Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

FSA 22-09-09 - Adroddiad gan Gyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru

Adroddiad gan Nathan Barnhouse, Cyfarwyddwr yr Asiantaeth Safonau Bwyd yng Nghymru.

1.    Crynodeb

1.1    Mae’r papur hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yng Nghymru wrth gyflawni ei rhaglen waith ers yr adroddiad diwethaf i’r Bwrdd ym mis Medi 2021. Mae hefyd yn rhoi trosolwg o’n cyfraniad at waith yr ASB ehangach. Yn olaf, rydym yn cyflwyno ein blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod, sy’n adeiladu ar ein blaenoriaethau cyfredol. Er bod cynnydd da wedi’i wneud, mae rhai heriau yn para mwy na blwyddyn, a rhaid integreiddio’r gwaith a’i alinio â chynlluniau ehangach Llywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus. 

1.2    Mae’r cyd-destun y mae’r ASB yng Nghymru yn gweithredu ynddo wedi newid yn aruthrol ac mae’r flwyddyn ddiwethaf wedi canolbwyntio ar ymaddasu i heriau newydd yn ogystal â pharhau i fynd i’r afael â’n hamcanion. Mae ein cylch gwaith wedi ehangu wrth i ni ymgymryd â swyddogaethau newydd ers ymadael â’r Undeb Ewropeaidd (UE) ac mae’r gwaith hwn wedi ymsefydlu yn ystod y cyfnod hwn. Rydym wedi ymgymryd â phrosesau rheoleiddio sylweddol ar ran Gweinidogion Cymru, lle gallwn fanteisio ar arbenigedd gwyddonol, asesu risg ac arbenigedd polisi ehangach yr ASB a lle gallwn sicrhau bod buddiannau Gweinidogion Cymru yn cael eu cynrychioli’n llawn. 

1.3    Mae’r cyd-destun newidiol hwn wedi golygu bod angen ad-drefnu’r ffordd rydym yn gweithio’n sylweddol – a gwnaed hyn oll tra buom hefyd yn ymateb i’r pandemig byd-eang. Yn ystod y cyfnod cythryblus hwn, mae’r bobl yn yr ASB yng Nghymru wedi ymateb yn broffesiynol ac yn ymroddedig er mwyn darparu’r gwasanaeth gorau posib. 

Gofynnir i’r Bwrdd:

  • Asesu’r cynnydd a wnaed wrth gyflawni blaenoriaethau’r ASB 
  • Rhoi sylwadau ar aliniad y gwaith hwn â chyfeiriad strategol yr ASB a’i dull o weithio ar draws y tair gwlad 
  • Ystyried a rhoi sylwadau ar y blaenoriaethau arfaethedig ar gyfer yr ASB yng Nghymru ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a’r flwyddyn ariannol nesaf. 

2.    Cyflwyniad

2.1    Mae’r ASB yng Nghymru yn gyfrifol am ddatblygu deddfwriaeth a pholisi datganoledig sy’n ymwneud â diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid, safonau, cyfansoddiad bwyd a labelu.

2.2    Rydym yn gweithio i sicrhau bod buddiannau Gweinidogion Cymru, rhanddeiliaid a defnyddwyr yn cael eu hadlewyrchu mewn unrhyw bolisi neu ddeddfwriaeth a ddatblygir gan yr ASB. Gwnawn hyn drwy weithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws yr ASB a Llywodraeth Cymru i sicrhau dull integredig o weithio fel rhan o fodel tair gwlad yr ASB.

2.3    Ers diwedd y cyfnod pontio, rydym wedi bod yn gweithredu gyda chyfrifoldebau sylweddol newydd mewn cyd-destun newydd, lle yr amharwyd ar ffyrdd hirsefydledig o weithio. Ers diwedd y cyfnod pontio, mae’r ASB wedi dod yn gorff sy’n ‘cynnig rheolau’ yn hytrach na chorff sy’n ‘cymryd rheolau’ ac mae’r ASB yng Nghymru yn gyfrifol am wneud argymhellion i Weinidogion Cymru ynglŷn â’r risgiau a berir gan gynhyrchion bwyd newydd i farchnad y Deyrnas Unedig (DU). Yn ogystal â chyfrifoldeb am y broses weinyddol, mae’r ASB yng Nghymru yn gyfrifol am gynrychioli buddiannau Cymru a sicrhau bod y buddiannau hynny’n cael eu hystyried drwy’r broses asesu risg ac awdurdodi ar gyfer cynhyrchion rheoleiddiedig. Roedd angen adnoddau ychwanegol sylweddol dim ond ar gyfer y swyddogaethau newydd hyn ac, ers 2020/21, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu £1.5 miliwn ar ein cyllid, o £3.74 miliwn i £5.11 miliwn.

