Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Adroddiad Cadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – Mai 2023

Penodol i Gymru

Adroddiad gan Peter Price, Aelod y Bwrdd dros Gymru a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

1. Crynodeb

1.1    Mae’r adroddiad hwn yn rhoi crynodeb byr o’r materion a ystyriwyd yng nghyfarfod diwethaf y Bwrdd, yn ogystal â gweithgareddau eraill sy’n berthnasol i gylch gwaith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru. 

1.2    Gwahoddir aelodau’r Pwyllgor i wneud y canlynol: 

  • nodi trafodaethau’r Bwrdd
  • gwahodd y Cadeirydd i ymhelaethu ar unrhyw faterion i’w trafod ymhellach

2. Cyfarfod y Bwrdd

2.1    Cynhaliwyd cyfarfod llawn diwethaf y Bwrdd ym Manceinion ar 22 Mawrth 2023. Ystyriodd y Bwrdd y materion canlynol:

  • Rheoli Risg Strategol (Papur FSA 23/03/04): Roedd y papur hwn yn myfyrio ar agweddau’r ASB at risg o safbwynt strategol, corfforaethol a rheoli, gan gynnwys nodi pa gyfrifoldebau sydd gan y Bwrdd, y Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg (ARAC) neu’r Weithrediaeth, ac yn rhoi trosolwg i’r Bwrdd o’r risgiau strategol sy’n cael eu rheoli. Dywedais fod Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) yn fodlon ar y dull gweithredu a’i bod yn galonogol bod dargyfeirio yn cael ei weld fel risg bosibl a bod yr ASB yn mabwysiadu dull strategol.
  • Y Bil Technoleg Enetig (Bridio Manwl) (Papur FSA 23/03/05): Roedd y papur hwn yn nodi’r ystyriaethau a’r safbwynt cyfredol ar olrhain bwyd/bwyd anifeiliaid wedi’i fridio’n fanwl, ac yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd ac amserlen ddangosol ar gyfer cyflawni’r fframwaith rheoleiddio newydd. Codais y mater o labelu gorfodol a phryderon ynghylch dargyfeirio.
  • Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (Papur FSA 23/03/06): Roedd y papur hwn rhoi diweddariad cynhwysfawr ar y Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnes. Nodais y lleihad yn adnoddau awdurdodau lleol a dywedais fod WFAC yn croesawu’r dull cyfunol o gynnal arolygiadau hylendid a safonau bwyd, gan bwysleisio bod angen sicrhau’r hyfforddiant cywir. Soniais hefyd fod y pwyllgor yn falch o glywed y bydd y cynllun peilot ar gyfer y model gweithredu newydd yn dechrau yng Nghymru ym mis Mai.
  • Cynllun Corfforaethol Tair Blynedd (Papur FSA 23/03/07): Mae’r papur hwn yn nodi amcanion corfforaethol yr ASB ar gyfer y tair blynedd nesaf ac yn disgrifio sut y bydd yn parhau i gyflawni’r strategaeth ‘Bwyd y gallwch ymddiried ynddo’, a gyhoeddwyd y llynedd. Dywedais fod y papur yn dangos yn glir sut mae’r dull tair gwlad yn gweithio wrth osod y cynllun corfforaethol hwn, a gwnes i groesawu ystyriaethau Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru). Soniais y gallai fod problem yn gysylltiedig â chapasiti labordai a dadansoddi cyhoeddus yng Nghymru. 
  • Yr wybodaeth ddiweddaraf am Ddadansoddi Risg a Chynhyrchion Rheoleiddiedig (Papur FSA 23/03/08): Roedd y papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i Fwrdd yr ASB am y cynnydd o ran y Broses Dadansoddi Risg a’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig. Dywedais fod y pwyllgor o blaid arloesi wrth ddatblygu cynhyrchion newydd a deunyddiau newydd mewn ffordd gynaliadwy. Tynnais sylw hefyd at bwysigrwydd ymgysylltu â rhanddeiliaid gan fod llawer o fusnesau a chanolfannau arloesol yng Nghymru a allai gyfrannu at drafodaethau.
  • Adroddiad Blynyddol gan Gadeirydd y Cyngor Gwyddoniaeth (Papur FSA 23/03/09): Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o waith y Cyngor Gwyddoniaeth dros y flwyddyn ddiwethaf ac yn myfyrio ar ei lwyddiannau a’r heriau a wynebwyd, yn ogystal â rhoi rhagolwg o weithgareddau’r dyfodol. Gofynnais fod aelodau’r pwyllgor yn cael gwybod am gyfarfodydd llawn agored y Cyngor Gwyddoniaeth.
  • Adroddiad gan Gadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (Papur FSA 23/03/10): Roedd yr adroddiad hwn yn rhoi trosolwg o weithgareddau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ers mis Medi 2021.

