod gan fewnforion dystysgrif sy’n nodi lle y daliwyd y pysgod a bod y llong yn gweithredu’n gyfreithlon. I gael rhagor o wybodaeth, cymerwch gip ar wefan Defra.

Mewnforio cregyn bylchog (scallops) o’r Unol Daleithiau

Dim ond o Dalaith Washington a Massachusetts y caniateir mewnforio molysgiaid dwygragennog, echinodermau, tiwnigogion a gastropodau morol byw, rhai wedi’u rhewi neu rai wedi’u prosesu i’w bwyta gan bobl o’r Unol Daleithiau.

Fodd bynnag, gall gweithredwyr busnesau bwyd fewnforio’r cyhyr atynnwr (adductor muscle) o gregyn bylchog (pectinidae/scallops) nad ydynt yn dod o ddyframaeth, ond mae’n rhaid ei wahanu’n gyfan gwbl o’r ymysgaroedd (viscera) a’r gonadau (gonads).

Deddfwriaeth ar fewnforion pysgod

Rheoliad (UE) a gymathwyd 2019/626 – Sefydlu’r rhestrau o drydydd gwledydd a thiriogaethau lle caniateir mewnforio molysgiaid dwygragennog, echinodermau, tiwnigogion, gastropodau morol a chynhyrchion pysgodfeydd ohonynt.