2.4    Mae’r ASB yng Nghymru yn manteisio ar ei dealltwriaeth o amcanion polisi Llywodraeth Cymru, wedi’i meithrin drwy gydweithio’n agos â Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015, fel rhan o’i chyfraniad at waith ehangach yr ASB. Mae hefyd yn golygu ein bod yn manteisio ar allu gwyddonol, rheoli risg ac ymchwil helaeth yr ASB wrth ddarparu cyngor cadarn i Weinidogion Cymru. Mae hyn yn cryfhau ein rôl fel adran annibynnol, anweinidogol o’r llywodraeth.

2.5    Mae’r ffordd rydym yn ymgysylltu â Gweinidogion Cymru hefyd wedi newid ers diwedd y cyfnod pontio. Mae cyflwyniadau gweinidogol wedi cynyddu o ran eu nifer, eu cynnwys a’r gwaith sydd ynghlwm â nhw, a disgwylir iddynt gynyddu ymhellach wrth i fwy o awdurdodiadau fynd rhagddynt. Rydym hefyd yn ymgysylltu’n amlach â Gweinidogion Cymru, yn enwedig wrth ddatblygu gwaith ledled y DU, er mwyn sicrhau bod eu buddiannau’n cael eu cynrychioli’n briodol. Er enghraifft, ers mis Medi 2021, rydym wedi cefnogi Cadeirydd ac Aelod Bwrdd Cymru mewn tair trafodaeth ar fridio manwl gyda’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant. I gefnogi’r trafodaethau hyn, rydym wedi blaenoriaethu gwaith cydweithredol gyda swyddogion Llywodraeth Cymru wrth iddynt ystyried eu safbwynt. 

2.6    Ochr yn ochr â gwaith ar feysydd sy’n benodol i Gymru, rydym yn gweithio’n gwbl integredig ar flaenoriaethau a rhaglenni gwaith ehangach yr ASB, gan gynnwys rhaglenni newid allweddol fel Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau (ABC) a’r Rhaglen Trawsnewid Gweithredol (OTP). Mae ein cyfraniadau i’r meysydd hyn yn cael eu hadlewyrchu’n fanylach yn y papur hwn. 

2.7    Cyflawnir ein gwaith yn unol â fframweithiau cyffredin y DU gan sicrhau bod safbwyntiau rhanddeiliaid yng Nghymru yn cael eu cynrychioli ar lefel y DU wrth ddatblygu polisi a deddfwriaeth. Fel rhan o’r model pedair gwlad, rydym yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr ar draws Lloegr, Gogledd Iwerddon a Safonau Bwyd yr Alban i sicrhau bod dull gweithredu integredig, er mwyn cyflawni polisïau’r ASB yn effeithiol ac yn effeithlon.

2.8    Rydym hefyd yn darparu cymorth o ddydd i ddydd i Aelod Bwrdd Cymru ar gyfer Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC). Ers ein diweddariad diwethaf, rydym wedi cefnogi’r Cadeirydd mewn cyfarfodydd â thema, gan gynnwys:

  • gorsensitifrwydd i fwyd lle’r oedd amrywiaeth o randdeiliaid yn bresennol i gyflwyno ar amrywiaeth eang o agweddau ar y mater hwn – gan gynnwys y problemau a wynebir gan bobl sy’n byw gydag alergeddau ac yn gofalu am bobl ag alergeddau, a’r gwaith gorfodi a wneir gan awdurdodau lleol mewn cysylltiad â chyfraith Natasha, a ddaeth i rym y llynedd
  • diffyg diogeledd bwyd cartrefi lle gwnaethom gynnull nifer o randdeiliaid a oedd yn ymwneud â gwahanol agweddau ar ddiffyg diogeledd bwyd ledled Cymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac elusennau
  • bridio manwl lle gwnaethom gynnull nifer o weithredwyr allweddol yn y maes polisi hwn sy’n datblygu i roi trosolwg o'r sefyllfa bresennol a datblygiadau allweddol.

3.    Diweddariad ar flaenoriaethau a chyflawniadau ers y diweddariad diwethaf i’r Bwrdd

3.1    Bydd y Bwrdd yn cofio i’r papur diwethaf ym mis Medi 2021 amlygu pedair blaenoriaeth ar gyfer yr ASB yng Nghymru ar gyfer y chwech i ddeuddeg mis nesaf. Isod ceir diweddariad ar gynnydd a chyflawniadau yn erbyn y blaenoriaethau hyn:

Blaenoriaeth 1: Adfer y defnydd o reolaethau bwyd yn sgil y pandemig 
  • Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol ar yr adferiad cydgysylltiedig o effaith pandemig COVID-19. Rydym yn monitro perfformiad awdurdodau lleol drwy gydol y flwyddyn gan ddefnyddio arolygon cynnydd a ffurflenni blynyddol i adolygu gweithrediad Cynllun Adfer yr ASB gan awdurdodau lleol, a chymryd camau dilynol yn ôl yr angen. Mae ymatebion yn bwydo i ddiweddariadau ehangach yr ASB ar gynnydd ar draws y tair gwlad. 
    Yn ogystal, rydym wedi cychwyn cyfres o asesiadau sicrwydd gydag awdurdodau lleol Cymru i wirio gweithrediad Cynllun Adfer awdurdodau lleol. Bydd canfyddiadau’r asesiadau hyn yn cyfrannu at adroddiad cryno ar gyfer y tair gwlad rydym yn bwriadu ei ddosbarthu yn ddiweddarach yn y flwyddyn. 
    Rydym yn parhau i weithio gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod cynllun adfer yr ASB yn cael ei ystyried fel rhan o waith adfer ehangach Gwasanaethau Diogelu’r Cyhoedd.

Blaenoriaeth 2: Gwaith ar ôl Ymadael â’r UE
  • Rhaglen fframweithiau cyffredin – Mae Fframweithiau Cyffredin yn rhoi’r mecanweithiau i’r pedair gwlad gydweithio i reoli’n effeithiol y meysydd lle mae polisïau gwahanol yn dod i’r amlwg, gan geisio sicrhau cyn lleied â phosib o effaith annymunol ar ddinasyddion a busnesau. Rydym yn cyfrannu at y rhaglen fframweithiau hon. Mae’r ASB yn rhan o ddau Fframwaith Cyffredin sy’n cyd-fynd â chyfrifoldebau polisi’r ASB yng Nghymru: Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid (FFSH) a Safonau Cyfansoddiad Bwyd a Labelu (FCSL)
  • Aeth Fframwaith Cyffredin FCSL gerbron y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn y Senedd at ddibenion craffu ym mis Chwefror 2022 a bydd yn cael ei ddiweddaru yn dilyn proses o Graffu Seneddol yn y tair gwlad. Mae Fframwaith Cyffredin FFSH wedi’i gymeradwyo’n derfynol gan y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant yng Nghymru. Mae wrthi’n cael ei gymeradwyo’n derfynol gan Weinidogion ar draws gweddill y DU. 

  • Fukushima – Fe wnaethom gyfrannu at yr adolygiad o reolaethau ar fwyd wedi’i fewnforio o Japan yn dilyn y ddamwain niwclear yn Fukushima. Roedd hwn yn faes gwaith uchel ei broffil, a oedd yn cynnwys rhwymedigaeth gyfreithiol i gynnal adolygiad o ddeddfwriaeth yr UE a ddargedwir, ac yn ystyried y potensial ar gyfer dargyfeirio oddi wrth yr UE, yng nghyd-destun goblygiadau masnach posib. Dyma enghraifft o weithio ar draws y pedair gwlad i sicrhau bod y mater yn mynd rhagddo o ystyried risg yn ystod y camau cynnar i ddatblygu opsiynau rheoli risg yn y camau olaf. Bu’r ASB yng Nghymru yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru a Gweinidogion Cymru, gan ddarparu sesiynau briffio a chyfarfod â'r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant i egluro’r wyddoniaeth a’r dystiolaeth sy’n sail i gyngor yr ASB i Weinidogion. Gosodwyd deddfwriaeth i ddileu rheolaethau gerbron Senedd Cymru ar 30 Mai 2022 a daeth i rym ar 29 Mehefin 2022, yn unol â’r amserlen yn Lloegr a’r Alban.  

