Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Gorffennaf 2023

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Peter Price, Aelod y Bwrdd dros Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

1. Crynodeb

1.1 Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o’r materion a ystyriwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru.

1.2 Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i wneud y canlynol:

  • nodi trafodaethau’r Bwrdd
  • gwahodd y Cadeirydd i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Cyfarfod y Bwrdd

2.1 Cynhaliwyd cyfarfod llawn diwethaf y Bwrdd yn Belfast ar 21 Mehefin 2023. Ystyriodd y Bwrdd y materion canlynol:

  • Rheolaethau Mewnforio a’r Model Gweithredu Targed (TOM) (FSA 23-06-04): Roedd y papur hwn yn rhoi diweddariad ar y broses a ddilynwyd ar gyfer penderfynu ar y Model Gweithredu Targed, categorïau risg, a’r camau nesaf. Nodais fod Cymru mewn sefyllfa unigryw gan fod pob porthladd yn wynebu Gweriniaeth Iwerddon, sy’n creu heriau. Dywedais fod y dull hwn, sy’n canolbwyntio ar risg ac sy’n seiliedig ar ddull pedair gwlad, wedi tawelu meddyliau’r Pwyllgor.
  • Adroddiad Blynyddol y Prif Gynghorydd Gwyddonol (FSA 23-06-05): Y papur hwn oedd y trydydd adroddiad blynyddol gan yr Athro Robin May i’r Bwrdd, gan fyfyrio ar y 12 mis diwethaf yn ei rôl fel Prif Gynghorydd Gwyddonol yr ASB. Soniais fod y Cynllun Sicrwydd Fferm yng Nghymru bellach yn cofnodi’r defnydd o wrthfiotigau ar bob fferm, a thynnais sylw at y potensial i’r ASB ddod yn rhan o’r prosiect hwn a defnyddio’r data ar gyfer gwaith gwyliadwriaeth ffermydd, yn benodol o ran ymwrthedd i wrthfiotigau mewn llaeth. Soniais hefyd am y cyfleoedd i ehangu cwmpas y prosiect SALIENT i Gymru o bosib, a hynny er mwyn cysylltu â strategaeth Pwysau Iach, Cymru Iach Llywodraeth Cymru.
  • Swyddogaeth Rhagweld a Sganio’r Gorwel – Diweddariad Blynyddol i’r Bwrdd (FSA 23-06-06): Roedd y papur hwn yn rhoi diweddariad ar swyddogaeth rhagweld yr ASB. Roedd y papur yn trafod y canfyddiadau hyd yn hyn a’n hymateb iddynt, yn ogystal â’r cynllun o ran parhau i ddatblygu gallu ein swyddogaeth rhagweld dros y flwyddyn i ddod. Codais yr angen am adnoddau digonol pe bai gwahaniaethau rheoleiddiol.
  • Y Broses Dadansoddi Risg a’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig – Adroddiad Chwarterol (FSA 23-06-07): Roedd y papur hwn yn rhoi diweddariad ar berfformiad proses dadansoddi risg yr ASB, gan gynnwys ceisiadau sydd wrthi’n mynd drwy’r gwasanaeth cynhyrchion rheoleiddiedig, a materion y mae’r ASB wedi dewis eu hystyried yn rhagweithiol. Roeddwn i eisoes wedi tynnu sylw at y llu o fusnesau a chanolfannau arloesol yng Nghymru a allai gyfrannu at drafodaethau.
  • Diweddariad ar Gyflenwad Milfeddygol, Moderneiddio a Chymorth i’r Sector Lladd-dai Bach ar gyfer 2023/24 (FSA 23-06-08): Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Bwrdd am y gwaith y mae’r ASB yn ei wneud er mwyn sicrhau ein bod yn cynnal rheolaethau swyddogol mewn modd dibynadwy ac effeithlon. Tynnais sylw at bwysigrwydd y sector lladd-dai bach yng Nghymru a’r pryderon parhaus ynghylch y posibilrwydd o golli’r gweithrediadau hyn yn y dyfodol oherwydd nifer o bwysau, gan gynnwys costau cynyddol.
  • Adolygiad o’r Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd (FSA 23-06-09): Roedd y papur hwn yn rhoi trosolwg o’r adolygiad anffurfiol o’r Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd, y trafodaethau sydd wedi’u cynnal hyd yma, a’r argymhellion ar gyfer y Pwyllgorau hyn. Dywedais y byddai Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn croesawu mwy o ryngweithio uniongyrchol â’r Bwrdd ynghyd â chyfeiriad ganddo ar bynciau i bob un o’r Pwyllgorau Cynghori ar Fwyd eu hystyried. Nodais hefyd fod WFAC yn dymuno codi ei broffil ac yn dymuno ymgysylltu â rhanddeiliaid ymhellach.
  • Adroddiad Cyfarwyddwr yr ASB yng Ngogledd Iwerddon (FSA 23-06-10): Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o waith yr ASB yng Ngogledd Iwerddon dros y flwyddyn ddiwethaf.

2.2 Mae recordiad o gyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 21 Mehefin ar gael ar wefan yr ASB, a bydd cofnodion y cyfarfod hwnnw ar gael ar y wefan hefyd pan gânt eu cyhoeddi.

