Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Os oes gennych unrhyw bryderon neu wybodaeth yn ymwneud â thwyll neu droseddoldeb mewn cadwyni cyflenwi bwyd, neu os ydych yn dymuno chwythu’r chwiban ynghylch busnes bwyd yr ydych yn gweithio iddo, ffoniwch linell gymorth Trechu Trosedd Bwyd yn Gyfrinachol ar 0207 276 8787 (9am i 4pm, dydd Llun i ddydd Gwener) neu rhowch wybod drwy ein gwasanaeth ar-lein.

Llygryddion organig parhaus

Mae llygryddion organig parhaus yn fath o halogion sy'n gallu mynd i mewn i'r gadwyn fwyd o'r amgylchedd. Dyma amlinellu priodweddau cyffredin llygryddion organig parhaus, eu presenoldeb mewn bwyd a chanllawiau i’r diwydiant.

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Mehefin 2021

Gall llygryddion organig parhaus fod â strwythurau a phriodweddau cemegol amrywiol iawn. Gall rhai llygryddion organig parhaus fod yn gemegion unigol tra bod eraill i’w canfod fel grwpiau o gyfansoddion sy’n perthyn yn agos, y cyfeirir atynt weithiau fel 'elfennau cytras'. 

Mae gan lygryddion organig parhaus sawl elfen yn gyffredin:

  • parhad – mae llygryddion organig parhaus yn sefydlog iawn a gallant aros yn yr amgylchedd am nifer o flynyddoedd - mae hyn yn cynnwys yn yr aer, mewn dŵr, mewn pridd a mewn gwaddod
  • gwenwyndra – ar rai lefelau, gall llygryddion organig parhaus gael effeithiau niweidiol ar organebau, gan gynnwys mamaliaid, pysgod a/neu anifeiliaid di-asgwrn-cefn
  • bio-groniad – mae gan lygryddion organig parhaus y gallu i gronni mewn organebau, gan gynnwys mamaliaid, adar a physgod

Pan fydd digon o dystiolaeth wyddonol ar gael, rhestrir llygryddion organig parhaus yng Nghonfensiwn Stockholm, sef cytundeb rhyngwladol i reoli neu ddileu presenoldeb, cynhyrchiad a defnydd o’r cemegion hyn. Mae’r deuddeg cemegyn cyntaf sydd wedi’u rhestru yn blaladdwyr hŷn, er enghraifft DDT, Dieldrin ac Aldrin, er bod y rhestr hefyd yn cynnwys biffenylau polyclorinedig (PCB) a deuocsinau, sy'n cael eu ffurfio trwy hylosgi ar dymheredd uchel, heb ei reoli.

Mae adolygiadau rheolaidd o gemegion neu grwpiau cemegol eraill i'w rhestru o dan Gonfensiwn Stockholm. Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae sylweddau gwrth-fflam wedi'u bromineiddio (BFR), sylffonad perfluorooctane (PFOS), naphthalenes polyclorinedig (PCN) a pharaffiniaid clorinedig cadwyn fer (SCCP) wedi’u hychwanegu at y rhestr.

Diogelwch bwyd

Oherwydd eu priodweddau, mae llygryddion organig parhaus yn aml i’w canfod mewn bwyd, yn enwedig bwyd sy’n dod o anifeiliaid fel cig neu bysgod. Mae hyn fel arfer ar lefelau di-nod ond mae posibilrwydd y gallant gyrraedd lefelau a allai fod yn niweidiol i ddefnyddwyr, yn enwedig o ganlyniad i ddigwyddiad fel halogi bwyd anifeiliaid. Digwyddodd dau ddigwyddiad costus yn ymwneud â deuocsinau yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf.

Lle mae mwy o debygolrwydd o halogiad, gellir sefydlu terfynau rheoleiddiol. Mae'r terfynau hyn yn seiliedig ar yr hyn a ystyrir yn ystod arferol ar gyfer nwyddau penodol fel pysgod, cig oen, dofednod neu wyau.

Mae dau brif bwrpas i'r terfynau:

  • pan fydd sampl bwyd â chanlyniad prawf sy’n uwch na'r terfyn - hyd yn oed os nad yw'n bryder iechyd - mae hyn yn awgrymu y gallai fod ffynhonnell anghyffredin o halogiad y mae angen ymchwilio iddi
  • pan fydd digwyddiad gyda llawer o fwyd halogedig, mae cael terfynau rheoleiddiol yn ei gwneud hi'n haws i'r awdurdodau gorfodi gael gwared ar y bwyd halogedig o'r farchnad

Mae'n anodd i fusnesau bwyd reoli lefelau llygryddion organig parhaus yn eu cynhyrchion ac fel rheol dim ond trwy amlygiad parhaus dros gyfnod hir y bydd y llygryddion yn achosi effeithiau niweidiol. Ar ran llygryddion organig parhaus, dim ond deuocsinau a PCB sydd â therfynau uchaf. Nodir y rhain yn Rheoliad 1881/2006.

Mae'r terfynau hyn yn cael eu hadolygu pan ddaw unrhyw wybodaeth newydd am ddigwyddiadau a gwenwyndra i law.

Canllawiau i'r diwydiant

Cyhoeddodd Comisiwn Codex Alimentarius ddogfen yn 2006 yn nodi rhai egwyddorion ar gyfer deuocsinau a PCB.

Cod ymarfer ar gyfer atal a lleihau halogiad deuocsin a PCB tebyg i ddeuocsin mewn bwyd a bwyd anifeiliaid

Mae'n bwysig y dylai unrhyw brofion fod yn ddadansoddol gadarn. Dylai busnesau bwyd sy'n profi cynhyrchion ar gyfer deuocsinau a PCB fodloni'r meini prawf dadansoddol a nodir yn Rheoliad 2017/644.