Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
page

Canllawiau ar nodau iechyd ac adnabod

Canllawiau ar y nodau iechyd ac adnabod y mae’n rhaid eu rhoi ar gynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid (POAO) fel cig, cynhyrchion wyau, pysgod, caws a llaeth.

Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Gorffennaf 2025
Diweddarwyd ddiwethaf: 30 Gorffennaf 2025

Mae’r canllawiau canlynol ar gyfer awdurdodau gorfodi ac maent yn gymwys i holl fusnesau bwyd y DU sy’n cynhyrchu POAO yn y DU (Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon). Mae’r canllawiau’n amlinellu’r gofynion o ran nodau adnabod a fydd yn caniatáu i POAO a gynhyrchir gan fusnesau yn y DU gael eu rhoi ar farchnadoedd Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, yr UE a thu allan i’r UE.

Beth yw nodau iechyd ac adnabod?

Gosodir nodau iechyd yn uniongyrchol ar garcasau camolion (ungulates) domestig a mamaliaid hela sy’n cael eu ffermio (ac eithrio lagomorffiaid) gan yr Awdurdod Cymwys, a hynny mewn lladd-dai a sefydliadau trin helgig. Yn yr achos hwn, yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yw’r Awdurdod Cymwys, gan fod angen goruchwyliaeth filfeddygol ar y sefydliadau hyn i allu cynnal rheolaethau swyddogol yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Mae’n dangos bod y cynnyrch wedi’i gynhyrchu yn unol â rheoliadau diogelwch bwyd. Mae gan Safonau Bwyd yr Alban (FSS) gyfrifoldeb tebyg yn yr Alban.

Mae busnesau bwyd yn rhoi nodau adnabod ar POAO, sy’n dangos ei fod wedi’i gynhyrchu mewn sefydliad cymeradwy ac yn unol â rheoliadau diogelwch a hylendid bwyd. Rhoddir nodau adnabod fel arfer ar ddeunydd lapio, deunydd pecynnu neu labeli sy’n cynnwys, neu sydd ynghlwm wrth y POAO.

Ymhellach i lawr y dudalen hon gallwch ddod o hyd i’r canlynol:

  • disgrifiad o’r nodau adnabod, gan ddibynnu ar p’un a yw'r busnes bwyd wedi’i leoli yng Ngogledd Iwerddon neu ym Mhrydain Fawr. Mae llywodraeth y DU yn argymell defnyddio’r cod gwlad llawn ‘United Kingdom’ lle mae’n ymarferol gwneud hynny.
  • gwybodaeth sy’n nodi’r gofynion ar gyfer gwahanol farchnadoedd. Mae angen i fusnesau sicrhau eu bod yn defnyddio’r nod adnabod cywir yn dibynnu ar y farchnad darged ar gyfer eu POAO.

Nodau adnabod dilys cyfredol

Nid oes maint lleiaf na mwyaf wedi’i bennu ar gyfer y nod adnabod. Fodd bynnag, rhaid i’r nod hirgrwn fod yn ddarllenadwy ac yn annileadwy, a’r llythrennau’n hawdd eu dehongli.

Ar farchnad Prydain Fawr

Rhaid i’r nod adnabod gynnwys naill ai enw’r wlad yn llawn ‘UNITED KINGDOM’ neu’r talfyriad ‘GB’ neu ‘UK’ ar gyfer POAO a gynhyrchir yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae llywodraeth y DU yn argymell defnyddio’r cod gwlad llawn ‘United Kingdom’ lle mae’n ymarferol gwneud hynny. Dylai busnesau sydd am symud eu POAO y tu allan i farchnad Prydain Fawr hefyd wirio’r gofyniad o ran y nod adnabod ar gyfer eu marchnad darged.

Ar farchnad Gogledd Iwerddon

Rhaid i’r nod adnabod gynnwys naill ai enw’r wlad yn llawn ‘UNITED KINGDOM’ neu’r talfyriad ‘GB’ neu ‘UK’ ar gyfer POAO a gynhyrchir yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Mae llywodraeth y DU yn argymell defnyddio’r cod gwlad llawn ‘United Kingdom’ lle mae’n ymarferol gwneud hynny. Dylai busnesau sydd am symud eu POAO y tu allan i farchnad Prydain Fawr hefyd wirio’r gofyniad o ran y nod adnabod ar gyfer eu marchnad darged.

Symud cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon

Mae nodau adnabod sy’n cydymffurfio â’r gyfraith, a’r marchnadoedd y maen nhw’n berthnasol iddynt, i’w gweld yn y tabl isod.

O 1 Hydref 2023, o dan Fframwaith Windsor, cafodd y Cynllun ar gyfer Symud Cynhyrchion Bwyd-Amaeth Dros Dro i Ogledd Iwerddon (STAMNI) ei ddisodli gan Gynllun Symud Nwyddau Manwerthu Gogledd Iwerddon (NIRMS). Mae’r cynllun newydd yn caniatáu i ystod ehangach o fasnachwyr – fel manwerthwyr, cyfanwerthwyr, arlwywyr, a’r rhai sy’n darparu bwyd i sefydliadau cyhoeddus fel ysgolion ac ysbytai – symud nwyddau bwyd-amaeth wedi’u pecynnu ymlaen llaw sydd ar gyfer defnyddwyr terfynol yng Ngogledd Iwerddon. Mae’r trefniadau’n galluogi llwythi i symud yn seiliedig ar un dystysgrif, heb wiriadau ffisegol arferol. Erbyn hyn, gall llwythi o nwyddau bwyd-amaeth wedi’u pecynnu ymlaen llaw, sy’n symud o Brydain Fawr i Ogledd Iwerddon trwy NIRMS, fodloni safonau Prydain Fawr mewn perthynas ag iechyd cyhoeddus, marchnata (gan gynnwys labelu) a chynhyrchion organig.

Mae canllawiau manylach ar gael ar y tudalennau gwe canlynol:

Defnyddio nodau adnabod ar farchnadoedd Prydain Fawr, Gogledd Iwerddon, yr UE a’r tu allan i’r UE

Nodau adnabod y mae’n rhaid eu defnyddio a’r farchnad gyrchfan

Sylwch, ers 9 Mai 2024, y gall busnesau yng Ngogledd Iwerddon, yn unol â Rheoliad (CE) Rhif 853/2004, hefyd ddefnyddio’r ôl-ddodiad ‘EU’ yn lle ‘EC’. Bydd yr ôl-ddodiad ‘EC’ yn parhau i fod yn ddilys tan 31 Rhagfyr 2028.

Nod adnabod Rhanbarth y DU lle rhoddir y nod  Marchad Prydain Fawr Gogledd Iwerddon Marchnad 27 yr UE Marchad y tu allan i'r UE
Example of UNITED KINGDOM (NORTHERN IRELAND) health and identification mark Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
Identification mark valid on the NI market with United Kingdom and Northern Ireland in full, and EU as a suffix. Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
Enghraifft o farc iechyd ac adnabod 'UK(NI)' Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
ID in use in the NI market Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
Enghraifft o farc adnabod United Kingdom (Gogledd Iwerddon) Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) Ie Ie Ie Ie
ID in use in the NI market Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) Ie Ie Ie Ie
Enghraifft o farc adnabod UK(NI) Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) Ie Ie Ie Ie
ID in use in the NI market Gogledd Iwerddon (cymeradwyaeth y Cyngor Dosbarth) Ie Ie Ie Ie
Enghraifft o farc iechyd ac adnabod 'GB' Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
Enghraifft o farc iechyd ac adnabod 'UNITED KINGDOM' Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Ie Ie Ie
Enghraifft o farc iechyd ac adnabod 'UK' Prydain Fawr (cymeradwyaeth yr ASB) Ie Na Na Ie
Enghraifft o farc adnabod 'GB' Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) Ie Ie Ie Ie
Enghraifft o farc adnabod 'United Kingdom' Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) Ie Na Na Ie
Enghraifft o farc adnabod 'UK' Prydain Fawr (cymeradwyaeth awdurdodau lleol) Ie Na Na Ie