  • Y gyfran gyntaf o gynhyrchion rheoleiddiedig – Ers yr ymadawiad â’r UE, yr ASB a Gweinidogion Cymru, yn y drefn honno, sy’n gyfrifol am asesu risg ac awdurdodi cynhyrchion rheoleiddiedig yng Nghymru. Buom yn gweithio i sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu hystyried yn briodol yn ystod y cam ymgynghori a gwnaethom ddarparu argymhellion rheoli risg i’r Dirprwy Weinidog, yn seiliedig ar safbwynt yr asesiad risg a’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Rydym hefyd yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i swyddogion Llywodraeth Cymru trwy system syn rhoi trosolwg o’r ceisiadau bob pythefnos. Datblygwyd y system hon gan y tîm i sicrhau bod modd i’r swyddogion hyn ddarparu barn ar geisiadau cyn gynted â phosib. Yn y cyfran gyntaf o geisiadau cynhyrchion rheoleiddiedig, cytunodd y Dirprwy Weinidog i awdurdodi 26 o gynhyrchion (chwe Bwyd Newydd, naw GMO ac 11 Ychwanegyn Bwyd Anifeiliaid). Mae deddfwriaeth sy’n rhoi grym cyfreithiol i benderfyniad y Dirprwy Weinidog bellach ar waith ar gyfer y chwe Bwyd Newydd a'r naw GMO. Bydd Offeryn Statudol (OS) a fydd yn rhoi grym cyfreithiol i’r 11 Ychwanegyn Bwyd Anifeiliaid yn cael ei osod ym mis Medi, unwaith y ceir cytundeb Gweinidogol ar ei gyfer.
Blaenoriaeth 3: Gweithio gyda Llywodraeth Cymru
  • Rydym wedi bod yn rhoi cyngor ar y gofynion o ran seilwaith fel rhan o waith cynllunio Llywodraeth Cymru ar gyfer safleoedd rheoli ffiniau arfaethedig.
  • Rydym hefyd wedi cyfrannu at a chefnogi datblygiad Blaenoriaethau Iechyd Cyhoeddus Cymru a ddatblygwyd fel rhan o Grŵp Cynghori Diogelu Iechyd Prif Swyddog Meddygol Cymru, gan sicrhau bod diogelwch a safonau bwyd a bwyd anifeiliaid yn cael eu blaenoriaethu’n briodol.
Blaenoriaeth 4: Ymgysylltu ag Aelodau’r Senedd
  • Ym mis Gorffennaf eleni, gwnaethom drefnu digwyddiad yn y Senedd i ymgysylltu ag Aelodau’r Senedd. Diben y digwyddiad oedd lansio Adroddiad Safonau Bwyd cyntaf yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban, a bu’n gyfle hefyd i gyfarfod ag Aelodau Seneddol a rhanddeiliaid allweddol eraill i drafod yr adroddiad yn ogystal â strategaeth newydd yr ASB. Anerchwyd y digwyddiad gan Gadeirydd yr ASB a’r Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Lles, Lynne Neagle, gan dynnu sylw at rôl hollbwysig yr ASB yng ngoleuni ei swyddogaethau newydd mewn byd sy'n newid. Daeth traean o’r Aelodau Seneddol a oedd yn bresennol yn y Cyfarfod Llawn y diwrnod hwnnw i’r digwyddiad. 

3.2    Yn ogystal â’r blaenoriaethau a amlinellwyd uchod, mae’r ASB yng Nghymru wedi cyfrannu at nifer o ddarnau arwyddocaol eraill o waith a blaenoriaethau ehangach yr ASB ers yr adroddiad diwethaf i’r Bwrdd. Mae enghreifftiau o rai o’r cyflawniadau hyn wedi’u hamlinellu isod:

Ymgysylltu a Chyfathrebu yng Nghymru
  • Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol – Eleni, dychwelwyd at ein rhaglen ymgysylltu â’r cyhoedd trwy’r ddau ddigwyddiad mawr hyn. Cafodd ein stondin corfforaethol ei ddatblygu a'i wella i gynnwys modiwlau ar olchi dwylo a throseddau bwyd. Roedd y ddau ddigwyddiad yn llwyfan effeithiol i gwrdd ag ystod o randdeiliaid. Tra bod Sioe Frenhinol Cymru yn gyfle i ymgysylltu â busnesau, rhanddeiliaid amaethyddol a defnyddwyr yn gyffredinol, roedd yr Eisteddfod Genedlaethol, sef gŵyl i ddathlu diwylliant Cymru a’r Gymraeg, yn gyfle i godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o gylch gorchwyl yr ASB ymhlith defnyddwyr, gan ateb ymholiadau'r cyhoedd ar bortffolio eang yr ASB. Eleni hefyd, ymwelodd Cadeirydd yr ASB â’r Sioe Frenhinol i godi ein proffil a chwrdd â rhanddeiliaid.

