Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Cofrestr yr Asiantaeth Safonau Bwyd o ddadansoddiadau busnes critigol

Trosolwg o systemau ac offer dadansoddol yr Asiantaeth Safonau Bwyd, sy’n sail i benderfyniadau a gweithrediadau allweddol.

Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Ebrill 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau
Diweddarwyd ddiwethaf: 15 Ebrill 2026
Gweld yr holl ddiweddariadau

Trosolwg

Mae’r gofrestr hon yn rhoi trosolwg o ddadansoddiadau busnes critigol yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), gan gynnwys yr offer a’r systemau dadansoddol sy’n cefnogi ein penderfyniadau a’n gweithrediadau.

Cafodd ei chynllunio i gefnogi tryloywder, sicrwydd a gwelliant parhaus, gan ddilyn y canllawiau ar gyfer yr arferion gorau o Adroddiad Macpherson (2013) a’r Llyfr AQuA (2025).

Tynnodd Adroddiad Macpherson sylw at bwysigrwydd sicrhau ansawdd a llywodraethu cadarn ar gyfer modelau dadansoddol a ddefnyddir yn y llywodraeth, yn enwedig pan ydynt yn llywio penderfyniadau uchel eu heffaith. Roedd yn pwysleisio’r angen am ddogfennaeth glir, atebolrwydd ac adolygiadau rheolaidd i sicrhau bod dadansoddiadau’n parhau i fod yn addas i’r diben.

Mae’r Llyfr AQuA yn adeiladu ar hyn drwy nodi egwyddorion ar gyfer creu dadansoddiadau o ansawdd uchel o fewn y llywodraeth. Mae’n pwysleisio pwysigrwydd y canlynol:

  • sicrwydd cymesur ar sail risg a chymhlethdod y model
  • tryloywder o ran rhagdybiaethau, dulliau a chyfyngiadau
  • perchnogaeth a llywodraethiant clir
  • dilysu ac adolygu parhaus

Yn unol â’r egwyddorion hyn, mae’r gofrestr hon yn nodi dadansoddiadau sy’n hanfodol i’n swyddogaethau strategol a gweithredol.

Byddwn yn diweddaru’r gofrestr yn rheolaidd i adlewyrchu newidiadau yn y ffordd rydym yn defnyddio’r modelau, eu statws sicrwydd a’n blaenoriaethau sefydliadol. Mae’n rhan o’n hymrwymiad i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth a rhagoriaeth ddadansoddol.

Cofrestr o ddadansoddiadau busnes critigol

PRAME (Asesiadau Radiolegol Tebygoliaethol o’r Amgylchedd Morol)

Mae PRAME yn rhagweld sut gall deunyddiau ymbelydrol symud drwy amgylcheddau morol a mynd i mewn i’r gadwyn fwyd drwy lwybrau sy’n cynnwys pysgod a physgod cregyn.

Gall y deunyddiau hyn ddod o wahanol ffynonellau, fel gorsafoedd pŵer niwclear neu gyfleusterau meddygol.

Os bydd deunyddiau ymbelydrol yn cael eu rhyddhau’n ddamweiniol neu’n rheolaidd i’r amgylchedd morol, mae’r ASB yn gwneud gwaith modelu drwy PRAME i lywio cyngor sy’n helpu i sicrhau bod bwyd yn aros yn ddiogel.

PRISM (Modelau Gwerthuso Deinamig o ran Gweithrediad Tebygoliaethol o Briddoedd, Planhigion ac Anifeiliaid)

Mae PRISM yn rhagweld sut gall deunyddiau ymbelydrol symud drwy dir ffermio a mynd i mewn i’r gadwyn fwyd drwy lwybrau sy’n cynnwys priddoedd, planhigion ac anifeiliaid.

Gall y deunyddiau hyn ddod o wahanol ffynonellau, fel gorsafoedd pŵer niwclear neu gyfleusterau meddygol.

Os bydd deunyddiau ymbelydrol yn cael eu rhyddhau’n ddamweiniol neu’n rheolaidd i dir ffermio, mae’r ASB yn gwneud gwaith modelu drwy PRISM i lywio cyngor sy’n helpu i sicrhau bod bwyd yn aros yn ddiogel.

ADMS 6 (System Modelu Gwasgariad Atmosfferig 6)

Mae’r ASB yn defnyddio ADMS i fodelu sut mae sylweddau ymbelydrol sy’n cael eu rhyddhau i’r aer yn lledaenu ac yn ymsefydlu ar dir ffermio.

Gall y deunyddiau hyn ddod o wahanol ffynonellau, fel gorsafoedd pŵer niwclear. Mae’r model hwn yn galluogi unrhyw risgiau posibl i iechyd y cyhoedd yn sgil gollyngiadau atmosfferig i gael eu hasesu a’u rheoli’n briodol fel bod bwyd yn aros yn ddiogel.

