Neidio i’r prif gynnwys
Cymraeg

Hysbysiad Preifatrwydd ar gyfer Digwyddiadau Ffatrïoedd a Gweithredwyr Busnesau Bwyd yn ystod COVID-19

Gwybodaeth am bolisi preifatrwydd Digwyddiadau Ffatrïoedd a Gweithredwyr Busnesau Bwyd yn ystod COVID-19, pam mae angen data arnom, yr hyn a wnawn gyda'r data a'ch hawliau.

Yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) fydd 'Rheolydd' y data personol rydych wedi'i ddarparu i ni, er enghraifft eich enw a'ch manylion cyswllt.  

Yr Awdurdod Iechyd Cyhoeddus sy'n arwain y digwyddiad fydd 'Rheolydd' unrhyw wybodaeth rydych chi'n ei darparu iddynt yn uniongyrchol ac unrhyw ddata profion gan gynnwys eich canlyniadau.  

Mae hysbysiad preifatrwydd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn darparu gwybodaeth fanwl am oblygiadau preifatrwydd prosesau profi a gyflawnir gan Awdurdodau Iechyd. 

Mae hysbysiad preifatrwydd yr Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol hefyd yn cynnwys dolenni i hysbysiadau Preifatrwydd Awdurdodau Iechyd yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon.

Cyflwyniad 

Mae ffatrïoedd dan rwymedigaeth i adrodd achosion COVID-19 sy'n ymwneud â'u staff eu hunain i'r Awdurdod Iechyd Cyhoeddus neu’r awdurdod lleol a fydd wedyn yn arwain ar y digwyddiad.

Efallai y bydd yr Awdurdod Iechyd Arweiniol, yn dibynnu ar amgylchiadau lleol, yn ei gwneud hi’n ofynnol cael enwau a manylion cyswllt staff yr ASB y daethpwyd i’r casgliad y buont ar y safle o fewn yr amserlen berthnasol, fel y gall gydlynu'r profion a'r canlyniadau. 

Byddem ni fel rheol yn disgwyl i'r Awdurdod Iechyd Arweiniol gyfathrebu canlyniadau profion yn ôl yn uniongyrchol i staff a darparu data dienw i'r ASB yn unig. Fodd bynnag, gallai fod yn bosibl mewn rhai digwyddiadau, pan fydd oedi cyn cyfathrebu'r canlyniadau, i ni ofyn i'r Awdurdod Iechyd ddarparu'r canlyniadau unigol i'r ASB fel y gallwn ni hysbysu staff o'u canlyniadau er eu lles eu hunain a lles aelodau eu teulu a'u cydweithwyr, a hefyd fel y gall yr ASB barhau i gyflawni ei rhwymedigaethau statudol o ymweld â safle gweithredwr y busnes bwyd.  

Bwriad yr hysbysiad hwn yw delio â digwyddiadau o'r fath ac mae'n ategu'r Pecyn Gwybodaeth ar COVID-19 i Reolwyr a Staff Adnoddau Dynol ar fewnrwyd yr ASB a'r “Hysbysiad Preifatrwydd - data staff Adnoddau Dynol” ar wefan yr ASB. Mae pob un ohonynt yn parhau i fod yn berthnasol wrth nodi sut mae data yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio fel arall. 

Pam fod angen yr wybodaeth hon? 

Rydym ni angen eich enw a'ch gwybodaeth gyswllt a byddwn ni’n eu darparu i'r Awdurdod Iechyd Arweiniol lle bo angen fel y gall nodi canlyniadau sy'n gysylltiedig â'r digwyddiad, cysylltu â chi gyda’ch canlyniad a chymryd mesurau brys i reoli’r digwyddiad yn ôl yr angen. 

Os bydd yr Awdurdod Iechyd Arweiniol yn oedi cyn cyfathrebu canlyniadau profion yn ôl yn uniongyrchol i staff, neu lle bo hynny’n debygol, gallwn ofyn i'r Awdurdod Iechyd Arweiniol anfon y canlyniadau unigol at yr ASB fel y gallwn hysbysu staff yn brydlon. 

Byddem ni’n gwneud hyn am y rhesymau a ganlyn: 

  1. Er budd diogelwch a lles ein staff a'n hisgontractwyr ein hunain, mae'n rhaid i ni gofio gweithredu'n gyflym i leihau'r risg o achos yn digwydd yn eu plith ac i leihau unrhyw darfu ar eu bywydau bob dydd.

