Adroddiad gan Gyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
FSA 25/09/08 - Adroddiad gan Sian Bowsley
1. Crynodeb
1.1 Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o waith yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn bwrw golwg ar ein blaenoriaethau ar gyfer y misoedd nesaf.
1.2 Gofynnir i'r Bwrdd wneud y canlynol:
-
asesu effeithiolrwydd y gwaith yng Nghymru i gyflawni blaenoriaethau’r ASB
-
ystyried sut mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol yr ASB
-
rhoi adborth ar sut mae'r gwaith hwn yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol yr ASB
2. Cyflwyniad
2.1 Yng Nghymru, mae gan yr ASB gyfrifoldebau polisi ac mae’n cyflawni swyddogaethau statudol ar draws pob agwedd ar ddiogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, ac mae ganddi hefyd gylch gwaith polisi ychwanegol mewn perthynas â safonau cyfansoddiad a labelu bwyd. Mae hyn yn golygu cynghori a gwneud argymhellion ar newidiadau deddfwriaethol i bolisi bwyd a bwyd anifeiliaid i weinidogion Cymru.
2.2 Mae’r tîm o 66.3 (CALl) o bobl yn cyflawni swyddogaethau yn unol â blaenoriaethau sefydliadol yr ASB ar gyfer Cymru, fel y cytunwyd arnynt â gweinidogion Cymru yn ein llythyr ariannu blynyddol. O fewn y cyd-destun hwn, yng Nghymru mae’r ASB wedi ymgorffori egwyddorion dau fframwaith cyffredin y DU – mewn perthynas â diogelwch a hylendid bwyd a bwyd anifeiliaid, a safonau cyfansoddiad a labelu bwyd.
2.3 Er bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau’r cyllid ar gyfer swyddogaethau’r ASB yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, bydd y broses ar gyfer gosod cyllideb y flwyddyn nesaf yn cael ei chwblhau yn ddiweddarach yr hydref hwn.
3. Cynnydd mewn perthynas â’n blaenoriaethau yng Nghymru dros y 12 mis diwethaf
3.1 Yn yr adroddiad blaenorol a gyflwynwyd gan Gyfarwyddwr Cymru, tynnwyd sylw at bedwar maes gwaith â blaenoriaeth, sef: a) cefnogi gwaith awdurdodau lleol yng Nghymru; b) cyflawni swyddogaethau sy’n ymwneud â’n hymrwymiadau o dan gytundeb adran 83 mewn perthynas ag awdurdodiadau’r farchnad; c) cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru, yn unol â Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol; ac ch) ymgysylltiad parhaus ledled Cymru â rhanddeiliaid allweddol.
3.2 Yn ogystal, cymeradwyodd y Bwrdd ein cynllun i fwrw ati i adolygu’r Concordat, sy’n nodi fframwaith ar gyfer cydweithredu rhwng yr ASB a Llywodraeth Cymru ac i ymgysylltu’n llwyr â gwaith ar gytundeb iechydol a ffytoiechydol posib.
3.3 Dyma fy adroddiad cyntaf i’r Bwrdd fel Cyfarwyddwr Cymru ers ymuno â’r ASB ym mis Hydref 2024, ac rwy’n falch o allu adrodd bod cynnydd wedi’i wneud ar draws yr holl feysydd hyn dros y cyfnod hwn, a bod cynllun gwaith uchelgeisiol ar ddod. Rydym wedi parhau i gryfhau ein rhwydwaith, ein hamlygrwydd a’n dylanwad o fewn Llywodraeth Cymru, gan sicrhau bod blaenoriaethau’r ASB yn ddealladwy ac yn cyd-fynd ag amcanion polisi datganoledig. Yn ogystal, rydym wedi parhau i hwyluso a chefnogi ymgysylltiad rhwng y Cadeirydd, gweinidogion Cymru ac Aelodau o’r Senedd, gan gynnwys Sarah Murphy AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant, a’r Dirprwy Brif Weinidog Huw Irranca-Davies.
Cefnogi gwaith awdurdodau lleol yng Nghymru
3.4 Rydym yn parhau i gefnogi gwaith awdurdodau lleol yng Nghymru, gan na fyddem yn gallu cyflawni ein cylch gwaith hebddynt. Dan nawdd Cytundeb Cydweithredol 2023, yr ydym yn gyd-lofnodwr iddo, rydym yn parhau i weithio mewn partneriaeth yn seiliedig ar ymddiriedaeth a pharch rhwng y naill a’r llall, gan gydnabod gwerth a chyfreithlondeb rôl pob corff, sy’n cydbwyso dylunio a chynhyrchu ar y cyd ac ymgynghori.