  • Bwyd Diogel Cynaliadwy a Dilys Cymru (SSAFW) – Rydym yn parhau i ddefnyddio’r fforwm hwn, sy’n cynnwys yr ASB, llywodraeth leol, Llywodraeth Cymru, y diwydiant, y byd academaidd a rhanddeiliaid allweddol eraill yng Nghymru, i drafod a rhannu materion allweddol o bwys. Cafodd y fforwm hwn ei friffio’n ddiweddar ar strategaeth newydd yr ASB ar gyfer 2022-27 gan y Tîm Strategaeth. Nododd yr aelodau fod adeiladu ar yr amcanion presennol ynghylch sicrhau bod bwyd yn ddiogel ac yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label, yn ogystal â chynnwys trydydd piler, sef ‘Mae bwyd yn iachach ac yn fwy cynaliadwy', yn gynnydd da o ran cysylltu ag effeithiau iechyd hirdymor y bwyd rydym yn ei fwyta, ac o ran cysylltu â ffyrdd o weithio Iechyd Cyfunol.

  • Rhaglen Gwyliadwriaeth Pathogenau mewn Amaethyddiaeth, Bwyd a'r Amgylchedd (PATH-SAFE(footnote)) – Mae’r ASB wedi gweithio gyda Phrifysgol Bangor i ddatblygu offer ataliol a yrrir gan ddata i ragweld y risg a berir gan Norofeirws ac ymwrthedd gwrthficrobaidd mewn dyfroedd arfordirol a mynediad i’r gadwyn fwyd mewn partneriaeth ag Arup, Dŵr Cymru-Welsh Water, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cefas.

Ein cyfraniad at flaenoriaethau ehangach yr ASB
  • Cyfrannu at gynnwys a chyfieithu Adroddiad Safonau Blynyddol newydd yr ASB – Bu aelodau’r tîm yn rhan o’r gwaith o ddrafftio sawl pennod o adroddiad blynyddol cyntaf erioed yr ASB ar safonau bwyd, a’r tîm cyfieithu yng Nghymru oedd yn gyfrifol am ddarparu’r adroddiad hwn yn ddwyieithog, yn unol â gofynion Cynllun Iaith Gymraeg yr ASB a Swyddfa Gyflwyno’r Senedd. Roedd hwn yn ddarn sylweddol o waith a oedd yn gofyn am waith rheoli prosiect manwl mewn amgylchedd lle'r oedd y cynnwys yn datblygu'n gyflym. Gweithiodd yr Uned Iaith Gymraeg yn agos gyda chydweithwyr polisi ar draws yr ASB i sicrhau bod yr adroddiad Cymraeg wedi’i greu mewn modd amserol a chywir, gan gynnal safon uchel y gwasanaeth a'r dewis iaith y mae ein defnyddwyr yn ei ddisgwyl gennym yng Nghymru. Cafodd yr adroddiad ei osod yn ddwyieithog yn y Senedd yn unol ag amserlen y gwledydd eraill.

  • Pryfed – Mae’r gallu i arloesi ym maes cynhyrchu bwyd a mynd i’r afael â materion amgylcheddol, cynaliadwyedd a chymdeithasol ar yr un pryd yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, ac mae’r diwydiant pryfed wedi’i nodi fel un a all chwarae rhan bwysig yn hyn o beth. Yn ddiweddar, mae’r ASB wedi lansio ymgynghoriad ar gyfnod pontio deddfwriaethol arfaethedig ar gyfer pryfed bwytadwy ym Mhrydain Fawr. Mae swyddogion polisi yn yr ASB yng Nghymru wedi cyfrannu’n sylweddol at y cynnwys, gan gynnwys ymgysylltu â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol Cymru a gweithredwr busnes bwyd pryfed yn Sir Benfro trwy gydol y cam datblygu polisi.

  • Samplu – Ers mis Medi 2021, rydym wedi arwain ar ddatblygu a gweinyddu rhaglen samplu gydgysylltiedig. Mae hyn wedi cynnwys samplu gwyliadwriaeth a gynhaliwyd gan ddau Labordy Swyddogol Dadansoddwr Cyhoeddus a benodwyd gan awdurdodau lleol Cymru. Roedd hyn yn cynnwys 180 o samplau dros 4 maes samplu. Roedd y rhaglen samplu ehangach a ariannwyd gan yr ASB yng Nghymru yn cynnwys samplu wedi’i dargedu gan fwy na hanner awdurdodau lleol Cymru, gan gynnwys gweithgarwch samplu rhanbarthol cydgysylltiedig.

