Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Arolygiadau diogelwch bwyd a chamau gorfodi

Sut i baratoi eich busnes ar gyfer arolygiadau diogelwch bwyd ac i osgoi camau gorfodi

Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am orfodi cyfreithiau hylendid bwyd a gallant arolygu eich busnes ar unrhyw adeg yn ystod y broses o gynhyrchu bwyd a'i ddosbarthu. 

Arolygiadau

Bydd swyddogion awdurdodedig o'ch cyngor lleol yn ymweld â'ch safle i wirio a yw'ch busnes yn cydymffurfio â chyfraith bwyd ac yn cynhyrchu bwyd sy'n ddiogel i'w fwyta. I wneud hyn, byddant yn edrych ar:

  • eich eiddo
  • sut rydych chi'n gweithio
  • eich system rheoli diogelwch bwyd 
  • y math o fwyd rydych chi’n ei wneud a'i baratoi

Gall swyddogion awdurdodedig ymweld â'ch safle am sawl rheswm, gan gynnwys:

  • arolygiadau hylendid bwyd a safonau bwyd
  • samplu
  • trin cwynion
  • ymweliadau cynghori

Mae ganddynt yr hawl i arolygu eich safle ar unrhyw adeg resymol. Fel arfer, bydd swyddogion awdurdodedig yn cyrraedd heb apwyntiad.

Bydd pa mor aml y caiff eich busnes ei arolygu'n rheolaidd yn dibynnu ar y math o fusnes ydyw a'i gofnod blaenorol. Efallai y bydd rhai safleoedd yn cael eu harolygu bob chwe mis o leiaf, a bydd eraill yn cael eu harolygu'n llawer llai aml. Bydd swyddogion awdurdodedig yn cynnig cymorth a chyngor ar ddiogelwch bwyd. Gallant gymryd camau gweithredu os ydynt o'r farn nad yw'ch safonau hylendid bwyd yn ddigon da. Mewn achosion difrifol, gallai camau gweithredu gynnwys cau'r safle neu eich erlyn. 

Camau gorfodi

Gall swyddogion awdurdodedig gymryd camau gorfodi i ddiogelu'r cyhoedd. Gall hyn gynnwys:

  • atafaelu bwydydd y maent yn amau eu bod yn anaddas i'w bwyta gan bobl
  • ysgrifennu llythyr atoch yn dilyn arolygiad neu’n amlinellu problemau â chydymffurfiaeth a gofyn i chi eu cywiro 
  • cyflwyno hysbysiad cyfreithiol ffurfiol sy'n nodi rhai pethau y mae'n rhaid i chi eu gwneud, neu'n eich gwahardd rhag defnyddio rhai prosesau, safleoedd neu offer
  • argymell erlyn mewn achosion difrifol

Bydd swyddogion awdurdodedig yn rhoi digon o amser i chi wneud newidiadau oni bai fod risg uniongyrchol i iechyd y cyhoedd. 

Sut y gallwch chi apelio

Gallwch chi apelio yn erbyn penderfyniad a wnaed gan awdurdod lleol os nad ydych chi'n cytuno â'r camau gweithredu y mae'r swyddog awdurdodedig wedi'u cymryd. 

Cofiwch: Pan fyddwch chi'n dechrau busnes bwyd newydd neu'n cymryd yr awenau mewn busnes sy'n bodoli eisoes, mae'n rhaid i chi gofrestru gyda'ch awdurdod lleol