Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Chwefror 2023

Penodol i Gymru

Report by Peter Price, Board Member for Wales and Chair of the Welsh Food Advisory Committee

1. Crynodeb

1.1 Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o’r materion a ystyriwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru.  

1.2 Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i wneud y canlynol: 

  • nodi trafodaethau’r Bwrdd
  • gwahodd y Cadeirydd i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Cyfarfod y Bwrdd

2.1 Cynhaliwyd cyfarfod llawn diwethaf y Bwrdd yn Llundain ar 7 Rhagfyr 2022. Ystyriodd y Bwrdd y materion canlynol:

Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio):

Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio) Llywodraeth y DU, a rhaglen waith yr ASB sy’n ymwneud â chyflawni’r Bil a’r diwygiadau cysylltiedig hyd at 2026. Soniais am yr angen i alinio gofynion o ran labelu a chyfansoddiad ym Mhrydain Fawr, a nodais fod dull yr ASB o weithio ar draws y pedair gwlad yn cael ei werthfawrogi’n fawr yng Nghymru er mwyn sicrhau bod anghysondebau’n cael eu lleihau. 

Blaenoriaethau’r flwyddyn:

Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gyfres o newidiadau hanfodol i gynllun gwaith yr ASB ar gyfer eleni a fydd yn sicrhau’r gallu i gyflawni gofynion ychwanegol, heb gyfaddawdu ar ddyletswyddau statudol. Cyfeiriais at y pwysau ychwanegol sydd ar staff yng Nghymru, gan gynnwys wrth ymateb i adolygiad disgwyliedig Llywodraeth Cymru o swyddogaethau’r ASB yng Nghymru. Yn hyn o beth, nodais fod dull yr ASB o weithio â’r gweinyddiaethau datganoledig yn fuddiol iawn, yn enwedig mewn perthynas â meysydd gwaith â blaenoriaeth fel Bridio Manwl a Chyfraith yr UE a Ddargedwir.

Rhaglen Trawsnewid Gweithredol a Chwmpas y Dyfodol:

Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am Raglen Trawsnewid Gweithredol yr ASB, gan ganolbwyntio ar gynnydd y rhaglen a’r hyn y gellir ei gyflawni ar gyfer 2022/23; ymchwil rhanddeiliaid i oblygiadau deddfwriaeth newydd a gwahaniaethau rheoleiddiol o ran cynnal rheolaethau swyddogol ar gig a sgil-gynhyrchion anifeiliaid; yn ogystal â strwythur sefydliadol a chwmpas y rhaglen yn y dyfodol. Tynnais sylw at y dirwedd wahanol yng Nghymru, gan egluro’r nifer uchel o ladd-dai llai a chynghorais y dylid ystyried y rhain, yn enwedig wrth geisio barn rhanddeiliaid.

Diweddariad yr ASB ar Wyddoniaeth:

Roedd y papur hwn yn rhoi diweddariad blynyddol ar wyddoniaeth yr ASB, gan gynnwys datblygu gallu gwyddoniaeth, tystiolaeth ac ymchwil yr ASB; adolygiad o gyflawniadau a’r cynnydd a wnaed ers y diweddariad diwethaf; a chrynodeb o’r cynlluniau ar gyfer y dyfodol. Pwysleisiais fod gwaith sganio’r gorwel a chodi amlygrwydd y gwaith y mae’r ASB yn ei wneud ym maes gwyddoniaeth a manteisio ar y cyfleoedd i weithio gyda phartneriaid yn y meysydd gwyddonol yn hynod bwysig. Nodais hefyd gyfranogiad Cymru, ond tynnais sylw at y diffyg myfyrwyr PhD yng Nghymru a ariennir gan yr ASB. Gofynnais i’r Bwrdd ystyried partneru â rhaglen Sêr Cymru Llywodraeth Cymru. 

Adroddiad Llywodraethu Blynyddol:

Roedd y papur hwn yn cyflwyno ymatebion arfaethedig Gweithgor Adolygu Effeithiolrwydd y Bwrdd i argymhellion yr adolygiad; newidiadau arfaethedig i Gylch Gorchwyl y Pwyllgor Busnes a’r Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg; newidiadau arfaethedig i'r Rheolau Sefydlog ar gyfer Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB; a system ar-lein awtomataidd ar gyfer cwestiynau gan y cyhoedd.

Adroddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon: 

Roedd y papur hwn yn adrodd ar weithgarwch y Pwyllgor rhwng mis Medi 2021 a mis Tachwedd 2022.

2.2 Bydd recordiad o gyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 7 Medi ar gael ar wefan yr ASB, ynghyd â chofnodion y cyfarfod pan gânt eu cyhoeddi.

2.3 Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 22 Mawrth 2023 ym Manceinion. 

3.    Cyfarfodydd eraill

3.1 Cyflwynwyd fy adroddiad ysgrifenedig diwethaf i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar thema benodol ar 20 Hydref. Ers hynny:

  • Ar 11 Tachwedd, cynhaliodd y Bwrdd ddigwyddiad Cadw mewn Cysylltiad a Choffi arall lle cawsom ddiweddariad ar bynciau allweddol. Gwnaethom wedyn gwrdd â staff o’r Tîm Cyfathrebu i gael trafodaeth anffurfiol am eu maes gwaith.
  • Ar 22 Tachwedd, es i i gyfarfod ARAC (Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg). 
  • Ar 24 Tachwedd, cyfarfu Susan Jebb, Nathan Barnhouse a minnau â Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi, a Lynne Neagle, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, i drafod Model Gweithredu Targed Ffiniau’r dyfodol. 
  • Ar 30 Tachwedd, gwnes i gwrdd ag Anthony Harbinson, Cadeirydd newydd y pwyllgor cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon – NIFAC. Rwy’n ‘gyfaill Bwrdd’ iddo.
  • Ar 17 Ionawr, bûm mewn cyfarfod NIFAC ar-lein, a’r prif bwnc oedd y Model Gweithredu Safonau Bwyd.
  • Rwyf hefyd wedi cymryd rhan mewn cyfarfodydd ar-lein gydag aelodau o’r tîm gweithredol.

3.2    Cynhaliodd y Bwrdd ddigwyddiad deuddydd yn Efrog rhwng 23 a 24 Ionawr i alluogi’r uwch-dîm Gweithredol i roi brîff i aelodau’r Bwrdd ar y datblygiadau diweddaraf sy’n symud yn gyflym, a rhannu eu syniadau am newidiadau mewn rhaglenni allweddol cyn llunio papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth.