Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd y Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd, pam fod angen data arnom, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud â'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol a ddarperir i ni.

Pam fod angen yr wybodaeth hon arnom ni?

Mae angen i ni gasglu'r wybodaeth hon at ddiben recriwtio aelodau newydd i'r Pwyllgor Cynghori ar Ddiogelwch Microbiolegol Bwyd a'r is-grwpiau cysylltiedig, ac wrth gynnal y Pwyllgor o ddydd i ddydd. 

Rydym ni'n gwneud hyn yn unol â chynnal ein dyletswyddau swyddogol. Ni fyddwn ni'n casglu unrhyw ddata personol gennych chi nad ydym ni ei angen.
Mae darparu'r wybodaeth hon yn ofyniad cytundebol a gallai methu â darparu'r wybodaeth olygu nad ydych chi'n cael eich recriwtio i'r Pwyllgor neu'r is-grwpiau cysylltiedig.
Beth fyddwn ni'n ei wneud â'r wybodaeth?

Dim ond am y cyfnod sydd ei angen i gyflawni'r swyddogaethau hyn rydym ni'n cadw gwybodaeth bersonol, ac yn unol â'n polisi cadw. Mae hyn yn golygu y cedwir yr wybodaeth hon am 18 mis os ydych chi wedi gwneud cais i fod yn aelod o'r Pwyllgor Cynghori ac wedi bod yn aflwyddiannus, a 12 mis y tu hwnt i ddyddiad gorffen eich tymor diweddaraf os cawsoch eich penodi ar y Pwyllgor. Byddwn ni’n cadw gwybodaeth bersonol aelodau cyfetholedig yr is-grwpiau am 12 mis ar ôl i'r grŵp ddod i ben.
Mae'r holl ddata personol rydym ni'n ei brosesu yn byw ar weinyddion o fewn yr Undeb Ewropeaidd. Mae ein gwasanaethau cwmwl wedi’u caffael drwy Gytundebau Fframwaith y Llywodraeth a’u hasesu yn erbyn egwyddorion cwmwl y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol.

Nid oes gan drydydd partïon fynediad at eich data personol oni bai bod y gyfraith yn caniatáu iddynt wneud hynny. Yn unol â'r ymrwymiad hwn, mae'n bosibl y bydd eich gwybodaeth yn cael ei throsglwyddo i aelodau eraill o'r panel recriwtio nad ydynt yn gweithio i'r ASB. Efallai y bydd eich gwybodaeth hefyd yn cael ei throsglwyddo i Dîm Prif Gynghorydd Gwyddonol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) er mwyn ymgynghori â chi, neu roi gwybod i chi am waith sy'n gysylltiedig â'ch rôl ar un o Bwyllgorau Cynghori Gwyddonol yr ASB.

Beth yw eich hawliau?

Mae gennych chi'r hawl i weld yr wybodaeth sydd gennym ni amdanoch chi drwy wneud cais ysgrifenedig i'r cyfeiriad e-bost isod. Os ydych chi ar unrhyw adeg o'r farn bod yr wybodaeth rydym ni'n ei phrosesu amdanoch chi yn anghywir, gallwch chi wneud cais i'w chywiro. Os hoffech chi wneud cwyn am y ffordd rydym ni wedi trin eich data personol, gallwch chi gysylltu â'n Swyddog Diogelu Data a fydd yn ymchwilio i'r mater.
Os nad ydych chi'n fodlon â'n hymateb neu os ydych chi o'r farn nad ydym ni'n prosesu eich data personol yn unol â'r gyfraith, gallwch chi gwyno i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth (ICO).


Ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB yw Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch. Gallwch chi gysylltu drwy'r manylion isod.