3.5 Yn ogystal â’n gwaith ymgysylltu parhaus â Chyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru (DPPW) a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), rydym wedi cynnal cyfres o sesiynau targededig drwy gydol y flwyddyn ar feysydd blaenoriaeth allweddol. Rydym wedi cydweithio ag awdurdodau lleol i dreialu’r Model Gweithredu Safonau Bwyd (FSDM) a chefnogi’r gwaith o ddatblygu a chyhoeddi’r adroddiad gwerthuso yn gynharach eleni. Cadarnhaodd y gwerthusiad fod y model yn effeithiol, gan arwain at ei gynnwys yn yr ymgynghoriad diweddar ar God Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru). Byddwn yn ceisio cymeradwyaeth weinidogol i fwrw ymlaen â newidiadau i’r Cod yn ddiweddarach yr hydref hwn ac, yn amodol ar gymeradwyaeth, byddwn yn cydweithio’n agos ag awdurdodau lleol i gychwyn cyfnod pontio a dechrau gweithredu’r newidiadau erbyn diwedd y flwyddyn.
3.6 Yn rhan o’r rhaglen archwilio awdurdodau lleol, rydym wedi cwblhau naw archwiliad dros y flwyddyn ddiwethaf, gan asesu cynnydd yr awdurdodau lleol ar sail camau gweithredu a nodwyd yn flaenorol, a chynllunio a darparu eu gwasanaethau yn unol â’r gyfraith a’r Cod Ymarfer Cyfraith Bwyd (FLCoP). Rydym hefyd wedi cychwyn rhaglen archwilio 2025/26 sy’n asesu cynnydd awdurdodau lleol ar sail camau gweithredu a nodwyd yn flaenorol a’u heffeithiolrwydd wrth weithredu rheolaethau bwyd swyddogol mewn perthynas ag alergenau.
3.7 Rydym hefyd yn monitro perfformiad awdurdodau lleol yng Nghymru, sy’n cael sylw ar wahân yn y diweddariad ar berfformiad awdurdodau lleol. Mae canfyddiadau’n dangos bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn parhau i fabwysiadu dull sy’n seiliedig ar risg ac sy’n cael ei arwain gan gudd-wybodaeth wrth flaenoriaethu ymyriadau ar draws pob categori o sefydliadau ar gyfer hylendid a safonau bwyd. Mae’r tîm yn ymgysylltu ag awdurdodau lleol nad oes ganddynt yr adnoddau ar hyn o bryd i alinio’n llwyr â gofynion yr FLCoP er mwyn mynd ati i flaenoriaethu.
3.8 Fel rhan o’r rhaglen samplu awdurdodau lleol yng Nghymru, gwnaethom ddarparu cyllid ar gyfer 203 o samplau ar draws 17 o awdurdodau lleol yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ariannol ddiwethaf. Datgelodd canfyddiadau’r gwaith samplu hwn broblemau allweddol o ran diffyg cydymffurfio, o frechdanau ham wedi’u labelu’n anghywir i ganfod llaeth mewn coffi ‘di-laeth’. Mae hyn wedi arwain at gamau gweithredu targededig, diweddaru canllawiau, ac ymwybyddiaeth ehangach yn y diwydiant trwy sianeli fel cylchlythyr yr Uned Genedlaethol Troseddau Bwyd ac Anaphylaxis UK. Rydym hefyd yn ystyried canllawiau pellach ar alergenau mewn perthynas â diodydd poeth o ganlyniad uniongyrchol i’r gwaith hwn.
3.9 Gan ddefnyddio’r gyllideb flynyddol a glustnodir gan Lywodraeth Cymru, rydym wedi cytuno ar y Rhaglen Gweithredu Bwyd Anifeiliaid ar gyfer 2025-26 gyda’r Grŵp Llywodraethu Bwyd Anifeiliaid ac awdurdodau lleol yng Nghymru. Bydd y rhaglen hon o reolaethau swyddogol, gwaith samplu a hyfforddiant i awdurdodau lleol yn parhau tan ddiwedd mis Mawrth 2026. Ddiwedd y llynedd, roedd y rhaglen wedi sicrhau bod rheolaethau swyddogol wedi’u cynnal mewn safleoedd risg uwch yng Nghymru, a hynny ar lefel o 97.3%.
