Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Stuart Reid - Aelod o'r Bwrdd

Yn amlinellu hanes proffesiynol aelodau ein bwrdd ac yn rhoi manylion unrhyw ddiddordebau busnes sydd ganddynt er mwyn sicrhau tryloywder.

Stuart Reid yw Pennaeth y Coleg Milfeddygaeth Brenhinol, Prifysgol Llundain. Ac yntau'n gyn-fyfyriwr Prifysgol Glasgow, daeth yn un o'i Hathrawon ieuengaf ym 1996 ac yn Ddeon yn 2005 cyn symud i'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol yn 2011.

Caiff ei adnabod gan Goleg Brenhinol y Milfeddygon fel arbenigwr mewn epidemioleg filfeddygol ac mewn iechyd y cyhoedd milfeddygol gan Fwrdd Arbenigwyr Milfeddygol Ewrop, ac mae'n Gymrawd y Gymdeithas Fioleg Frenhinol a Chymdeithas Frenhinol Caeredin. Ar hyn o bryd, mae ei ddiddordebau ymchwil yn canolbwyntio ar filhaint (zoonotic disease) ac ymwrthedd gwrthficrobaidd. Mae ganddo dros 160 o gyhoeddiadau gwyddonol, yn fwyaf diweddar yn PNAS a Science, ac mae wedi llwyddo i sicrhau dros £15 miliwn mewn cyllid cystadleuol yn ystod ei yrfa.

Stuart oedd Llywydd Coleg Brenhinol y Milfeddygon yn 2014-15, blwyddyn a oedd yn cynnwys lansio Siarter Frenhinol newydd, cyflwyno teitl cwrteisi "Dr" ar gyfer milfeddygon y Deyrnas Unedig, y Coleg yn cofleidio ei alltudion rhyngwladol, ac ymdrechion pellgyrhaeddol i ailwampio ei strwythurau llywodraethu 50 mlwydd oed. Yn ogystal, sefydlwyd dwy fenter fawr – Vet Futures Mind Matters ac fe redodd Marathon Llundain i godi ymwybyddiaeth ac £14 mil ar gyfer materion iechyd meddwl yn y proffesiwn.

Yn ei wasanaethu i'r cyhoedd, mae wedi bod yn ymddiriedolwr The Donkey Sanctuaryers 1996 ac yn Gadeirydd yr Ymddiriedolwyr ers 2007. Mae'r elusen yn un o'r mwyaf o'i math ar draws y byd. Mae'n Ymddiriedolwr Prifysgol Llundain.

Mae Stuart wedi cael ei gydnabod am ei waith gan y diwydiant (Pfizer, Ymddiriedolaeth Elusennol Petplan), y proffesiwn (Medal Wooldridge Cymdeithas Milfeddygon Prydain), ei alma mater (Darlith McCall, Prifysgol Glasgow) a'i ddisgyblaeth wyddonol yn y Deyrnas Unedig, yr Undeb Ewropeaidd ac Unol Daleithiau America.

Cyflogaeth

• Prifathro, Coleg Milfeddygaeth Brehinol

Swyddi Cyfarwyddwr

Swyddi Cyfarwyddwr, gyda thâl neu’n ddi-dâl

• Canolfan Arloesedd BioWyddorau Llundain (Is-gorff Coleg Milfeddygaeth Brenhinol) – Cyfarwyddwr

• RVC (Hong Kong) Ltd (Is-gorff Coleg Milfeddygaeth Brenhinol) – Cyfarwyddwr

• RVC Developments Ltd (Is-gorff Coleg Milfeddygaeth Brenhinol) – Cyfarwyddwr

Sefydliadau, clybiau neu gyrff

Aelodaeth o gyrff cyhoeddus, elusen neu ymddiriedolaeth gyhoeddus neu breifat arall, neu rôl, ymlyniad neu aelodaeth o glybiau neu sefydliadau.

• The Donkey Sanctuary - Cadeirydd Ymddiriedolwyr

• Animal Care Trust - Ymddiriedolwr (Ex Officio)