Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Stewart Houston - Aelod o'r Bwrdd

Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Mae Stewart yn bartner yn y busnes teuluol sy'n gweithredu gyda 500 hwch sy'n cynhyrchu perchyll. Mae'r teulu hefyd yn adeiladu ac yn marchnata peiriannau electronig sy'n bwydo hychod.

Pan roedd yn gadeirydd Gweithrediaeth Moch Prydain (2003-2015), roedd Stewart yn gyfrifol am gynyddu marchnadoedd allforio, yn arbennig Tsieina. Fe weithiodd i leihau risg feirws dolur rhydd epidemig mewn moch drwy ddysgu gan yr Unol Daleithiau a Chanada, yn ogystal â datblygu Partneriaeth Arloesi Moch yr Undeb Ewropeaidd (UE) sy'n cynnwys 11 o Aelod-wladwriaethau.

Roedd Stewart yn gadeirydd Cymdeithas Foch Genedlaethol ac yn Gyfarwyddwr o 2003 tan fis Mawrth 2015.

Mae Stewart wedi bod yn Gyfarwyddwr Anweithredol Coleg Amaethyddol yr Alban, Coleg Prifysgol Gwledig yr Alban a Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth.

Mae'n parhau i fod yn Gyfarwyddwr Bwrdd Iechyd a Lles DEFRA, gyda chyfrifoldeb arbennig dros Les, Ymwrthedd Gwrthficrobaidd, Rhaglen Datblygu Gwledig Lloegr a Chyfraith Iechyd Anifeiliaid yr UE.

Mae wedi derbyn nifer o wobrau gan y diwydiant yn ogystal â CBE gan Ei Mawrhydi y Frenhines.

Roedd Stewart yn aelod gweithgar o Weithgor Cig Moch Copa am un ar bymtheg o flynyddoedd.

Cyflogaeth

  • MPS AGRI LTD – busnes teuluol

Swyddi Cyfarwyddwr

Swyddi Cyfarwyddwr, gyda thâl neu’n ddi-dâl

  • Dim

Incwm, cydnabyddiaeth neu fuddion eraill

Unrhyw fusnes, gweithgarwch proffesiynol neu gyhoeddus neu fuddiannau sy’n ffynhonnell incwm, cydnabyddiaeth neu sydd o fudd arall.

  • Bwrdd Iechyd a Lles Anifeiliaid Lloegr (AWHBE)
  • Ysgrifennydd Anrhydeddus Clwb Pysgota Tanfield

Sefydliadau, clybiau neu gyrff

Aelodaeth o gyrff cyhoeddus, elusen neu ymddiriedolaeth gyhoeddus neu breifat arall, neu rôl, ymlyniad neu aelodaeth o glybiau neu sefydliadau

  • Clwb y Ffermwyr
  • Cwmni Anrhydeddus y Ffermwyr
  • Cwmni Anrhydeddus y Cigyddion
  • Cymdeithas Foch Genedlaethol
  • Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr 

Cyfranddaliadau a buddsoddiadau

Unrhyw gyfranddaliadau, ac eithrio’r rheiny sy’n cael eu cadw gan gwmni buddsoddi neu drefniadau tebyg lle nad oes gan aelodau’r Bwrdd ddylanwad ar y ffordd y caiff y cyfranddaliadau eu rheoli.

  • Dim