Ein cyfraniad at flaenoriaethau heb eu cynllunio
  • Ymateb i broblemau yn y cyflenwad o olew blodau’r haul – Roedd yr ASB yng Nghymru yn ymwneud â phob elfen o ymateb yr ASB i’r amhariad ar y gadwyn gyflenwi yn sgil y gwrthdaro yn Wcráin, gan sicrhau bod buddiannau Cymru yn cael eu cynrychioli yn ogystal â chyfrannu arbenigedd polisi a’r ymateb i ddigwyddiadau. Cafodd ei rheoli fel digwyddiad ar y cyd rhwng yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban dan arweiniad yr ASB, gan weithio’n agos hefyd ag adrannau ar draws y llywodraeth er mwyn parchu'r gwahanol gyfrifoldebau polisi o ran labelu bwyd, cyfansoddiad a maeth. Arweiniodd yr ASB yng Nghymru ar y ffrwd waith labelu, yn benodol ar ddrafftio canllawiau i’r diwydiant ar labelu olewau mewn cyfrannau amrywiol er mwyn helpu’r diwydiant i ddychwelyd i sefyllfa o gydymffurfiaeth unwaith eto. 

4.    Rhagolwg yr ASB yng Nghymru: blaenoriaethau sydd ar y gorwel   

4.1    Yn y 12 mis ers sefydlu ein pedair blaenoriaeth ar gyfer 2021/22 gyda’r Bwrdd, mae ein ffocws wedi esblygu. Fel y cyfryw, yn ystod y 12 mis nesaf, bydd ein blaenoriaethau yn adeiladu ar y rhai a nodwyd ar gyfer 2021/22, gan fod llawer o’r heriau hynny yn rhai tymor hwy. Mae gweithgarwch yn sgil ymadawiad y DU â’r UE yn parhau i fod yn flaenoriaeth wrth i’r DU negodi ei sefyllfa gyda’r UE a gweddill y byd, ac wrth i’r gwaith o adfer y rheolaethau bwyd a bwyd anifeiliaid barhau, er bod ffocws yn symud yn gynyddol i gynllunio ar gyfer cynnal rheolaethau ar ôl pandemig (fel Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnesau a’r adolygiad o’r model cyflenwi hylendid bwyd). 

4.2    Mae cydweithredu ag awdurdodau lleol yn parhau i fod yn un o gonglfeini ein dull gweithredu ac rydym yn defnyddio grwpiau sefydledig yng Nghymru i wneud hyn, yn ogystal â sicrhau cynrychiolaeth ar weithgorau tair gwlad yr ASB/awdurdodau lleol wrth i’n rhaglenni ddatblygu.

4.3    Er y bu oedi yn y broses, mae Gweinidogion Cymru yn dal yn bwriadu adolygu gweithrediad yr ASB yng Nghymru ac rydym yn dal yn barod i gefnogi hyn. Mae ein hymagwedd yn canolbwyntio ar gynnig y cyngor annibynnol a chadarn gorau posib i Weinidogion Cymru, yn ogystal â chwilio am ffyrdd o wella perthnasoedd gwaith a sicrhau’r gwerth gorau am arian yn ein gweithrediadau, ac rydym yn croesawu’r cyfle y mae’r adolygiad yn ei gyflwyno. 

Blaenoriaeth 1: Adfer cynnal rheolaethau bwyd a thu hwnt
  • Mae’r rhaglenni gwaith a fydd yn llywio unrhyw newidiadau i’r modelau cyflenwi bwyd yn rhan o’r Rhaglen Sicrhau Cydymffurfiaeth Busnes a’r Rhaglen Trawsnewid Gweithredol ac mae’r rhain yn cynnwys y Modelau Cyflenwi Hylendid Bwyd a Safonau Bwyd. Byddwn yn parhau i weithio gyda chydweithwyr ar draws yr ASB i sicrhau bod y gwaith o reoleiddio awdurdodau lleol wedi’i dargedu'n well ac mewn ffordd fwy cymesur mewn perthynas â risg busnesau bwyd, trwy adolygu’r modelau cyflawni hylendid bwyd a safonau bwyd. Bwriad hyn yw rhoi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol, gan ei gwneud yn bosib i adnoddau gael eu targedu at fwy o sefydliadau risg uchel a sefydliadau nad ydynt yn cydymffurfio, a hynny er mwyn ychwanegu gwerth ac ysgogi gwelliannau parhaus mewn cydymffurfiaeth busnesau. 

