Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio danteithion (confectionery)

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar drwyddedu, labelu, deunydd pecynnu a diogelwch cemegol wrth fewnforio danteithion.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae'n rhaid i gynhyrchion danteithion a gaiff eu mewnforio o du allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE) fodloni'r un safonau hylendid a'r un gweithdrefnau diogelwch â bwyd a gynhyrchir yn Aelod-wladwriaethau'r UE. Mae cynhyrchion o'r fath yn cynnwys:

  • cacennau
  • toesenni (pastries)
  • pasteiod melys
  • siocled

Maent hefyd yn gallu cynnwys rhai cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid, fel:

  • wyau
  • llaeth
  • menyn
  • siwet


Efallai y byddant yn cael eu trin fel cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid wrth eu mewnforio os oes ganddynt lefelau uchel o gynhyrchion llaeth ac nad ydynt wedi'u trin â gwres yn ddigonol, neu os nad ydynt yn sefydlog ar dymheredd ystafell (os mae gofyn eu hoeri).

Cyffeithyddion, lliwiau bwyd, cyflasynnau (flavourings) a melysyddion

Gall danteithion gynnwys cyffeithyddion, lliwiau bwyd, cyflasynnau neu felysyddion. Er ei bod yn bosibl bod yr awdurdod bwyd wedi cymeradwyo'r rhain yn y wlad tarddiad, efallai na fydd rhai ohonynt wedi'u cymeradwyo yn yr UE.

I gael gwybodaeth am gyflasynnau, melysyddion, lliwiau a chyffeithyddion bwyd, cysylltwch â Thîm Ychwanegion Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB). 

Gelatin

Er bod gelatin yn gynnyrch sy'n dod o anifeiliaid, caiff cynhyrchion danteithion sy'n seiliedig ar gelatin eu hystyried gan yr Adran dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) i fod yn eitemau danteithion gorffenedig, ac felly nid ydynt wedi'u cynnwys o fewn rheoliadau cynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid.

Labelu

Gellir dod o hyd i wybodaeth am labelu bwyd drwy GOV.UK

I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

Cynhyrchion organig

Os ydych chi'n mewnforio cynhyrchion organig (cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu, cynhyrchion amaethyddol wedi'u prosesu i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid, deunydd ysgogi llystyfiant a hadau i'w tyfu o du allan i'r UE, cysylltwch â'r Tîm Mewnforion Organig trwy wefan DEFRA.

Mae DEFRA yn darparu gwybodaeth am reoliadau a safonau organig (gan gynnwys labelu) ar eu gwefan.

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir i becynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth gyson a chynhwysfawr yr UE, sydd wedi'i gweithredu'n llawn yn y DU. Mae'r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwyd.

I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a ddaw i Gysylltiad â Bwyd drwy e-bost. 

Hylendid Bwyd

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau cyffredinol am hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd drwy e-bost.

Melysion gyda theganau

Mae rhai danteithion yn cynnwys teganau. Mae'r rhaid i'r holl deganau a werthir yn y DU gydymffurfio â Rheoliadau (Diogelwch) Teganau 1995 sy'n gweithredu Cyfarwyddeb Ewropeaidd ar ddiogelwch teganau.

I gael rhagor o wybodaeth am y rheoliadau hyn, darllenwch y ddeddfwriaeth ar-lein.

Halogion


Mae nodyn cyfarwyddyd ar Halogion yn Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Cymru) 2013, sy'n darparu ar gyfer deddfu a gorfodi Rheoliadau'r Comisiwn sy'n gosod terfynau rheoleiddiol ar gyfer halogion mewn bwyd (nitrad, mycotocsinau, metelau, deuocsinau 3-MCPD a hydrocarbonau aromatig polcyclic) ar gael ar-lein.

Cyfyngiadau mewnforio

Mae yna rai cyfyngiadau/gofynion mewnforio eraill a all fod yn berthnasol wrth fewnforio danteithion, ac mae angen i fewnforwyr fod yn ymwybodol ohonynt.