3.10 Rydym wedi lansio ffrwd waith newydd i archwilio system gofrestru well fel y gofynnwyd amdano gan weinidog Cymru yn y Cytundeb Cydweithredol. Er ein bod yn arwain y gwaith hwn, rydym yn dibynnu ar gefnogaeth ein partneriaid allweddol yn Llywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru. Fel cam cyntaf, rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol peilot i gasglu gwybodaeth a fydd yn darparu tystiolaeth (neu beidio) o’r angen i gryfhau’r broses gofrestru. Byddwn yn diweddaru’r Bwrdd yn rheolaidd cyn rhannu’r argymhellion terfynol â gweinidog Cymru yn y gwanwyn.
3.11 Mae sicrhau bod digon o adnoddau mewn awdurdodau lleol yn parhau i fod yn flaenoriaeth allweddol i bob partner. Yn ogystal â phrosiect yr ASB ynghylch adnoddau awdurdodau lleol, y ceir amlinelliad ohono yn y diweddariad ynghylch awdurdodau lleol, yng Nghymru, rydym yn gweithio mewn partneriaeth â Chyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru i gyflawni’r argymhellion yn eu hadroddiad ar Adeiladu ar gyfer y Dyfodol. Mae hyn yn cynnwys ymgysylltu â phartneriaid ehangach, gan gynnwys Mentera a Sgiliau Bwyd a Diod Cymru i hyrwyddo cyfleoedd gyrfa o fewn y sector rheoleiddio bwyd.
3.12 Ym mis Mawrth a mis Gorffennaf eleni, cynhaliom ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb ag awdurdodau lleol Cymru i lunio a llywio ein gwaith polisi. Roedd y sesiynau hyn yn cwmpasu diweddariadau ar y camau nesaf ar gyfer Rheoleiddio ar Lefel Genedlaethol (lle mae cynrychiolwyr o awdurdodau lleol Cymru wedi bod yn rhan o’r grŵp llywio); y Model Gweithredu Safonau Bwyd (FSDM) newydd a newidiadau ehangach yn yr ymgynghoriad ar y Cod Ymarfer; ein cynigion cychwynnol ar adfer costau awdurdodau lleol, a chynnydd ar brosiect data’r awdurdodau lleol. Ceir cryn groeso i’r digwyddiadau hyn gan bartneriaid yn yr awdurdodau lleol, ac yn wir, mae’r digwyddiadau hyn yn caniatáu i ni wirio ein syniadau o ran polisi yn gynnar, yn ogystal â chlywed gan awdurdodau lleol am yr hyn sy’n bwysig iddyn nhw ar lawr gwlad.
Awdurdodiadau’r farchnad (cyflawni ein cytundeb adran 83)
3.13 Mae’r tîm hefyd yn gweithio ar ddeddfwriaeth i sicrhau y gellir dod ag Awdurdodiadau’r Farchnad ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig i rym yng Nghymru. Mae pob un o’r 26 o geisiadau bwyd anifeiliaid Prydain Fawr wedi’u hawdurdodi yng Nghymru yn ystod y 12 mis diwethaf. Fel rhan o waith ehangach yr ASB i sicrhau bod y broses awdurdodi’n fwy effeithlon, gwnaethom gyflawni’r cam cyntaf o ddiwygio’r ddeddfwriaeth ar gyfer awdurdodiadau’r farchnad yng Nghymru yn llwyddiannus. Daeth y ddeddfwriaeth i rym ar 31 Mawrth 2025. Ar hyn o bryd, rydym yn cefnogi’r gwaith o ddatblygu argymhellion ar gyfer 9 cais arall, ac rydym yn cefnogi ymgynghoriad a gafodd ei lansio’n ddiweddar ar dri chais Canabidiol (CBD).
3.14 Gwnaethom geisio cytundeb gan weinidogion Cymru i ddynodi’r ASB fel yr Awdurdod Cymwys yng Nghymru i gynnal rheolaethau swyddogol, gan gynnwys gwiriadau dogfennol ac archwiliadau ar y safle, a hynny er mwyn gwirio cydymffurfiaeth â safonau’r UE ar gyfer defnyddio deunyddiau ac eitemau plastig wedi’u hailgylchu y bwriedir iddynt ddod i gysylltiad â bwyd. Bydd hyn yn cynorthwyo busnesau’r DU sy’n dymuno allforio plastig ‘safon bwyd’ wedi’i ailgylchu i’r UE.