2.3 Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 20 Medi 2023 yn Southampton.

3. Gweithgareddau a chyfarfodydd eraill y Bwrdd

3.1 Y diwrnod cyn y cyfarfod ar 21 Mehefin, rhannodd aelodau’r Bwrdd yn dri grŵp ar gyfer ymweliadau â chyrff bwyd allweddol. Roeddwn i’n ymweld â phencadlys Lakeland Dairies, lle gwnaethom ddysgu am brofiad y busnes wrth integreiddio ei safleoedd yn Iwerddon a Gogledd Iwerddon, yn ogystal â’r materion sydd wedi codi ers ymadael â’r UE, yn benodol o ran symud nwyddau rhwng Gogledd Iwerddon a’r Weriniaeth ac  ran mewnforio i Brydain Fawr. Mae’n gwmni mawr arloesol ac roedd taith o gwmpas y ffatri gyfagos hefyd wedi tynnu sylw at ei arferion rhagorol ynghylch ymgysylltu â staff.

3.2 Y prynhawn hwnnw, gwnaethom gyfnewid canfyddiadau â’r ddau grŵp arall a oedd yn ymweld â safleoedd eraill. Wedyn, gwnaeth aelodau’r Bwrdd ymgymryd â hyfforddiant ar ddigwyddiadau am ddwy awr. Datgelodd faterion ynghylch cydbwyso cyflymder ymateb i ddigwyddiadau â chyfranogiad y Bwrdd. Daeth y sesiwn i ben gyda thrafodaeth ar ‘bynciau llosg’ ac yna rhoddais gyflwyniad ar ‘Yr ASB a’r UE’. Fel rhan o’r cyflwyniad, edrychais yn strategol ar y materion y bydd yr ASB yn eu hwynebu yn ystod yr ychydig flynyddoedd nesaf.

3.3 Yn yr hwyr, cawsom swper gydag aelodau a gwesteion Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Gogledd Iwerddon a arweiniodd drafodaethau ar faterion perthnasol.

3.4 Ar 12 Mai, cynhaliodd y Bwrdd sesiwn KIT ar-lein i drafod materion allweddol sy’n datblygu. Dilynwyd hyn gan un arall o’n sesiynau ‘coffi’ ar-lein gyda grwpiau o staff. Y tro hwn, ymunodd y Rhwydwaith Anabledd â ni.

3.5 Ar 12 Mehefin, es i i gyfarfod ar-lein Pwyllgor Busnes y Bwrdd.

4. Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

4.1 Mae’n bleser gennyf ddweud bod y cam sifftio a’r cyfweliadau ar gyfer fy olynydd fel Cadeirydd ac Aelod o’r Bwrdd wedi mynd rhagddynt yn dda, a bod argymhellion y panel wedi’u cyflwyno gerbron y Gweinidog. Disgwylir penderfyniad yn fuan, gan arwain at broses drosglwyddo drefnus.

4.2 Hoffwn ddiolch i Alan Gardner am roi ei amser i’r pwyllgor. Mae Alan wedi bod yn aelod gwerthfawr iawn o WFAC ers 2017. Daeth â chyfoeth o wybodaeth am gynhyrchu cynradd i drafodaethau’r pwyllgor, a bu’n helpu aelodau newydd wrth iddynt ymuno. Byddwn i gyd yn gweld ei eisiau ef a’i ddoethineb.

4.3 Dyma fydd fy nghyfarfod olaf i hefyd. Rwyf wedi mwynhau’r tair blynedd diwethaf fel Cadeirydd WFAC ac Aelod y Bwrdd dros Gymru. Fodd bynnag, ar ôl ymgymryd â rolau cyhoeddus am ddegawdau, penderfynais beidio â gwneud cais am ail dymor. Yn hytrach, byddaf yn treulio amser gyda fy nheulu a chanolbwyntio ar fy rôl fel Cwnsler Strategaeth Ewropeaidd, gan roi cyngor ar faterion strategol sy’n ymwneud â’r UE. Daw fy nhymor i ben ar 31 Awst. Cyn hynny, byddaf yn mynd i wahanol gyfarfodydd y Bwrdd a digwyddiadau yng Nghymru.

4.4 Mae staff yr ASB, yn gyntaf Helen George a Lucy Boruk, ac wedyn Sioned Fidler, Lucy Edwards a Christie O’Keefe dros y ddwy flynedd ddiwethaf, bob amser wedi fy nghefnogi. Rwyf wedi cysylltu’n rheolaidd â Nathan Barnhouse, sy’n arwain gwaith yr ASB yng Nghymru, a hefyd wedi cael cymorth gan sawl uwch-aelod o’i dîm. Diolch yn fawr i bob un ohonyn nhw.

4.5 Rydych chi – aelodau WFAC – wedi gweithio fel tîm gwych. Braint oedd dod i’ch adnabod chi a’ch cryfderau amrywiol. Rydych chi wedi dod yn ffrindiau i mi, a byddaf yn meddwl amdanoch chi’n aml. Daliwch ati!