Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Gwastraff bwyd ac olew coginio

Rheolau ar wastraff bwyd, bwyd dros ben ac olew coginio gwastraff o gyfleusterau arlwyo.

Taflu bwyd

Rhaid i chi gael gwared ar wastraff bwyd a sbwriel arall o ystafelloedd lle mae bwyd yn bresennol mor gyflym â phosibl, er mwyn gwneud yn siŵr nad ydyn nhw'n cronni.

Rhaid rhoi gwastraff bwyd a sbwriel arall mewn cynwysyddion y gellir eu selio. Gallwch chi ddefnyddio mathau eraill o gynwysyddion neu systemau i daflu eich gwastraff bwyd os yw'ch awdurdod lleol yn fodlon â hynny. 

Rhaid i'r cynwysyddion hyn fod:

  • yn gadarn ac yn gryf 
  • mewn cyflwr da
  • yn hawdd i'w glanhau a'u diheintio

Ni ddylai'r gwastraff fod yn ffynhonnell halogi uniongyrchol neu anuniongyrchol. Mae hyn yn cynnwys cyffwrdd arwynebau y mae bwyd yn cael ei baratoi arnynt neu ddenu plâu.

Sut mae sbwriel yn cael ei storio

Rhaid bod gennych chi gyfleusterau digonol ar gyfer storio a chael gwared ar wastraff bwyd a sbwriel arall. Rhaid dylunio a rheoli storfeydd gwastraff mewn ffordd sy'n golygu bod modd eu cadw'n lân ac yn rhydd o blâu.

Rhaid i chi gael gwared ar yr holl wastraff mewn modd hylan ac amgylcheddol gyfeillgar, yn unol â deddfwriaeth. Gallwch chi gysylltu â'ch awdurdod lleol i gael rhagor o wybodaeth am y gwahanol ffyrdd y mae angen ymdrin â bwydydd penodol. 

Bwyd dros ben 

Yn hytrach na thaflu bwyd dros ben fel gwastraff bwyd, fe allwch chi ei gadw a'i ailddefnyddio os ydych chi'n gwneud hyn yn ddiogel ac yn gywir. 

Ewch ati i oeri unrhyw fwyd sydd dros ben ar dymheredd ystafell, yna'u gorchuddio a sicrhau eu bod yn mynd yn yr oergell neu'r rhewgell o fewn awr neu ddwy.

Os oes gennych chi symiau mawr o un math penodol o fwyd, bydd ei rannu'n ddognau llai yn helpu i'w oeri'n gyflym. Mae hefyd yn golygu y gallwch chi rewi a dadmer dim ond yr hyn sydd ei angen arnoch chi ar gyfer prydau yn y dyfodol.

Dylech chi fwyta neu rewi bwyd dros ben o fewn deuddydd – ac un diwrnod ar gyfer prydau reis.

Cymerwch gip ar wefan Hoffi Bwyd, Casau Gwastraff i gael rhagor o wybodaeth am rewi bwyd dros ben.

Mae gennym ni wybodaeth fwy penodol am gig sydd dros ben ar ein tudalen am baratoi bwyd Nadolig 

Olew coginio gwastraff o sefydliadau arlwyo

Os ydych chi'n cynhyrchu olew coginio gwastraff fel rhan o'ch busnes arlwyo, yna mae'n rhaid i chi sicrhau ei fod yn cael ei storio'n iawn. Ni chaniateir i unrhyw olew ollwng ac mae'n rhaid i gasglwr awdurdodedig ei gasglu. 

Byddant yn mynd â'ch gwastraff i safle awdurdodedig i'w adfer neu gael gwared arno.

Ni ddylid tywallt olew coginio gwastraff i lawr draeniau neu garthffosydd gan fod hyn yn achosi:

  • i bethau flocio
  • arogl drwg
  • problemau gyda phlâu
  • llygru dyfrffosydd (watercourses) sy'n arwain at broblemau i fywyd gwyllt

Os caiff olew coginio gwastraff ei dywallt i lawr draeniau neu garthffosydd, gall arwain at erlyniad posibl. 

Ni ellir taflu olew coginio â gweddill y gwastraff arlwyo neu'r gwastraff cegin. Mae hyn oherwydd y gall achosi gollyngiadau sy'n arwain at:

  • arogl drwg
  • problemau llygredd 
  • contractwyr gwastraff yn gwrthod mynd â'r gwastraff

Ni ellir mynd ag olew coginio gwastraff i ganolfannau ailgylchu i'w rhoi mewn banciau olew injan.

Mae'r canolfannau hyn hefyd yn cael eu galw'n safleoedd Cyfleusterau Dinesig. Nid ydynt ar gyfer gwastraff masnachol. Bydd rhoi olew coginio i mewn i fanc olew yn golygu bod holl gynnwys y sgipiau'n anaddas i'w ailgylchu.

Gwastraff bwyd anifeiliaid

Mae unrhyw un sy'n defnyddio olew coginio gwastraff o sefydliadau arlwyo yn cyflawni trosedd os caiff ei ddefnyddio fel:

  • bwyd anifeiliaid
  • cynhwysyn mewn bwyd anifeiliaid 
  • rhan o weithrediadau bwyd anifeiliaid

Mae hyn er mwyn diogelu iechyd anifeiliaid a'r gadwyn fwyd ddilynol o dan reoliadau sgil-gynhyrchion anifeiliaid (gorfodi). Mae gan Gymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon eu gofynion penodol eu hunain.