3.15 Ochr yn ochr â hyn, rydym yn bwrw ymlaen â gwaith gyda swyddogion Llywodraeth Cymru i sicrhau effeithlonrwydd yn y broses awdurdodi, gan barchu’r setliad datganoli.
Cefnogi’r gwaith o gyflawni blaenoriaethau ehangach Llywodraeth Cymru
3.16 Yn dilyn cyhoeddi Bwyd o Bwys: Cymru, sy’n nodi carreg filltir allweddol yn ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddull cydgysylltiedig, trawsbortffolio o ymdrin â pholisi bwyd, rydym yn parhau i gefnogi’r agenda strategol hon drwy helpu i lunio a chyflawni polisïau sy’n hyrwyddo iechyd y cyhoedd ac sy’n diogelu defnyddwyr. Gwnaeth ein tîm safonau gefnogi gwaith Llywodraeth Cymru ar hyrwyddo a lleoli bwydydd sy’n uchel mewn braster, halen a siwgr, ac ar fwyta’n iach mewn ysgolion. Rydym hefyd yn bartneriaid allweddol yn y grŵp iechyd a maeth newydd pum gwlad (gan gynnwys Gweriniaeth Iwerddon), sy’n anelu at sicrhau cyffredinedd ym maes polisi ar draws y DU ac Iwerddon.
3.17 Ym mis Ebrill 2025, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Strategaeth Bwyd Cymunedol, sy’n hyrwyddo cynhyrchu bwyd lleol, diogeledd bwyd, a bwyta’n iach. Drwy sicrhau diogelwch a hylendid bwyd ar draws mentrau a arweinir gan gymunedau, a thrwy helpu cynhyrchwyr bach i fodloni safonau rheoleiddio, mae’r ASB yn cyfrannu at system fwyd fwy gwydn a chynaliadwy yng Nghymru. Mae’r ASB hefyd yn rhan o is-grŵp Llywodraeth Cymru sy’n cyfrannu at Strategaeth Bwyd Llywodraeth y DU. Mae hyn yn cryfhau cydweithio ymhellach ac yn sicrhau bod safbwyntiau Cymru yn cael eu hystyried.
Ymgysylltiad parhaus ledled Cymru â rhanddeiliaid allweddol
3.18 Rydym wedi mynd ati’n rhagweithiol i ymgysylltu â rhanddeiliaid allweddol a phartneriaid cyflawni ledled Cymru i gryfhau perthnasoedd a chefnogi cydweithio. Mae hyn yn cynnwys cymryd rhan mewn digwyddiadau mawr fel Gwobrau Bwyd a Diod Cymru, Blas Cymru, a Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru, lle gwnaethom hwyluso diwrnod llawn o ymgysylltu ar gyfer ein Cadeirydd, Dirprwy Gadeirydd a Chadeirydd Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC). Gwnaethom hefyd gyflwyno yng nghynhadledd Cymdeithas Diogelu Bwyd y DU, a diweddaru rhanddeiliaid ar ein gwaith yng nghynhadledd y Sefydliad Safonau Masnach Siartredig, gan gynnwys cefnogi gwobr i’r myfyriwr â’r canlyniadau gorau yn ei arholiadau safonau bwyd. Yn ddiweddar, gwnaethom hefyd roi cyflwyniad i Safonau Masnach Cymru, gan ddarparu gwybodaeth am y Model Gweithredu Safonau Bwyd, Gweithredu Bwyd Anifeiliaid, samplu a hyfforddiant i gynorthwyo gyda chynllunio busnes.
3.19 Mae gwaith yr ASB yng Nghymru hefyd yn cyd-fynd yn agos â nodau Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a’r adroddiad cynnydd diweddaraf. Drwy ein hymrwymiad cyffredin o ran strategaethau atal ac o ran iechyd y cyhoedd, rydym yn falch o weithio ochr yn ochr â Chomisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru i gefnogi Cymru iachach, fwy cyfartal a chynaliadwy – yn awr ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Edrychwn ymlaen at barhau â’r cydweithredu pwysig hwn drwy gefnogi’r nodau bwyd a’r Strategaeth Bwyd Cymunedol.
