Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mewnforio olewau coginio

Penodol i Gymru a Lloegr

Canllawiau ar drwyddedu, labelu, pecynnu a diogelwch cemegol wrth fewnforio olewau coginio.

Gwybodaeth gyffredinol

Mae'n rhaid i olewau coginio a gaiff eu mewnforio o wledydd y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd (UE) fodloni'r un safonau a gweithdrefnau hylendid bwyd a chyfansoddiad â bwyd a gynhyrchir yn y Deyrnas Unedig (DU) neu Aelod-wladwriaethau eraill yr UE. Fel arfer, nid oes angen tystysgrif iechyd arnoch chi i fewnforio olewau coginio.

Trwyddedau mewnforio

Efallai na fydd angen trwydded iechyd neu hylendid arnoch chi i fewnforio bwyd, ond mae llawer o fwydydd o wledydd y tu allan i'r UE yn gofyn am drwyddedau at ddibenion masnachu, ac efallai y byddant yn destun cwotâu.
I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â'r Asiantaeth Taliadau Gwledig trwy e-bostio Trader@rpa.gsi.gov.uk.

Lliwiau, cyflasynnau (flavourings) a melysyddion bwyd

Mae rhai olewau'n cynnwys lliwiau, cyflasynnau a melysyddion bwyd. Er ei bod yn bosibl bod yr awdurdod bwyd wedi cymeradwyo'r rhain yn y wlad tarddiad, efallai na fydd rhai wedi'u cymeradwyo yn yr UE.

I gael gwybodaeth am gyflasynnau, melysyddion, lliwiau a chyffeithyddion (preservatives) bwyd, cysylltwch â Thîm Ychwanegion Bwyd yr Asiantaeth Safonau Bwyd.

Labelu

Mae gwybodaeth gyffredinol am labelu bwyd ar gael ar wefan GOV.UK.

I gael cyngor ar labelu cynhyrchion penodol, cysylltwch ag Adran Safonau Masnach neu Adran Iechyd yr Amgylchedd eich awdurdod lleol.

Olew olewydd

Mae Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig (DEFRA) yn rhoi gwybodaeth am y safonau marchnata ar gyfer olew olewydd.

Cynhyrchion organig

Os ydych chi'n mewnforio cynhyrchion organig (cynhyrchion amaethyddol byw neu heb eu prosesu, cynhyrchion amaethyddol wedi'u prosesu i'w defnyddio fel bwyd neu fwyd anifeiliaid, deunydd ysgogi llystyfiant a hadau i'w tyfu) o du allan i'r UE, mae angen i chi gysylltu â'r Tîm Mewnforion Organig yn DEFRA.

Deunydd pecynnu

Mae deunyddiau ac eitemau a ddaw i gysylltiad â bwyd, gan gynnwys y rhai a ddefnyddir i becynnu bwyd, yn cael eu rheoli gan ddeddfwriaeth gyson a chynhwysfawr yr UE, sydd wedi'i gweithredu'n llawn yn y DU.

Mae'r ddeddfwriaeth yn arbennig o drylwyr wrth reoli deunyddiau ac eitemau plastig y bwriedir eu defnyddio ar gyfer bwyd. I gael gwybodaeth am ddiogelwch deunydd pecynnu, cysylltwch â'r Tîm Deunyddiau a Ddaw i Gysylltiad â Bwyd.

Hylendid bwyd 

Ar gyfer ymholiadau cyffredinol ynghylch hylendid bwyd, cysylltwch â'r Tîm Polisi Hylendid Bwyd.

Plaladdwyr

I gael gwybodaeth am lefelau diogelwch plaladdwyr, cysylltwch â Chyfarwyddiaeth Rheoleiddio Cemegau yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch.

Halogion

Nodyn cyfarwyddyd ar Halogion yn Rheoliadau Halogion mewn Bwyd (Lloegr) 2013, sy'n darparu ar gyfer deddfu a gorfodi Rheoliadau'r Comisiwn sy'n gosod terfynau rheoleiddiol ar gyfer halogion mewn bwyd (nitrad, mycotocsinau, metelau, deuocsinau 3-MCPD a hydrocarbonau aromatig polcyclic).

Gweler ein canllawiau i fusnesau ar halogion.

Cyfyngiadau mewnforio

Mae yna rai cyfyngiadau/gofynion mewnforio eraill a all fod yn berthnasol wrth fewnforio olewau coginio , ac mae angen i fewnforwyr fod yn ymwybodol ohonynt.

Cynhyrchion "risg uwch"

Dim ond drwy borthladdoedd a meysydd awyr penodol sydd wedi’u cymeradwyo fel pwyntiau mynediad dynodedig y gellir mewnforio rhai bwydydd a bwydydd anifeiliaid penodol nad ydynt yn dod o anifeiliaid a gaiff eu hystyried i beri "risg uwch".

Bydd y rhain yn destun rheolaethau swyddogol. Mae cynnyrch "risg uwch" yn gynnyrch bwyd neu fwyd anifeiliaid y mae’n hysbys ei fod yn peryglu iechyd y cyhoedd, neu fod hynny’n dod i’r amlwg.

Cynhyrchion sy’n dod o anifeiliaid

Yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA) sy'n delio â'r rheolau ar gyfer mewnforio olewau coginio sy'n dod o anifeiliaid. Mae APHA yn Asiantaeth Weithredol sy'n perthyn i DEFRA.

Mae gwybodaeth am fewnforio olewau coginio sy'n cynnwys pysgod cregyn neu bysgod, neu eu cynhyrchion, ar gael ar-lein.