Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Datganiad hygyrchedd ar gyfer y catalog Data

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i’r catalog data canlynol: data.food.gov.uk.

Mae’r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Rydym ni’n awyddus i gynifer o bobl â phosib allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech chi allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i’r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • llywio trwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • llywio trwy’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym ni hefyd wedi gwneud testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall. Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws i’w defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon?

Rydym ni’n gwybod nad yw rhai rhannau hŷn o’r wefan hon yn gwbl hygyrch.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth arnoch chi am y wefan hon mewn fformat gwahanol fel PDF hygyrch, print bras, fersiwn hawdd ei darllen, recordiad sain neu braille: 

  • Anfonwch e-bost at: fsa.communications@food.gov.uk 
  • Ffoniwch ein Llinell Gymorth: 0330 332 7149 (ar agor 9.00am tan 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener) 

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda’r wefan hon

Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi’n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni:

Darllenwch gyngor ar gysylltu â sefydliadau am wefannau anhygyrch.

Gweithdrefn orfodi

Mae’r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os na fyddwch chi’n hapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac nid ydych chi’n hapus â’r ffordd rydym ni wedi ymateb i’ch cwyn, gallwch chi gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy’n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Dyfeisiau Symudol) (Rhif 2) 2018 ( y ‘rheoliadau hygyrchedd’) yng Ngogledd Iwerddon. 

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae’r ASB wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n llawn â safon AA fersiwn 2.1 y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Dogfennau PDF a dogfennau eraill

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud yn ofynnol i ni drwsio ffeiliau PDF na dogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydynt yn hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau.

Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd a gyhoeddwn yn bodloni safonau hygyrchedd.

Paratoi’r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 22 Medi 2020. Fe’i hadolygwyd ddiwethaf ar 14 Gorffennaf 2021.

Profwyd y wefan hon ddiwethaf ar 28 Mai 2021. Cynhaliwyd y prawf gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd gan ddefnyddio offer profi awtomatig.

Bydd pob tudalen yn parhau i gael ei gwirio trwy ein gwasanaeth gwirio awtomatig.