3.20 Ochr yn ochr â gweithio gyda chydweithwyr yn yr ASB ar waith ehangach ar ddosbarthu ardaloedd cynhyrchu molysgiaid dwygragennog byw (LBMs), eleni, rydym wedi gweithio’n agos gyda’r ffermwyr cregyn gleision yn Afon Menai, Cymdeithas Rheoli Gorchymyn Pysgodfeydd Afon Menai, ac awdurdodau lleol i adolygu’r Arolwg ar Lanweithdra a dosbarthiad gwelyau yn y Fenai. Yn dilyn yr adolygiad hwn ac adborth gan y cynaeafwyr, diwygiwyd y parthau dosbarthedig i gyd-fynd yn well â’r ardaloedd tyfu a chynaeafu er mwyn sicrhau bod y pwyntiau monitro cynrychioliadol, a’r dosbarthiadau a ddyfarnwyd wedi hynny, yn adlewyrchu’n gywirach ansawdd y dŵr lle cafodd y cregyn gleision i’w bwyta gan bobl eu cynaeafu. Cefnogodd y tîm hefyd archwiliad yr UE o’r rheolaethau ynghylch molysgiaid dwygragennog byw yn y DU.
3.21 Ym mis Ionawr eleni, cafodd adolygiad o’r ASB yng Nghymru, a gyhoeddwyd yn wreiddiol ym mis Mehefin 2021, ei lansio gan Ysgol Chwaraeon a Gwyddorau Iechyd Prifysgol Metropolitan Caerdydd. Mae’n canolbwyntio ar gylch gwaith polisi’r ASB, yn ogystal â materion o ran llywodraethiant ac atebolrwydd yr ASB, ac fe’i cynhaliwyd mewn dau gam – sef, adolygiad bwrdd gwaith a cham cyfweld, a oedd yn cynnwys siarad â nifer o randdeiliaid yng Nghymru, yn ogystal â staff yr ASB, y Prif Weithredwr, y Cadeirydd a Chadeirydd WFAC. Mae’r adroddiad i fod i gael ei gyhoeddi yn ddiweddarach yr hydref hwn, ar ôl iddo gael ei gymeradwyo gan weinidog Cymru, a disgwylir iddo gynnig cyfres o argymhellion ar gyfer ffyrdd o weithio rhwng yr ASB a Llywodraeth Cymru. Ar ôl ei gyhoeddi, byddwn yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a’n rhanddeiliaid allweddol i fwrw ymlaen ag unrhyw gamau gweithredu.
4. Cyflawni blaenoriaethau corfforaethol ehangach yr ASB yng Nghymru
4.1 Ochr yn ochr â gwaith ar feysydd sy’n benodol i Gymru, mae tîm yr ASB yng Nghymru yn cyfrannu at flaenoriaethau a rhaglenni ehangach yr ASB, ac yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn Lloegr a Gogledd Iwerddon.
4.2 Ers mis Gorffennaf 2024, mae Llywodraeth y DU wedi bod yn gweithio i gryfhau cydweithrediad â’r UE, gan gynnwys archwilio cytundeb iechydol a ffytoiechydol (SPS) posib â’r nod o leihau costau a biwrocratiaeth ar gyfer symudiadau bwyd-amaeth rhwng Prydain Fawr, yr UE, a Gogledd Iwerddon. Yng Nghymru, rydym wedi cefnogi ymgysylltiad gweithredol ar draws y llywodraeth i asesu a chynghori ar y goblygiadau y gallai unrhyw gytundeb SPS arfaethedig gyda’r UE eu cael ar iechyd y cyhoedd.
4.3 Yng nghyd-destun cytundeb SPS posib, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru yn ddiweddar ei phenderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â Safleoedd Rheoli Ffin ar Arfordir y Gorllewin. Rydym yn parhau i weithio’n agos gyda chydweithwyr yn Defra a Llywodraeth Cymru i sicrhau cydgysylltu parhaus o ran pwyntiau mynediad ar arfordir y Gorllewin, sy’n cynnwys adolygu sut mae gweinyddiaethau’r DU ac asiantaethau eraill yn cydweithio, a nodi cyfleoedd i gryfhau rhannu gwybodaeth a gweithio ar y cyd.