    Mae cynllun adfer yr ASB ar waith tan 2023/24 a hyd nes y bydd yr adolygiad o’r modelau cyflawni presennol wedi’i gwblhau. Erbyn hyn, dylai rheolaethau swyddogol ar fwyd gael eu cynnal ym mhob sefydliad risg uchel yn unol â Chod Ymarfer Cyfraith Bwyd (Cymru). Byddwn yn parhau i fonitro, darparu canllawiau a, lle bo’n briodol, cefnogi awdurdodau lleol i adfer rheolaethau swyddogol ar fwyd yn llawn. 

Blaenoriaeth 2: Cyflawni ein swyddogaethau newydd
  • Cynhyrchion rheoleiddiedig: cymeradwyo – Cam nesaf y gwaith hwn yw ymwreiddio’r broses newydd a sicrhau bod ystyriaethau penodol i Gymru yn cael eu hystyried wrth i geisiadau gael eu prosesu trwy broses cymeradwyo cynhyrchion rheoleiddiedig yr ASB. Bydd ein hymdrechion hefyd yn canolbwyntio ar sicrhau bod gan Weinidogion Cymru yr wybodaeth briodol sydd ei hangen arnynt i wneud penderfyniadau ar awdurdodiadau i Gymru. 

  •  

    Offeryn Statudol Cywiro – Mae’r ASB yng Nghymru yn gweithio gyda chydweithwyr yn yr ASB a Safonau Bwyd yr Alban i ddatblygu deddfwriaeth i gywiro diffygion yn neddfwriaeth yr UE a ddargedwir a deddfwriaeth ddomestig ar hylendid a diogelwch bwyd a bwyd anifeiliaid. Mae hon yn ddeddfwriaeth na fyddai fel arall yn gweithredu’n briodol bellach gan fod y DU wedi ymadael â’r UE. 

  •  

    Fframweithiau Cyffredin y DU – Byddwn yn chwarae ein rhan i sicrhau bod yr ASB yn parhau i gadw at yr egwyddorion a’r ymrwymiadau a geir yn fframweithiau cyffredin y DU wrth ddatblygu ei pholisïau. Mae enghreifftiau’n cynnwys y Rheoliadau Bara a Blawd diweddar ac ystyriaeth ar y cyd o nifer o geisiadau cynhyrchion bwyd a bwyd anifeiliaid rheoleiddiedig. 

  •  

    Fframwaith Rheoleiddio Bridio Manwl – Mae gan yr ASB yng Nghymru rôl i roi cyngor polisi i Weinidogion Cymru ar fridio manwl. Rydym hefyd yn cyfrannu at ddatblygiad yr ASB o’r fframwaith rheoleiddio newydd ar gyfer cynhyrchion wedi’u bridio’n fanwl o dan y fframwaith Diogelwch a Hylendid Bwyd a Bwyd Anifeiliaid. 

  •  

    Ymchwil defnyddwyr ar fridio manwl – Rydym yn ymwneud â chynnal ymchwil defnyddwyr manwl yng Nghymru fel rhan o ymchwil defnyddwyr ledled y DU i ddeall yn well canfyddiadau defnyddwyr o fwyd a bwyd anifeiliaid Organebau Bridio Manwl (PBOs). Bydd ymchwil defnyddwyr yn cael ei gynnal mewn dau gam, gyda’r cyntaf yn canolbwyntio ar gasglu data meintiol trwy arolwg defnyddwyr, gan adeiladu ar ymchwil flaenorol a gynhaliwyd yn 2021. Bydd ail gam yn cynnwys gwaith ansoddol ailadroddol. Mae cam cyntaf yr ymchwil yng Nghymru yn cwmpasu dros 1000 o ddefnyddwyr, ar draws trawstoriad eang a chynrychioliadol o’r gymdeithas, fel y gellir deall barn defnyddwyr Cymru yn fanylach. Rydym hefyd yn cyfrannu at y ffrwd waith ar wybodaeth defnyddwyr a fydd yn cael ei llywio gan ein hymchwil.

Gweithio gyda Llywodraeth Cymru 
  • Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol – Yn gyson â’n ffordd sefydledig o weithio yn unol ag egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ac yn unol â gweledigaeth strategol yr ASB, sef  Mae Bwyd yn Iachach ac yn Fwy Cynaliadwy, byddwn yn teilwra ein cyngor ac yn rhoi cymorth i Lywodraeth Cymru gyfrannu at flaenoriaethau cysylltiedig yn eu rhaglen lywodraethu.  