    Ar ôl i staff sefyll prawf gall hyn fod â goblygiadau fel:
    • gorfod hunan-ynysu
    • p'un a all aelodau'r cartref fynd i'r gwaith, neu p’un a yw plant yn cael mynychu'r ysgol
    • effaith ar lesiant gan fod y sefyllfa yn amlwg yn gallu achosi straen
       
  2. Yn unol â chyngor a chanllawiau’r Awdurdodau Iechyd Cyhoeddus mewn perthynas â'r digwyddiad a rhwymedigaethau dyletswydd gyhoeddus rydym ni’n ddarostyngedig iddynt.   

     

  3. Er mwyn i ni gyflawni ein rhwymedigaethau statudol parhaus i reoleiddio Ffatrïoedd/Gweithredwyr Busnesau Bwyd. 

     

  4. Lleihau ansicrwydd i staff a'r ASB am y rhesymau a amlinellir uchod ac mewn amgylchiadau lle gallai digwyddiad ddenu sylw'r cyfryngau yn gyflym.

Pan fyddwn ni’n prosesu'r data fel y disgrifir, rydym ni’n gwneud hynny i fodloni ein rhwymedigaethau cyfreithiol wrth gyflawni ein tasg gyhoeddus, am resymau budd y cyhoedd ym maes iechyd y cyhoedd, at ddibenion cyflogaeth ac yn unol â'n Polisïau Diogelu Data ac Adnoddau Dynol a’r Pecyn Gwybodaeth ar gyfer Rheolwyr a Staff Adnoddau Dynol ar COVID-19 sydd ar gael ar fewnrwyd yr ASB.

Beth byddwn ni’n ei wneud â’r wybodaeth? 

Byddwn ni’n darparu eich enw a'ch manylion cyswllt i'r Awdurdod Iechyd Arweiniol, lle bo angen am y rhesymau a nodir uchod. 

Fel rheol byddem ni’n disgwyl i’r Awdurdod Iechyd Cyhoeddus gyfathrebu canlyniadau'r profion yn uniongyrchol i Staff, ond bydd unrhyw ganlyniadau profion a ddaw i law gennym yn cael eu cyfathrebu i'r unigolyn dan sylw trwy ei reolwr llinell er budd gorau'r unigolyn ac er mwyn galluogi'r ASB i ddiogelu ei staff a pharhau i gyflawni ei dyletswyddau cyhoeddus fel y nodir uchod.  Unwaith y bydd canlyniadau'r profion yn dod i law, bydd angen dilyn prosesau yn ymwneud â hunan-ynysu a diweddaru systemau Adnoddau Dynol, salwch ac absenoldeb. Mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn y Pecyn Gwybodaeth ar gyfer Rheolwyr a Staff Adnoddau Dynol ar COVID-19 sydd ar gael ar fewnrwyd yr ASB. 
 
Pan fydd yr Awdurdod Iechyd Cyhoeddus yn cyfathrebu canlyniadau'n uniongyrchol i staff a ninnau ond yn cael gwybodaeth ddienw ganddynt, byddwn ni’n defnyddio'r wybodaeth honno i werthuso pa fesurau diogelu y gall fod yn ofynnol i'r ASB eu cymryd a chysylltu â staff yn unol â chanllawiau Adnoddau Dynol. 

Sut a ble rydym yn storio eich data a gyda phwy y gallwn ei rannu

Bydd yr ASB weithiau'n rhannu data gydag adrannau eraill y llywodraeth, cyrff cyhoeddus a sefydliadau sy'n cyflawni swyddogaethau cyhoeddus i'w cynorthwyo i gyflawni eu dyletswyddau statudol, neu pan fydd hynny er budd y cyhoedd. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i’r adran Sut a ble rydym ni’n storio'ch data a gyda phwy y gallwn ei rannu yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dim ond cyhyd ag y bo hynny’n angenrheidiol i gyflawni ein swyddogaethau hyn y byddwn ni’n cadw’r wybodaeth bersonol, ac yn unol â’n polisi cadw. 

Trosglwyddiadau rhyngwladol

I gael rhagor o wybodaeth am drosglwyddiadau rhyngwladol, gweler yr adran Trosglwyddiadau Rhyngwladol yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Dinasyddion yr Undeb Ewropeaidd (UE)

I gael rhagor o wybodaeth am Hysbysiad Preifatrwydd Dinasyddion yr UE, ewch i’r adran dinasyddion yr UE yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Eich hawliau

I gael rhagor o wybodaeth am eich hawliau, ewch i’r adran Eich hawliau yn ein Siarter Gwybodaeth Bersonol.

Cysylltu â ni

Os oes gennych chi unrhyw ymholiadau am yr Hysbysiad Preifatrwydd hwn, eich gwybodaeth bersonol neu unrhyw gwestiynau am ein defnydd o'r wybodaeth, anfonwch e-bost at ein Swyddog Diogelu Data yn yr ASB, sef Arweinydd y Tîm Rheoli Gwybodaeth a Diogelwch gan ddefnyddio’r cyfeiriad isod.