4.4 O ran bridio manwl, wrth gydweithredu â chydweithwyr ar draws yr ASB a Llywodraeth Cymru, rydym wedi datblygu canllawiau gorfodi cenedl-benodol ar gyfer awdurdodau lleol yng Nghymru. Rydym yn bwriadu rhannu’r rhain er mwyn cael adborth arnynt, ac yn dal i fod ar y trywydd iawn i gyhoeddi’r canllawiau penodol i Gymru bedair wythnos cyn i’r Rheoliadau Bridio Manwl ddod i rym yn Lloegr ym mis Tachwedd.
4.5 Gwnaethom gefnogi’r adolygiad o gynllun disgownt yr ASB ar gyfer safleoedd cig, gan gynnal sesiwn i randdeiliaid yn gynharach eleni i glywed yn uniongyrchol gan ddiwydiant cig Cymru. Gan nodi penderfyniad y Bwrdd ym mis Mehefin i barhau â’r cynllun, ond gan anelu’r gefnogaeth at fusnesau llai a chanolig, byddwn nawr yn ymgysylltu o’r newydd â Llywodraeth Cymru a’r diwydiant ar y gwaith hwn. Yn ogystal, byddwn yn parhau i weithio gyda gweithgor y diwydiant cig defaid â’r croen ynghlwm wrth iddynt fwrw ymlaen â’u hymdrechion i gasglu tystiolaeth er mwyn llywio cynnig ar gyfer cyfreithloni cig defaid â’r croen ynghlwm yn y DU.
4.6 Mae’r tîm yng Nghymru wedi parhau i gydweithio ar ffrydiau gwaith ym maes polisi safonau bwyd. Mae hyn yn cynnwys cyfrannu at ddatblygu canllawiau arferion gorau ar wybodaeth am alergenau ar gyfer busnesau bwyd y tu allan i’r cartref, a gosod rheoliadau bara a blawd yn y Senedd, yn unol â newidiadau ledled y DU, gan gyflawni nod iechyd cyhoeddus hirhoedlog o orfodi ychwanegu asid ffolig at flawd, gyda’r bwriad o leihau diffygion y tiwbiau niwral yn gynnar yn ystod beichiogrwydd.
4.7 Cafodd gwaith y tîm diogelu defnyddwyr yng Nghymru ei grynhoi yn yr adroddiad blynyddol ar ddigwyddiadau a gwydnwch ar gyfer 2024/25, a gyflwynwyd yng nghyfarfod y Bwrdd ym mis Mehefin. Roedd y tîm yn rhan uniongyrchol o 132 o ddigwyddiadau a adroddwyd yng Nghymru yn ystod y cyfnod hwn (i lawr o 156 yn ystod y flwyddyn flaenorol), ac roeddent yn rhan weithredol o 22 o frigiadau o achosion, gyda thri ohonynt yn cael eu harwain yng Nghymru. Er bod nifer y digwyddiadau’n is, bu cynnydd yn y nifer sy’n galw am ymchwiliadau aml-asiantaeth neu, fel arall, bu digwyddiadau cymhleth ar raddfa genedlaethol, gan arwain at ddulliau mwy cydweithredol.
4.8 Fel yr arweinydd ar atchwanegiadau ar draws yr ASB, aeth y tîm ati’n ddiweddar i adolygu a diweddaru’r canllawiau caffein ar gyfer busnesau a gyhoeddwyd yn flaenorol ym mis Medi 2024. Gwnaed hyn yn sgil arolwg samplu dan arweiniad yr ASB ar atchwanegiadau bwyd caffein a amlygodd gyfradd methu o 83%, gan gynnwys problemau labelu. Nod ein diweddariadau oedd rhoi mwy o eglurder i fusnesau er mwyn eu helpu i gydymffurfio â’r gyfraith, a rhoesom wybod i awdurdodau lleol am ganlyniadau samplu aflwyddiannus er mwyn iddynt gynnal gwaith dilynol.
