Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a'r Amgylchedd

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd y Pwyllgor ar Wenwyndra, pam fod angen y data arnom ni, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon ar gyfer recriwtio aelodau newydd i'r Pwyllgor ar Wenwyndra Cemegion mewn Bwyd, Cynhyrchion Defnyddwyr a'r Amgylchedd ac is-grwpiau cysylltiedig, ac wrth gynnal busnes o ddydd i ddydd o redeg y Pwyllgor.  

Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chynnal ein dyletswyddau swyddogol. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen. 

Mae darparu'r wybodaeth hon yn ofyniad cytundebol a gallai methu â darparu'r wybodaeth olygu nad ydych chi'n cael eich recriwtio i'r Pwyllgor neu'r is-grwpiau cysylltiedig.

Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon am 18 mis os ydych chi wedi gwneud cais i fod yn aelod o'r Pwyllgor ar Wenwyndra ac wedi bod yn aflwyddiannus, a 12 mis y tu hwnt i ddyddiad gorffen eich tymor diweddaraf os cawsoch eich penodi ar y Pwyllgor. Byddwn ni'n cadw gwybodaeth bersonol aelodau cyfetholedig yr is-grwpiau am 12 mis ar ôl i'r grŵp ddod i ben. 

Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol. 

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, mae'n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i aelodau eraill o'r panel recriwtio nad ydynt yn gweithio i'r ASB. Efallai y bydd eich gwybodaeth hefyd yn cael ei throsglwyddo i Dîm Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB er mwyn ymgynghori â chi, neu roi gwybod i chi am waith sy'n gysylltiedig â'ch rôl ar un o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB.

Eich hawliau

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog  Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater. 

Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym yn prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, fe allwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).