Cynhyrchion "risg uwch"

Dim ond drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol sydd wedi’u cymeradwyo fel pwyntiau mynediad dynodedig y gellir mewnforio rhai bwydydd a bwydydd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid a gaiff eu hystyried i beri "risg uwch". Bydd y rhain yn destun rheolaethau. Mae cynnyrch "risg uwch" yn gynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid y mae’n hysbys ei fod yn peryglu iechyd y cyhoedd, neu fod hynny’n dod i’r amlwg.

Siocledi

Er y gall siocledi gynnwys llaeth, hufen neu fenyn yn y cynhwysion, nid ydynt fel arfer yn cael eu hystyried gan DEFRA i fod yn gynhyrchion sy'n deillio o anifeiliaid. Felly mae eu mewnforio yn dod o dan Reoliadau Rheolaethau Swyddogol ar Fwyd Anifeiliaid a Bwyd (Cymru) 2009 (fel y'u diwygiwyd).

Fodd bynnag, os yw'r siocledi'n cynnwys hufen ffres, cânt eu hystyried i fod yn gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid. Mae mewnforio cynhyrchion o'r fath yn cael ei reoleiddio gan Reoliadau'r Fasnach mewn Anifeiliaid a Chynhyrchion Perthynol (Cymru) 2011, a rheoliadau tebyg yn yr Alban, Lloegr a Gogledd Iwerddon.

Dim ond drwy Arolygfeydd Ffin cymeradwy y gall y mewnforion hyn ddod i mewn i'r  DU/UE, lle byddant yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn cydymffurfio â'r amodau anifeiliaid ac iechyd y cyhoedd perthnasol.

I gael rhagor o wybodaeth am fewnforio cynhyrchion siocled, cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) trwy eu gwefan. Mae APHA yn Asiantaeth Weithredol ar ran DEFRA.

Melysion sy'n cynnwys llaeth

Mae melysion sy'n cynnwys lefelau uchel o gynhyrchion llaeth hefyd yn cael eu hystyried i fod yn gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid wrth eu mewnforio. Mae hyn yn golygu y bydd angen i bob swp (batch) rydych chi'n ei fewnforio:

  • gynnwys tystysgrif filfeddygol a/neu iechyd y cyhoedd
  • ddod o safleoedd cymeradwy yn yr Undeb Ewropeaidd (UE)
  • ddod i'r UE trwy Arolygfa Ffin, lle mae'n rhaid cynnal gwiriadau milfeddygol
  • dylai'r Arolygfa Ffin gael gwybod amdano ymlaen llaw drwy Ddogfen Milfeddygol Mynediad Gyffredin
  • ddod o wlad a awdurdodwyd gan yr UE i allforio'r math hwn o gynnyrch i'r UE

Mae enghreifftiau o felysion Indiaidd y gellir eu hystyried i fod yn gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid yn cynnwys:

  • gulab jamun
  • halwah neu halva
  • ras malai
  • ras gullah
  • ladoos
  • burfi
  • chum-chum

Bydd rheolau am gynhyrchion yn dibynnu ar ba ganran o'r cynnyrch sy'n llaeth.

I gael rhagor o wybodaeth am fewnforio melysion llaeth, cysylltwch â'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) trwy eu gwefan. 

Melysion jeli cwpanau bach

Mae cyfyngiadau ar fewnforio melysion jeli cwpanau bach yn ogystal â melysion jeli eraill sy'n cynnwys cynnyrch o'r enw Konjac, oherwydd y gallant achosi perygl o dagu.


Mae'r cyfyngiadau hyn wedi'u hymestyn i gynnwys jeli cwpanau bach sy'n cynnwys yr ychwanegion hyn:

  • E400 alginic acid
  • E401 sodium alginate
  • E402 potassium alginate
  • E403 ammonium alginate
  • E404 calcium alginate
  • E406 agar
  • E407 carageenan
  • E407a processed euchema seaweed
  • E410 locust bean gum
  • E412 guar gum
  • E413 tragacanth
  • E414 acacia gum
  • E415 xanthan gum E417 tara gum
  • E418 gellan gum and/or E 440 pectins

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am felysion jeli ar-lein yn Nodyn 4 o Atodiad 1 i Gyfarwyddeb Rhif 95/2/EC.