2.2     Bydd recordiad o gyfarfod y Bwrdd a gynhaliwyd ar 22 Mawrth ar gael ar wefan yr ASB, ynghyd â chofnodion y cyfarfod pan gânt eu cyhoeddi.

2.3     Cynhelir cyfarfod nesaf y Bwrdd ar 21 Mehefin 2023 yn Belfast. 

3. Cyfarfodydd eraill

3.1 Cyflwynwyd fy adroddiad ysgrifenedig diwethaf i’r Pwyllgor yn ei gyfarfod ar thema benodol ar 9 Chwefror. Ers hynny, rwyf wedi cymryd rhan yn y digwyddiadau canlynol:

  • Ar 10 Chwefror, cynhaliodd y Bwrdd sesiwn KIT ar-lein estynedig i drafod y Bil Bridio Manwl, Moderneiddio Gweithredol, a phynciau llosg eraill.
  • Ar 3 Mawrth, cefais gyfarfod ar-lein i drafod gweithrediad y ddau Bwyllgor Cynghori gyda Chadeirydd y Bwrdd, fy swyddog cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon ac Anjali Juneja, gyda’r bwriad o gyflwyno cynigion i gyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin.
  • Ar 13 Mawrth, cymerais ran yng nghyfarfod ar-lein cyntaf y Pwyllgor Busnes ers ei ailgyfansoddi’n ddiweddar. Mae’r ailgyfansoddiad yn golygu ei fod erbyn hyn yn fwy na dim ond estyniad o gyfarfodydd y Bwrdd. Yn wahanol i’r Pwyllgor Archwilio, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau’r gorffennol, bydd y Pwyllgor Busnes yn canolbwyntio’n fanwl ar weithrediadau cyfredol ac yn edrych tua’r dyfodol.  
  • Y diwrnod cyn y cyfarfod ar 22 Mawrth, rhannodd aelodau’r Bwrdd yn dri grŵp ar gyfer ymweliadau â chyrff bwyd allweddol. Roeddwn i’n rhan o’r grŵp a aeth i ymweld â phencadlys y Co-op, lle cawsom gyfarfod defnyddiol iawn gyda’r Prif Weithredwr a swyddogion arweiniol. Cawsom wybod am eu gweithrediadau. Roedd rhai elfennau’n unigryw i frand y Co-op ac roedd eraill yn weithrediadau cyffredin ymhlith busnesau bwyd mawr. 
  • Ar 30-31 Mawrth, mewn cyfarfod â Llywyddiaeth bresennol Sweden Cyngor Gweinidogion yr UE a seneddwyr Sweden, cefais gyfle i drafod pynciau yn ymwneud â bwyd yn ogystal ag ymweld â’r Ganolfan Ewropeaidd ar gyfer Atal a Rheoli Clefydau, sy’n cael adroddiadau dyddiol ar glefydau a gludir gan fwyd a chlefydau heintus eraill gan aelod-wladwriaethau ac yn trafod y canfyddiadau diweddaraf bob dydd ar-lein am 11.30. Mae’r cyfarfodydd hynny’n arwain at rannu rhybuddion ledled yr UE sy’n adlewyrchu graddau’r brys.
  • Ar 14 Ebrill, cynhaliodd y Bwrdd sesiwn KIT ar-lein i drafod materion allweddol sy’n datblygu.
  • Ar 20 Ebrill, es i i gyfarfod pwyllgor Bwyd Diogel, Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) fel sylwedydd rheolaidd. Roedd llawer o gynrychiolwyr o sefydliadau rhanddeiliaid yn cymryd rhan.
  • Ar 27 Ebrill, es i i gynhadledd IFST ym Met Caerdydd gyda Helen Taylor, John Williams a Georgia Taylor, rhai o aelodau WFAC. Bydd WFAC yn cael adroddiad ar wahân ar y gynhadledd hon.