Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

David Brooks - Aelod o'r Bwrdd

Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Mae gan Dave nifer o rolau anweithredol yn y sectorau preifat a chyhoeddus.

Mae'n Gadeirydd Publica Group Ltd - sefydliad a grëwyd gan bedwar cyngor dosbarth i gyflenwi eu gwasanaethau statudol. Mae hefyd yn aelod o fwrdd Future Housing Group (cymdeithas dai yn Nwyrain a De Canolbarth Lloegr), yn Gyfarwyddwr Anweithredol VIP Group Ltd (dosbarthwyr cynhyrchion caledwedd technoleg) ac mae wedi buddsoddi mewn sawl busnes bach.

Mae ganddo bron i ddeng mlynedd ar hugain o brofiad yn y diwydiant bwyd drwy ei waith gyda Brake, Memory Lane Cakes, fel Prif Swyddog Gweithredol Finsbury Food Group plc rhwng 2002 a 2008, yn ogystal â sawl rôl anweithredol ac ymgynghorol ers 2008. Roedd hefyd yn Brif Swyddog Gweithredol Sussex Cricket am bedair blynedd rhwng 2008 a 2012. Criced yw ei hoff fath o chwaraeon.

Sefydliadau, clybiau neu gyrff 

Aelodaeth o gyrff cyhoeddus, elusen neu ymddiriedolaeth gyhoeddus neu breifat arall, neu rôl, ymlyniad neu aelodaeth o glybiau neu sefydliadau

  • Clwb Criced Swydd Sussex a Sefydliad Criced Sussex (Is-Arlywydd)
  • Clwb Criced Cookham Dean (clwb criced lleol)
  • Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol

Cyfranddaliadau

Unrhyw gyfranddaliadau, ac eithrio’r rheiny sy’n cael eu cadw gan gwmni buddsoddi neu drefniadau tebyg lle nad oes gan aelodau’r Bwrdd ddylanwad ar y ffordd y caiff y cyfranddaliadau eu rheoli

  • Finsbury Food Group plc
  • Standard Life plc