Atchwanegiadau bwyd
Beth yw atchwanegiadau bwyd a beth sydd angen i chi ei wneud fel busnes i’w gwerthu.
Beth yw atchwanegiad bwyd?
Diffinnir atchwanegiad bwyd fel ‘unrhyw fwyd sydd â’r pwrpas o ategu’r deiet arferol ac sy’n ffynhonnell grynodedig o fitamin, mwyn neu sylwedd arall sydd ag effaith maethol neu ffisiolegol, ar ei ben ei hun neu ar y cyd ac sy’n cael ei werthu ar ffurf dos’.
Gallai ystod eang o faethynnau a chynhwysion eraill fod yn bresennol mewn atchwanegiadau bwyd. Gall y rhain gynnwys:
- fitaminau
- mwynau
- asidau amino
- asidau brasterog hanfodol
- ffeibr
- planhigion a rhin (‘extracts’) perlysieuol amrywiol
Bwriad atchwanegiadau bwyd yw ychwanegu at ddeiet normal. Nid ydynt yn gynhyrchion meddyginiaethol ac o’r herwydd ni allant gyflawni gweithred ffarmacolegol, imiwnolegol na metabolig. Felly, ni fwriedir iddynt gael eu defnyddio i drin nac i atal clefydau mewn pobl nac i addasu swyddogaethau ffisiolegol.
Yn y Deyrnas Unedig (DU), mae’n ofynnol i atchwanegiadau bwyd gael eu rheoleiddio fel bwyd ac maent yn ddarostyngedig i ddarpariaethau cyfraith bwyd cyffredinol. Yng Ngogledd Iwerddon, mae cyfraith bwyd sy’n ymwneud ag atchwanegiadau bwyd wedi’i chwmpasu gan y Fframwaith Windsor.
Cofrestru
I werthu atchwanegiadau bwyd, mae’n rhaid i chi gofrestru fel Gweithredwr Busnes Bwyd gyda’ch awdurdod lleol. Ewch i’n tudalen we ‘Sefydlu safle eich busnes bwyd’ am fwy o wybodaeth am gychwyn fel gweithredwr busnes bwyd.
Gwerthu eich cynhyrchion
Eich cyfrifoldeb chi yw sicrhau bod yr atchwanegiadau bwyd rydych chi’n eu gwerthu yn ddiogel i’w bwyta. Mae rhai pethau penodol y dylech chi eu gwneud i sicrhau eu bod yn ddiogel.
Defnyddio cyflenwr sydd ag enw da
Dylai eich cyflenwr fod wedi cofrestru fel busnes gyda’u hawdurdod lleol a darparu anfonebau a derbynebau llawn.
Peidiwch â phrynu atchwanegiadau dros y we oni bai eich bod chi’n hyderus bod y cyflenwr yn un sydd ag enw da.
Byddwch yn wyliadwrus o gynhyrchion ffug, yn enwedig os ydych chi’n prynu cynhyrchion dros y we a phan fydd pris y cynnyrch yn rhatach na chyflenwyr eraill.
Cadw cofnodion
Cofiwch gadw cofnodion fel y gallwch chi nodi’r busnes y gwnaethoch chi brynu’r atchwanegiadau bwyd oddi wrtho ac i bwy y gwnaethoch chi eu gwerthu. Rhaid i chi hefyd gadw dogfennau fel anfonebau a nodiadau cyflenwi a dangos y dogfennau hyn os bydd awdurdodau gorfodi’n gofyn amdanynt.
Labelu
Gwnewch yn siŵr bod yr atchwanegiadau bwyd rydych chi’n eu gwerthu wedi’u labelu’n gywir. Os nad ydyn nhw, peidiwch â’u derbyn a chysylltwch â’ch cyflenwr i drefnu eu dychwelyd.
Sut y dylid labelu atchwanegiadau bwyd?
Rhaid i unrhyw atchwanegiad bwyd sy’n cael ei roi ar y farchnad ym Mhrydain Fawr gydymffurfio â’r gofynion labelu bwyd cyffredinol a nodir yn Rheoliad (UE) Rhif 1169/2011 ar ddarparu gwybodaeth am fwyd i ddefnyddwyr.
Yn ogystal â’r rheoliadau uchod, mae gofynion labelu penodol y mae’n rhaid i atchwanegiadau bwyd gydymffurfio â nhw hefyd a nodir yn Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Lloegr) 2003.
Rhaid i’r cynnyrch fod wedi’i labelu fel ‘atchwanegiad bwyd’ ac nid ‘atchwanegiad deietegol’.
Rhaid i label y cynnyrch gynnwys:
- enw a chyfeiriad y busnes, y gellir eu rhoi naill ai ar label y cynnyrch neu ar ddeunydd pecynnu’r cynnyrch. Rhaid i hyn fod naill ai:
(a) enw’r busnes y mae’r bwyd yn cael ei farchnata ganddo; neu
(b) cyfeiriad y busnes sydd wedi mewnforio’r bwyd
Rhaid i atchwanegiadau bwyd a werthir yng Ngogledd Iwerddon gynnwys cyfeiriad yng Ngogledd Iwerddon neu’r UE ar gyfer y busnes bwyd. Os nad yw’r busnes bwyd yng Ngogledd Iwerddon nac yn yr UE, rhaid iddynt gynnwys cyfeiriad y mewnforiwr, sydd wedi’i leoli yng Ngogledd Iwerddon neu’r UE.
- rhestr o gynhwysion, gan gynnwys alergenau cyffredin y mae’n rhaid eu pwysleisio
- amodau defnyddio, gan gynnwys gwybodaeth am y dos dyddiol a argymhellir a rhybudd i beidio â bwyta mwy na hyn
- cyfarwyddiadau storio gan gynnwys datganiad sy’n nodi y dylid storio’r cynnyrch mewn man nad yw o fewn cyrraedd plant ifanc
- dyddiad ‘defnyddio erbyn’ neu ‘ar ei orau cyn’
- faint o unrhyw fitamin neu fwyn neu sylwedd arall ag effaith faethol neu ffisiolegol sy’n bresennol yn y cynnyrch
- datganiad sy’n nodi na ddylid defnyddio atchwanegiadau bwyd yn lle deiet amrywio
Rhaid i’r wybodaeth hon fod naill ai ar:
- y pecyn
- label sydd ynghlwm wrth y pecyn
- label sy’n amlwg drwy’r pecyn
Mewnforio atchwanegiadau
Os ydych chi’n mewnforio atchwanegiadau i’r DU, rydych chi’n gyfrifol yn gyfreithiol am bob agwedd ar y nwyddau hynny, gan gynnwys cyfansoddiad, diogelwch a labelu’r cynhyrchion.
Gofynion cyfreithiol
Dyma sut y mae’r cyfrifoldeb deddfwriaethol a’r polisi ar gyfer atchwanegiadau bwyd wedi’i rannu ledled y DU:
- Cymru – Llywodraeth Cymru
- Lloegr – yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol
- Yr Alban – Safonau Bwyd yr Alban
- Gogledd Iwerddon – yr Asiantaeth Safonau Bwyd
Gofynion cyfreithiol – Cymru
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Cymru) 2014 a Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) 2003
Gofynion cyfreithiol – Lloegr
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd 2014 a Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Lloegr) 2003
Gofynion cyfreithiol – Gogledd Iwerddon
Rheoliadau Gwybodaeth am Fwyd (Gogledd Iwerddon) 2014 a Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2003
Hanes diwygio
Published: 5 Gorffennaf 2018
Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Awst 2025