Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Dr Hugh Jones - Aelod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Penodol i Gymru

Amlinellu hanes proffesiynol a chymwysterau aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru.

Mae Dr Hugh Jones yn Athro Cyswllt mewn Geneteg a Bioleg Moleciwlaidd yn Ysgol Feddygaeth y Sefydliad Gwyddor Bywyd ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl bod i’r ysgol yng Nghastell-nedd, astudiodd am radd mewn Biocemeg ym Mhrifysgol Caergrawnt cyn mynd ymlaen i ennill PhD a chymrodoriaeth ymchwil. Yna symudodd i Goleg Imperial, Llundain i wneud gwaith ôl-ddoethuriaeth pellach mewn peirianneg protein cyn dychwelyd i Dde Cymru i swydd academaidd ym Mhrifysgol Abertawe. 

Mae Dr Jones yn addysgu strwythur/swyddogaeth protein, trin genetig a microbioleg sylfaenol i fyfyrwyr sy’n astudio gradd mewn geneteg, biocemeg a’r gwyddorau biolegol. Mae’n aelod o'r Gymdeithas Microbioleg Cyffredinol, y Gymdeithas Fiocemegol a’r Gymdeithas Gemeg Frenhinol.

Mae hefyd wedi bod yn gysylltiedig â hyrwyddo dealltwriaeth y cyhoedd o wyddoniaeth yng Nghymru, gan gynnwys helpu i drefnu’r arddangosfa Gwyddoniaeth a Thechnoleg ar gyfer Eisteddfod Genedlaethol Abertawe. Fel cyn-lywodraethwr ysgol a rhiant i dri o blant yn yr ysgol a'r brifysgol, mae'n cael ei atgoffa'n barhaus o bwysigrwydd diogelwch bwyd.