Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Mynediad dirwystr i'r farchnad i fasnachwyr Gogledd Iwerddon

Penodol i Ogledd Iwerddon

Gwybodaeth am symud nwyddau o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr o dan fynediad dirwystr i'r farchnad.

Mae'r Llywodraeth wedi ymrwymo i fynediad dirwystr i fasnachwyr Gogledd Iwerddon i weddill marchnad y Deyrnas Unedig (DU). 
 
Mae Llywodraeth y DU yn mabwysiadu dull dau gam i roi'r ymrwymiad hwn ar waith.  

Bydd Cam 1 yn berthnasol o 1 Ionawr 2021. Yn y cam hwn mae nwyddau cymwys Gogledd Iwerddon yn rhai sydd naill ai: 

  • yn bresennol yng Ngogledd Iwerddon a ddim yn ddarostyngedig i unrhyw oruchwyliaeth, cyfyngiad na reolaeth tollau 
  • wedi bod yn destun gweithrediadau prosesu yng Ngogledd Iwerddon gan ymgorffori naill ai nwyddau domestig neu nwyddau nad ydynt o dan oruchwyliaeth, cyfyngiad na reolaeth tollau adeg eu prosesu  

Bydd Cam 2 yn cael ei gyflwyno yn ystod 2022 a bydd yn canolbwyntio ar statws cymhwyso ar gyfer busnesau Gogledd Iwerddon. Bydd rhagor o fanylion am Gam 2 yn cael eu rhyddhau maes o law.

Mae rhagor o fanylion am symud bwyd neu fwyd anifeiliaid o Ogledd Iwerddon i Brydain Fawr ym Mhrotocol Gogledd Iwerddon.