Ymrwymiadau o ran y Gymraeg
4.9 Fel rhan o’n hymrwymiad a’n cyfrifoldebau parhaus o dan y Cynllun Iaith Gymraeg, rydym yn parhau i ddarparu dewis iaith rhagweithiol a gwasanaeth dwyieithog i’n defnyddwyr yng Nghymru, gan gynnwys ar draws ein llwyfannau digidol ac wrth rannu gwybodaeth a chanllawiau â rhanddeiliaid. Wedi i ni gyflwyno ein Hadroddiad Monitro Blynyddol ar gynnydd ein gwasanaethau, cawsom adborth cadarnhaol dros ben gan Gomisiynydd y Gymraeg ynghylch ansawdd ein harferion. Ers hynny, rydym wedi manteisio ar gyfleoedd i rannu’r arferion gorau hyn â sefydliadau eraill, gan gynnwys Rhwydwaith y Rheoleiddwyr yng Nghymru.
4.10 Wrth ddarparu ein gwasanaeth dwyieithog, rhan allweddol ohono yw rhannu amrywiaeth o ymgyrchoedd i helpu i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chefnogi dewisiadau gwybodus gan ddefnyddwyr. O godi ymwybyddiaeth o ymddygiadau peryglus yn y gegin i gyhoeddi cyngor diogelwch ar glyserol mewn diodydd iâ slwsh (neu ‘slushies’), rydym wedi gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol Cymru, Llywodraeth Cymru, llwyfannau cyfryngau Cymru, a phartneriaid allweddol i sicrhau bod ein negeseuon wedi’u teilwra a’u rhannu’n helaeth. Yn ogystal, mae cynnwys targededig yn y cyfryngau traddodiadol ac ar y cyfryngau cymdeithasol – yn enwedig gyda llwyfannau Cymraeg fel Prynhawn Da, Golwg a Bore Cothi – wedi ein helpu i gyrraedd cynulleidfaoedd amrywiol ledled Cymru.
4.11 Yn fwyaf diweddar, gwnaethom gefnogi’r gwaith o gyhoeddi a lansio Ein Bwyd, sef yr adroddiad blynyddol ar safonau bwyd a gynhyrchwn ar y cyd â Safonau Bwyd yr Alban. Roedd hyn yn cynnwys gosod yr adroddiad dwyieithog yn y Senedd a’i rannu â rhanddeiliaid. Gwnaethom nodi’r lansiad gyda derbyniad seneddol, gan ddathlu 25 mlynedd o’r ASB a thynnu sylw at bwysigrwydd cydweithio wrth ddiogelu iechyd y cyhoedd ochr yn ochr â’n Cadeirydd, y Dirprwy Brif Weinidog a rhai o’n rhanddeiliaid allweddol yng Nghymru.
4.12 Cefnogwyd gwaith allgymorth cyhoeddus ymhellach yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn Wrecsam, lle gwnaethom hyrwyddo diogelwch bwyd ac ymgysylltu â defnyddwyr i rannu negeseuon allweddol ynghylch diogelwch bwyd. Mae’r gweithgareddau hyn wedi atgyfnerthu ein gwelededd, cryfhau partneriaethau, ac wedi amlygu cyfleoedd ar gyfer cydweithio yn y dyfodol.
5. Edrych tua'r dyfodol
5.1 Mae’r ASB yn bwriadu gweithio ar nifer o flaenoriaethau yng Nghymru yn ystod y chwech i 12 mis nesaf, yn ogystal â pharhau i weithio ar y meysydd hynny a nodir uchod. Yn allweddol i’n holl waith fydd cryfhau ein perthynas â’n partneriaid cyflenwi, a hynny drwy ein hymgysylltiad â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Cyfarwyddwyr Diogelu’r Cyhoedd Cymru ac awdurdodau lleol unigol. Yn ogystal, bydd y tîm yn canolbwyntio ar y meysydd canlynol:
5.2 Unwaith y bydd yr argymhellion terfynol wedi’u cyhoeddi ar sail yr Adolygiad o’r ASB, byddwn yn gweithio gyda swyddogion Llywodraeth Cymru a’n rhanddeiliaid i’w rhoi ar waith.
5.3 Bydd etholiad nesaf y Senedd ym mis Mai 2026 yn nodi newid sylweddol yng nghynrychiolaeth seneddol Cymru, gyda system newydd yn cynyddu nifer yr Aelodau o’r Senedd (ASau) o 60 i 96. I baratoi, rydym yn parhau i gryfhau ein hymgysylltiad rhagweithiol ag ASau wrth i ni agosáu at yr etholiad, gan sicrhau eu bod yn gwbl ymwybodol o fuddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd yng Nghymru. Rydym wedi cynllunio sesiynau ymgysylltu yn Y Farchnad yn y Senedd, a nod y rhain fydd sicrhau bod diogelwch a safonau bwyd yn parhau i fod yn rhan weladwy a dealladwy o’r dirwedd bolisi yng Nghymru.