AQUARIUS (Asesiad ar gyfer Systemau Diweddaru sy’n Bwysig yn Ymbelydrol)

Mae AQUARIUS yn rhagweld sut gall deunyddiau ymbelydrol symud drwy amgylcheddau dŵr croyw a chynhyrchu asesiadau dos cyfan drwy lyncu bwyd, yn ogystal â thrwy lwybrau nad ydynt yn ymwneud â bwyd, ar ôl cael eu rhyddhau’n uniongyrchol i amgylcheddau dŵr croyw.

Gall y deunyddiau hyn ddod o wahanol ffynonellau, fel gorsafoedd pŵer niwclear neu gyfleusterau meddygol.

Os bydd deunyddiau ymbelydrol yn cael eu rhyddhau’n ddamweiniol neu’n rheolaidd i amgylcheddau dŵr croyw, mae’r ASB yn gwneud gwaith modelu drwy AQUARIUS i lywio cyngor sy’n helpu i sicrhau bod bwyd yn aros yn ddiogel.

Model Diogelwch Bwyd Crème

Mae model Diogelwch Bwyd Crème yn cael ei ddefnyddio i amcangyfrif faint sy’n cael ei ddefnyddio ac i gynnal asesiadau cysylltiad (‘exposure’) ar gyfer defnyddwyr yn y DU.

Defnyddir allbynnau’r model mewn asesiadau risg diogelwch bwyd a gynhelir gan yr ASB

Model cost salwch yn sgil clefydau a gludir gan fwyd

Mae’r model cost salwch yn sgil clefydau a gludir gan fwyd yn cyfrifo ac yn amcangyfrif cost salwch a gludir gan fwyd yn seiliedig ar nifer yr achosion, categori difrifoldeb (ymgyflwyno i feddyg teulu, mynd i’r ysbyty, peidio ag ymgyflwyno i feddyg teulu) a phrisiau unedau perthnasol (costau meddygol, cyflogau).

Model cost salwch yn sgil gorsensitifrwydd i fwyd

Mae’r model cost salwch yn sgil gorsensitifrwydd i fwyd yn amcangyfrif baich economaidd a chymdeithasol gorsensitifrwydd i fwyd yn y DU, mewn perthynas â chyflyrau gorsensitifrwydd i fwyd fel alergedd bwyd, anoddefiad bwyd a chlefyd seliag.

Model Codi Tâl am Gig yn Seiliedig ar Weithgarwch

Model ariannol i gyfrifo’r gyfradd codi tâl anuniongyrchol i’w chymhwyso i gwsmeriaid yn y diwydiant a’r llywodraeth ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â chig.

Model Cyfradd Fesul Awr ar gyfer Codi Tâl am Gig

Model ariannol i gyfrifo’r cyfraddau codi tâl uniongyrchol i’w cymhwyso i gwsmeriaid yn y diwydiant a’r llywodraeth ar gyfer gwaith sy’n gysylltiedig â chig.

Model Gostyngiadau ar gyfer Codi Tâl am Gig

Model ariannol i gyfrifo dosraniad y gostyngiad sydd ar gael i weithredwyr busnesau bwyd.

Model Cyflogau’r ASB

Model ariannol i gyfrifo cyflogau gweithwyr yr ASB.

HRFNAO RCT (Offeryn Categoreiddio Risgiau ar gyfer bwydydd risg uchel nad ydynt yn dod o anifeiliaid)

Defnyddir HRFNAO RCT i gategoreiddio’r risgiau i iechyd pobl, sy’n gysylltiedig â bwyd nad yw’n dod o anifeiliaid sy’n cael ei fewnforio i Brydain Fawr.

Mae allbynnau’r RCT yn cefnogi’r rheolaethau swyddogol a nodir yn Rheoliad Gweithredu’r Comisiwn a gymathwyd 1793/2019.

FDEM (Model Amcangyfrif Clefydau a Gludir gan Fwyd)

Mae’r FDEM yn amcangyfrif achosion, ymgyflwyniadau i feddygon teulu, derbyniadau i’r ysbyty, a marwolaethau ar gyfer 13 o bathogenau allweddol. Mae hefyd yn amcangyfrif ffigur cyffredinol ar gyfer clefydau a gludir gan fwyd sy’n cynnwys achosion o darddiad anhysbys.

Dangosfwrdd clefydau hysbysadwy

Clefydau hysbysadwy yw clefydau anifeiliaid y mae rhwymedigaeth gyfreithiol i roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion am unrhyw achosion ohonynt.

Mae’r dangosfwrdd clefydau hysbysadwy yn nodi’r parthau rheoli priodol ar gyfer brigiad o achosion. Defnyddir yr wybodaeth hon i gysylltu â’r sefydliadau a staff rheng flaen priodol.

IDM-Food (Monitro Clefydau Rhyngwladol mewn Bwyd)

Model sganio generig yw IDM-Food a ddefnyddir i gategoreiddio’r risg o beryglon microbiolegol mewn cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid ac sy’n cael eu mewnforio o wledydd penodol.