Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Datganiad hygyrchedd ar gyfer yr Hyfforddiant Alergedd ac Anoddefiad Bwyd

Mae'r datganiad hwn yn berthnasol i wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd allergytraining.food.gov.uk

Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf: 27 Ionawr 2022

Mae'r wefan hon yn cael ei chynnal gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). Fe'i dyluniwyd i'w defnyddio gan gynifer o bobl â phosibl. Dylai'r testun fod yn glir ac yn syml i'w ddeall a dylech allu:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbyniad a ffontiau
  • chwyddo hyd at 300% heb i'r testun ddisgyn oddi ar y sgrin
  • llywio drwy’r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd (keyboard) yn unig
  • llywio'r rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod lleferydd
  • gwrando ar y rhan fwyaf o'r wefan gan ddefnyddio darllenydd sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)
  • darllen is-deitlau ar fideos

Pa mor hygyrch yw'r wefan hon?

Rydym ni’n gwybod nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch. Gallwch weld rhestr lawn o unrhyw faterion yr ydym ni’n gwybod amdanynt ar hyn o bryd yn adran ‘cynnwys nad yw'n hygyrch’ y datganiad hwn.

Adborth a gwybodaeth gyswllt

Os oes angen gwybodaeth oddi ar y wefan hon arnoch mewn fformat gwahanol, fel PDF hygyrch, print bras, testun hawdd ei ddarllen, recordiad sain neu braille, gallwch gysylltu â ni.

Os byddwch yn ysgrifennu atom: nodwch ar eich gohebiaeth ei bod at sylw: Y Tîm Polisi Gorsensitifrwydd i Fwyd / The Food Hypersensitivity Policy Team.

FSA, Floors 6 and 7 Clive House, 
70 Petty France, 
London,  
SW1H 9EX

e-bost: fsa.communications@food.gov.uk  
Neu drwy ffonio ein Llinell Gymorth ar 0330 332 7149  

Byddwn yn ystyried eich cais ac ymateb ymhen 5 diwrnod gwaith.

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd gyda'r wefan hon

Rydym ni bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch chi'n dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydyn nhw wedi'u rhestru ar y dudalen hon, neu os ydych chi o’r farn nad ydyn ni'n bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â ni trwy ysgrifennu at: Y Tîm Polisi Gorsensitifrwydd i Fwyd / The Food Hypersensitivity Policy Team.

FSA, Floors 6 and 7 Clive House, 
70 Petty France, 
Llundain/London,  
SW1H 9EX

e-bost: fsa.communications@food.gov.uk  
Neu trwy ffonio ein Llinell Gymorth ar 0330 332 7149 

Darllenwch ragor am gysylltu â sefydliadau mewn perthynas â gwefannau anhygyrch.

Gweithdrefn orfodi

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych chi'n hapus â’r ffordd rydym ni’n ymateb i'ch adroddiad, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Os ydych chi yng Ngogledd Iwerddon ac yn anfodlon â'r ffordd yr ydym ni’n ymateb i'ch adroddiad, gallwch gysylltu â Chomisiwn Cydraddoldeb Gogledd Iwerddon sy'n gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd') yng Ngogledd Iwerddon.

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae'r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) wedi ymrwymo i wneud ei gwefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Chymwysiadau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfio

Mae'r wefan hon yn cydymffurfio'n rhannol â safon AA fersiwn 2.1 o’r Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys Gwe, oherwydd yr elfennau o ddiffyg cydymffurfio, a restrir isod.

Cynnwys nad yw'n hygyrch

Datblygwyd yr hyfforddiant ar-lein hwn gan ddefnyddio system rheoli dysgu (LMS) ac adnodd awduro. Mae cyfuniad o'r ddwy system yn rhoi gwell profiad dysgu i ddefnyddwyr gyda gwersi’r modiwlau tra hefyd yn caniatáu iddynt lywio drwy’r wefan yn hawdd. 

Ar hyn o bryd, mae rhai problemau hysbys yn yr adnodd awduro sy'n golygu nad yw'n cydymffurfio'n llwyr â safonau WCAG 2.1. Fodd bynnag, mae'r ASB wedi gwneud y gwasanaeth mor hygyrch â phosibl, er enghraifft: 

  • Gan ddefnyddio botymau radio yn unig neu gwestiynau gwir/gau er mwyn i ddefnyddwyr sydd â darllenwyr sgrin wybod pa ateb sydd wedi'i ddewis
  • Cael gwared ar gynnwys a allai dynnu sylw rhai defnyddwyr 
  • Amnewid elfennau rhyngweithio gydag eiconau a thestun
  • Cynnwys tagiau amgen (alt tags) ar bob delwedd
  • Darperir trawsgrifiad hygyrch ar gyfer pob modiwl.

Mae’r cynnwys a restrir isod yn anhygyrch am y rhesymau canlynol.

Ddim yn cydymffurfio â'r rheoliadau hygyrchedd

Amlinellir y cynnwys nad yw'n hygyrch isod:

  • Ar hyn o bryd nid yw'r botwm ‘dechrau’r modiwl’ ar ddechrau pob adnodd dysgu yn cael ei gydnabod fel botwm gan ddarllenwyr sgrin.
  • Nid yw rhai tudalennau'n caniatáu swyddogaeth “dal a chwyddo” ar y tudalennau adnoddau. Mae'n ymddangos bod hyn yn berthnasol i rai ffonau symudol android yn unig.

Yn ddiweddar mae darparwr y feddalwedd wedi diweddaru’r wefan er mwyn ceisio datrys y problemau hyn. Mae’r llwyfan yn cael ei adolygu ar hyn o bryd er mwyn mesur effeithiolrwydd y newidiadau hyn. Bydd y datganiad hwn yn cael ei ddiweddaru i adlewyrchu’r canlyniadau maes o law.

Baich anghymesur

Ar yr adeg hon, nid ydym wedi gwneud unrhyw honiadau am faich anghymesur.

Cynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd

Ar yr adeg hon, nid ydym ni wedi nodi unrhyw gynnwys nad yw o fewn cwmpas y rheoliadau hygyrchedd.

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 11 Medi 2020, ac fe'i hadolygwyd a'i ddiweddaru ddiwethaf ar 4 Ebrill 2022.

Cynhaliwyd rhywfaint o brofion yn fewnol gan yr ASB ac fe wnaethom ni hefyd ymgynghori ag arbenigwr hygyrchedd allanol annibynnol i geisio ei gyngor. 

Fe wnaethom ni brofi'r gwasanaeth yn seiliedig ar allu defnyddiwr i gwblhau llwybrau allweddol. Profwyd pob rhan o'r llwybrau a ddewiswyd, gan gynnwys dogfennau.