Adnoddau hylendid bwyd i bobl ifanc yng Nghymru
Yr adnoddau sydd ar gael i ysgolion, colegau a phrifysgolion i addysgu plant a phobl ifanc am bwysigrwydd hylendid a diogelwch bwyd.
Ysgolion cynradd
Theatr mewn Addysg – Miri'r Môr-ladron a'r Ffa Ffiaidd
Mae taith olaf Miri’r Môr-ladron a’r Ffa Ffiaidd bellach wedi dod i ben.
Crucial Crew a’r gêm Castell Coginio
Mae ein gweithdai Crucial Crew a’r gêm ar-lein, Castell Coginio, wedi dod i ben.
Ysgolion uwchradd
Cwrs e-ddysgu ar ddiogelwch a hylendid bwyd
Rydym yn darparu cwrs e-ddysgu am ddim i ysgolion uwchradd yng Nghymru sy’n dymuno cynnig hyfforddiant ‘Lefel 2 Diogelwch a Hylendid Bwyd (Arlwyo)’ i ddisgyblion.
Mae cymhwyster achrededig City and Guilds yn cynnig cyfle i bob myfyriwr 14 oed a hŷn ddatblygu sgiliau bywyd pwysig.
Ar ôl cwblhau’r hyfforddiant ar-lein yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn cael tystysgrif. Mae’r cwrs yn canolbwyntio ar bynciau sy’n ymwneud â bwyd, gan gynnwys:
- pwysigrwydd diogelwch a hylendid bwyd
- effaith salwch sy'n cael ei gludo gan fwyd
- deall cyfraith bwyd
- peryglon diogelwch bwyd a halogiad bwyd
- cadw bwyd
- storio a rheoli tymheredd
- hylendid personol
- safle ac offer hylan
Addysg Uwch
Adnoddau ar gyfer colegau
Mae’r ASB wedi darparu adnoddau addysgu ar gyfer myfyrwyr arlwyo gyda’r nod o wella dealltwriaeth am reoli diogelwch bwyd a’r pecynnau Bwyd Mwy Diogel, Busnes Gwell. Gellir addasu’r adnoddau hyn i ddiwallu anghenion dysgu unigol rhaglenni cyrsiau amrywiol. Maent yn cynnwys:
- gweithgareddau adnoddau
- taflenni
- gweithgareddau i wirio gwybodaeth
- cynlluniau gwersi
- cyflwyniadau PowerPoint
- ffurflenni olrhain/archwilio
- astudiaethau achos
Adnoddau ar gyfer prifysgolion a llety myfyrwyr
Mae’r ASB wedi darparu canllawiau i fyfyrwyr ar ddiogelwch a hylendid bwyd i fyfyrwyr prifysgol sy’n cynnig cyngor ar sut i gadw eu cegin yn lân a lleihau’r risg o wenwyn bwyd.
Cysylltu â ni
Os hoffech gofrestru eich diddordeb mewn unrhyw un o’r adnoddau uchod, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau pellach, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost i walesadminteam@food.gov.uk.