  •  

    Adolygiad Llywodraeth Cymru o’r ASB yng Nghymru – Rydym yn croesawu’r adolygiad ac yn edrych ymlaen at y cyfle i ddarparu gwybodaeth am ein gweithrediad, a dangos y gwerth a ddarparwn.

Ymgysylltu 
  • Aelodau’r Senedd – Gan adeiladu ar ddigwyddiad llwyddiannus yn y Senedd eleni, byddwn yn cynnal cyfleoedd ymgysylltu blynyddol ag Aelodau Seneddol er mwyn datblygu perthnasoedd, ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r ASB yng Nghymru ymhellach. Byddwn yn sicrhau bod yr ymgysylltu hwn yn rhan annatod o’r strategaeth gyfathrebu tair gwlad sy’n cael ei datblygu a bod Aelodau’r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddatblygiadau sylweddol yr ASB yn y cyfamser trwy gyfathrebu rheolaidd i feithrin ymwybyddiaeth a phresenoldeb.

  •  

    Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) – Byddwn yn parhau i gynyddu gwerth a mewnbwn y pwyllgor hwn i faterion allweddol yr ASB, a byddwn hefyd yn ceisio defnyddio rhwydweithiau perthnasol yr aelodau i gynyddu ein hymgysylltiad â rhanddeiliaid. Mae hyn yn cynnwys y byd academaidd, fel y gwnaethom gyda’r ffocws thematig diweddar ar fridio manwl a chynnwys Dr Huw Jones o Brifysgol Aberystwyth, a gwaith ac ymchwil a wneir yng Nghymru ar hyn o bryd ar y mater hwn. 

  • Sioe Amaethyddol Frenhinol Cymru a’r Eisteddfod Genedlaethol – Yn dilyn ein presenoldeb yn y digwyddiadau hyn eleni, byddwn yn cynnal gwerthusiad trylwyr o’r gwaith ymgysylltu a fydd yn llywio ein cynlluniau ar gyfer 2023, lle byddwn yn parhau i fireinio ein cynnwys a’n presenoldeb.

  •  

    Mapio rhanddeiliaid – Yn dilyn digwyddiadau ymgysylltu llwyddiannus dros yr ychydig fisoedd diwethaf, byddwn yn dysgu o’r rhain ac yn cynnal ymarfer mapio i nodi rhanddeiliaid allweddol a sicrhau bod ein cyfathrebiadau’n cael eu targedu’n briodol. Bydd hyn yn cynnwys rhanddeiliaid o Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, y byd academaidd a’r diwydiant, a bydd yn rhan o strategaeth gyfathrebu’r tair gwlad.

  •  

    Cynllunio gwaith ymgysylltu – Fel rhan o’n cynllun ymgysylltu â rhanddeiliaid ehangach, byddwn yn parhau i feithrin perthnasoedd ac ymgysylltu â’r byd academaidd yng Nghymru, trwy raglenni a llwybrau fel PATH-SAFE, SSAFW ac WFAC.

5.    Casgliadau

5.1    Mae’r papur hwn yn rhoi trosolwg o’r gwaith rydym wedi’i wneud ar flaenoriaethau’r ASB yng Nghymru y gwnaeth y Bwrdd sylwadau arno ym mis Medi 2021. Mae hefyd yn dangos rhai o’r ystod eang o’n cyflawniadau o dan amgylchiadau heriol weithiau, a beth yw’r blaenoriaethau yn y dyfodol. 

5.2    Mae’r ASB yng Nghymru wedi bod yn gweithredu mewn tirwedd newydd ac wedi ymateb i bob her. Rydym wedi nodi yn yr adroddiad hwn rai o’r camau sylweddol yr ydym wedi’u cymryd i sicrhau y gall defnyddwyr fod yn hyderus bod bwyd yn cyd-fynd â’r hyn sydd ar y label.  

5.3    Mae rhywfaint o’r gwaith hwn wedi’i gyflawni ar y cyd ar draws y llywodraeth a chyda phartneriaid cyflawni eraill, a byddwn yn ceisio adeiladu ar y perthnasoedd hyn i gyflawni blaenoriaethau a chyfeiriad strategol yr ASB fel y nodir yn Strategaeth newydd yr ASB.

5.4    Rydym wedi cyflawni llawer dros y blynyddoedd diwethaf ac mae’r blaenoriaethau ar gyfer y 12 mis nesaf yn brawf o’n natur huchelgeisiol barhaus. 

​​​​​