5.4 Byddwn yn parhau i gefnogi Llywodraeth Cymru a’r grŵp polisi bwyd trawslywodraethol i gyflawni eu hagenda fwyd strategol, gan gynnwys Bwyd o Bwys a’r Strategaeth Bwyd Cymunedol. Byddwn yn parhau i gyfrannu at ddatblygu polisïau sy’n hyrwyddo iechyd y cyhoedd, yn diogelu defnyddwyr, ac yn cryfhau systemau bwyd ledled Cymru a’r DU. Bydd ein gwaith hefyd yn cyd-fynd â’r argymhellion a nodir yn adroddiad Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol, gan helpu i hyrwyddo gwelliannau cynaliadwy hirdymor mewn polisi bwyd, a hynny trwy gydweithio, gwneud penderfyniadau sy’n seiliedig ar dystiolaeth, a chynnal gwaith cydgysylltiedig ar draws llywodraethau a sectorau.
5.5 Bydd ein hymgyrchoedd ymwybyddiaeth dwyieithog yn parhau drwy gydol y flwyddyn nesaf, a byddwn yn gweithio gyda phartneriaid allweddol yng Nghymru i ehangu ein cyrhaeddiad a’r argraff a wnawn ar gynulleidfaoedd. Bydd ein hymgyrch i ddefnyddwyr ar hylendid bwyd yn cynnig cyngor ymarferol ar ddiogelwch bwyd yn y cartref, tra bydd yr ymgyrch ‘Mae bwyd mwy diogel yn golygu busnes gwell’ yn cefnogi busnesau bwyd wrth gynnal safonau uchel o ran hylendid a diogelwch.
5.6 Dros y misoedd nesaf, byddwn yn gweithio gyda Chyd-bwyllgor Addysg Cymru (CBAC) er mwyn datblygu modiwl Cynllunio a Pharatoi Bwyd o fewn cyfres o Gymwysterau Cenedlaethol newydd i Gymru. Bydd hyn yn cael ei gynnwys mewn pecyn sgiliau ar gyfer dysgwyr 14-16 oed, gan bwysleisio pwysigrwydd sgiliau ymarferol, a byddwn yn cyfrannu at adrannau ynghylch paratoi bwyd yn ddiogel, alergenau, labelu bwyd a gwastraff bwyd. Yn ogystal, mae CBAC wedi cysylltu â ni ers hynny i gydweithio ar Dystysgrif Alwedigaethol Addysg Uwchradd mewn Lletygarwch ac Arlwyo, a byddwn yn gweithio gyda’r Cyd-bwyllgor i’w datblygu.
5.7 Bwriad y rhaglen archwiliadau â ffocws o awdurdodau lleol ar gyfer 2025/26 yw asesu pa mor effeithiol y caiff rheolaethau bwyd swyddogol sy’n ymwneud ag alergenau eu rhoi ar waith yng Nghymru.
5.8 Yn dilyn Uwchgynhadledd gyntaf y DU a’r UE ym mis Mai, a chyhoeddi’r ddogfen dealltwriaeth gyffredin, rydym wedi bod yn cyfrannu at raglen SPS ehangach yr ASB, gan gynnwys ymgysylltu â Llywodraeth Cymru i ddeall yr effeithiau posib o fewn cyd-destun datganoledig. Bydd gwaith yn y dyfodol yn cynnwys adolygu strwythur yr ASB yng Nghymru i gyd-fynd â’r rhaglen ehangach ac asesu’r goblygiadau y gall cytundeb SPS gyda’r UE eu cael ar iechyd y cyhoedd.
6. Casgliadau
6.1 Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg lefel uchel o’r gwaith sydd wedi’i wneud ers y diweddariad diwethaf i’r Bwrdd ym mis Medi 2024, yn ogystal â blaenoriaethau presennol a rhai’r dyfodol ar gyfer tîm yr ASB yng Nghymru.
6.2 At ei gilydd, gofynnir i’r Bwrdd:
-
asesu effeithiolrwydd gwaith yng Nghymru i gyflawni blaenoriaethau’r ASB
-
ystyried sut mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd â chyfeiriad strategol yr ASB
-
rhoi adborth ar y blaenoriaethau a nodwyd.