Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

12fed Cylchlythyr Rheoleiddio Ein Dyfodol

Diweddarwyd ddiwethaf: 16 May 2019
Diweddarwyd ddiwethaf: 16 May 2019

Croeso i rifyn 12 o Gylchlythyr Rheoleiddio Ein Dyfodol. Yn y rhifyn hwn, rydym ni'n canolbwyntio ar y cynnydd yr ydym ni wedi'i wneud ar ein Strategaethau Arolygu Cenedlaethol (NIS), y camau nesaf ar gyfer cyflwyno'r gwasanaeth cofrestru digidol a'n digwyddiadau ymgysylltu diweddar ar Gyflenwi Safonau Bwyd.   

Heather Hancock
Cadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd

Datblygu Strategaethau Arolygu Cenedlaethol

Mae'r gwaith ar NIS wedi bod yn datblygu'n dda dros y misoedd diwethaf. Fe wnaethom gyhoeddi adroddiad y treialon canfod llwybrau drwy (dolen) ac ymgynghori ar y safonau drafft sy'n darparu rhywfaint o’r llywodraethu i'r maes gwaith hwn. 

Mae'n gyfnod cyffrous i'r fenter hon, gyda phrif awdurdodau a'u busnesau bwyd partner yn cydweithio i ddatblygu NIS. Rydym ni'n adolygu'r cynigion fel y gallwn ni gymryd y camau nesaf i gyhoeddi dau NIS ar gyfer manwerthwyr aml-safle. Mae'r cynigion yn wahanol, a bydd hyn yn ein helpu i archwilio cryfderau'r gwahanol ddulliau. Y rhain fydd y Strategaethau cyntaf sy'n cwmpasu hylendid bwyd, felly byddwn ni'n edrych ar y rhain fel treialon estynedig/canfod llwybrau, fel y gallwn ni ddysgu beth sy'n gweithio'n dda a gwybod lle mae angen i ni wneud newidiadau.  

Rydym ni'n gwybod bod cysylltiad clir rhwng NIS a gweithredu'r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB). Mae'r cynigion sydd wedi dod i law yn ystyried y CSHB, ond mae angen i ni siarad â rhanddeiliaid i gytuno sut mae'r ddau beth yn cydweddu. Byddwn ni'n ymgysylltu i sicrhau bod NIS yn gweithio heb leihau hygrededd y CSHB.  

Cynnydd o ran y gwasanaeth Cofrestru Busnesau Bwyd digidol

Mae gwasanaeth Cofrestru Busnesau Bwyd digidol yr ASB, a aeth yn fyw ym mis Medi 2018, yn parhau i gysylltu awdurdodau lleol â'r gwasanaeth. 

Mae'r gwasanaeth yn casglu data cofrestru gan weithredwyr busnesau bwyd ac fe fydd yn darparu canllawiau i gefnogi busnesau bwyd a'u helpu i ddeall eu cyfrifoldebau o ran cynhyrchu bwyd sy'n ddiogel ac sy'n cyd-fynd â'r hyn sydd ar y label. 

Mae rhai awdurdodau lleol wrthi'n profi'r gwasanaeth ac rydym ni wedi cael adborth amhrisiadwy i lywio’r broses o ddatblygu a chyflenwi'r gwasanaeth yn y dyfodol.
Mae'r gwasanaeth wedi'i ddatblygu gan ystyried gweithredwyr busnesau bwyd a byddwn ni'n cynnal ymchwil i sicrhau ein bod ni'n parhau i ddiwallu eu hanghenion. 

Roedd un o'r awdurdodau lleol sydd wrthi'n treialu wedi rhoi gwybod am brofiad cadarnhaol gweithredwr busnes bwyd yn ei ardal, gan gadarnhau bod y ffurflen wedi bod yn llawer haws i'w llenwi na'r disgwyl. 