I gael rhagor o wybodaeth am y gwaharddiad ar fewnforio melysion jeli, cysylltwch â'ch Swyddfa Safonau Masnach leol.

Lliwiau Southampton

Mae'r ASB wedi gofyn i ddiwydiant bwyd y DU dynnu'r lliwiau hyn yn ôl yn wirfoddol:

  • Sunset yellow (E110)
  • Quinoline yellow (E104)
  • Carmoisine (E122)
  • Allura red (E129)
  • Tartrazine (E102)
  • Ponceau 4R (E124)

Os yw cynnyrch wedi'i labelu ac yn cynnwys un neu ragor o'r chwe lliw penodedig, bydd angen rhybudd ar y label fel sy'n ofynnol gan Erthygl 24 ac Atodiad V o Reoliad Rhif 1333/2008 i nodi y gall y lliwiau gael effaith andwyol ar weithgarwch a sylw plant.

Cynhwysion na chaniateir, bwydydd newydd a chynhwysion meddyginiaethol

Mae llawer o ddanteithion o wledydd nad ydynt yn rhan o'r UE yn cynnwys cynhwysion na chaniateir yn yr UE. Mae cynhwysion eraill sydd efallai yn newydd i'r UE, ac mae'n bosibl y cânt eu hystyried i fod yn 'fwydydd newydd'. Mae 'bwyd newydd' yn fwyd nad oes ganddo hanes sylweddol o ddefnydd yn yr UE cyn Mai 1997. Mae'r bwydydd hyn yn ddarostyngedig i delerau ac amodau Rheoliad Rhif 258/97 ar Fwydydd Newydd.

Mae'n bosibl bod mathau eraill o ddanteithion sy'n cael eu marchnata fel cynhyrchion hybu egni neu gymorth i roi'r gorau i ysmygu, fel gwm nicotin, yn cael eu hystyried i fod yn gynhyrchion meddyginiaethol yn hytrach nag eitemau bwyd. Mae'r cyfrifoldeb ar y mewnforiwr i sicrhau bod yr holl gynhwysion yn eu cynhyrchion yn dderbyniol o dan gyfraith bwyd y DU.

I wirio bod gan yr holl gynhwysion yn eich melysion hanes sylweddol o ddefnydd yn yr UE, ac nad oes angen caniatâd arnoch o dan y ddeddfwriaeth Bwydydd Newydd, cysylltwch â'r Is-adran Bwydydd Newydd drwy e-bost.
 

Gall y defnydd o rai cynhwysion olygu bod cynnyrch yn cael ei ddosbarthu fel cynnyrch meddyginiaethol. Os cyflwynir y cynnyrch fel rhywbeth sydd â'r gallu i drin neu atal clefyd mewn pobl, neu os yw'n cynnwys sylwedd neu gyfuniad o sylweddau y gellir eu defnyddio neu eu rhoi i bobl naill ai gyda'r nod o adfer, cywiro neu addasu nodweddion ffisiolegol trwy weithredu'n fferyllol, yn imiwnolegol neu'n fetabolig, dylid cysylltu â'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) trwy eu gwefan.

Cynhyrchion o Tsieina sy'n cynnwys llaeth ac sydd wedi'u halogi â melamin

Gall danteithion o Tsieina i'w bwyta gan bobl, fel siocled sy'n cynnwys llaeth, fod yn destun gwiriadau dogfennau a hunaniaeth, gan gynnwys dadansoddiadau labordy, wrth gyrraedd y DU. Mae'n rhaid i weithredwyr busnesau bwyd roi rhybudd ymlaen llaw i'r porthladd mynediad cyn i'r cynhyrchion gyrraedd, a bydd yn atebol am yr holl gostau sy'n codi o ganlyniad i reolaethau swyddogol.

*Mae hyn yn cynnwys cynhyrchion o Hong Kong a Taiwan sydd naill ai'n mynd i Tsieina, neu sy'n wreiddiol o Tsieina. Ni effeithir ar gynhyrchion a fewnforir yn uniongyrchol o Hong Kong neu Taiwan.

 

Tîm Bwydydd Newydd

novelfoods@food.gov.uk.