Fel rhan o’n gwaith parhaus i ‘brofi’r cysyniad’, rydym ni wedi gwrando ar awdurdodau lleol a nodi bod angen dulliau mwy hyblyg iddynt gysylltu â’r gwasanaeth. Rydym ni wrthi’n archwilio sut y gallai hyn weithio’n ymarferol. Dros y misoedd nesaf, rydym ni’n bwriadu trafod â phartneriaid awdurdodau lleol er mwyn manteisio i’r eithaf ar y gwasanaeth newydd a rhoi’r cyfle iddyn nhw lywio ei ddatblygiad.

Byddwn ni'n parhau i ymgysylltu ag awdurdodau lleol a'u darparwyr gwybodaeth reoli i gefnogi'r broses gyflwyno, gan gydweithio ag adrannau eraill y llywodraeth, canolfannau busnes a grwpiau newydd i hyrwyddo'r gwasanaeth newydd yn ehangach.

Rydym ni hefyd yn manteisio ar gyfleoedd i godi ymwybyddiaeth o'r gwasanaeth newydd ymhlith cymuned ddigidol awdurdodau lleol. Esboniodd Julie Pierce, ein Cyfarwyddwr Bod yn Agored, Digidol a Data, beth yw uchelgeisiau'r ASB mewn perthynas â data mewn cyfweliad diweddar gydag Awdurdod y Deyrnas Unedig.  

Mae'r ASB yn croesawu unrhyw awdurdod lleol sydd â diddordeb mewn ymuno. Dylid mynegi diddordeb drwy anfon e-bost at: Futuredelivery@food.gov.uk

Digwyddiadau ymgysylltu ar Gyflenwi Safonau Bwyd

Fe wnaeth ein bwrdd drafod yr adolygiad safonau bwyd a chanfyddiadau arolwg awdurdodau lleol yn eu cyfarfod ar 5 Rhagfyr. Cytunodd y Bwrdd fod angen ailgynllunio cynhwysfawr, a fyddai'n rhoi gwell sicrwydd, mwy o ystwythder, ac yn helpu awdurdodau lleol i ddangos eu bod yn bodloni eu rhwymedigaethau statudol. 

Er mwyn gwneud yn siŵr bod y dull newydd o gyflenwi safonau bwyd yn cael ei ddatblygu gyda mewnbwn gan awdurdodau lleol, cafodd y rhai sy'n gweithio ar y rheng flaen gyfle i fynegi eu barn ar sut i ddiwygio a gwella’r ddarpariaeth rheoleiddio bwyd. Rhwng 1 Chwefror ac 1 Mawrth 2019, cynhaliodd yr ASB 9 digwyddiad ymgysylltu ledled Cymru, Lloegr (ar sail rhanbarthol) a Gogledd Iwerddon. Roedd y rhain yn rhoi cyfle i awdurdodau lleol ddylanwadu a datblygu dewisiadau i'w hystyried ar gyfer model cyflenwi’r dyfodol. Roedd y digwyddiadau yn boblogaidd, gyda 190 o swyddogion yn cymryd rhan. Cafwyd sgyrsiau bywiog gyda themâu cyffredin yn dod i'r amlwg. Bydd y mewnwelediadau'n cael eu casglu a'u rhannu gyda phawb a oedd yn bresennol drwy'r llwyfan Hwyluso Cyfathrebu. Mae dogfen friffio fyw hefyd yn cael ei chreu i gasglu atebion i rai o'r cwestiynau a gododd. 

Mae adborth o'r digwyddiadau hyn wedi bod yn gadarnhaol, gyda llawer o bobl yn gwerthfawrogi'r diweddariad ar y gwaith sy'n cael ei wneud gan yr ASB, a'r cyfle i roi eu barn a chyfrannu at y broses ddatblygu. Fe wnaeth llawer o gyfranogwyr fynegi awydd i gyfarfod eto, i archwilio atebion i rai o'r pryderon a godwyd, ac rydym ni'n bwriadu cynnal digwyddiad ymgysylltu arall ymhen 6 mis, neu'n gynharach os oes angen.