Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cysylltu â ni

Rhoi gwybod am broblem gyda bwyd, defnyddio ein gwasanaethau neu ddod o hyd i'n manylion cyswllt.

Sut i roi gwybod am broblem gyda sgôr hylendid bwyd eich busnes

Mae manylion cyfeiriad eich busnes yn anghywir

Os yw enw neu gyfeiriad eich busnes a gedwir yn ein gwasanaeth sgoriau hylendid bwyd yn anghywir, ewch ati i gysylltu â’r awdurdod lleol a roddodd y sgôr i chi a gofynnwch iddynt wneud y newidiadau angenrheidiol.

Mae eich sgôr yn wahanol i’r sgôr a roddwyd yn yr arolygiad diwethaf

Gall fod ychydig o oedi tra bydd yr awdurdod lleol yn diweddaru’r wefan sgoriau hylendid bwyd. Mae awdurdodau lleol yn uwchlwytho sgoriau o leiaf bob 28 diwrnod . Bydd manylion busnesau sy’n cael sgôr o ‘5 – da iawn’ – yn cael eu cyhoeddi cyn gynted ag y bydd eich awdurdod lleol yn uwchlwytho’r wybodaeth. Cyhoeddir manylion busnesau sy’n cael sgôr o ‘0 – 4’ 3 – 5 wythnos ar ôl dyddiad yr arolygiad i ganiatáu cyflwyno apêl (gallwch chi ofyn i sgôr gael ei gyhoeddi cyn diwedd y cyfnod apelio).

Os nad yw eich sgôr yn gywir o hyd ar ôl y cyfnod hwn, ewch ati i gysylltu â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol.

Ni allwch chi ddod o hyd i’ch sgôr

Os na allwch chi ddod o hyd i’ch sgôr, cofiwch geisio chwilio gan ddefnyddio enw’r busnes yn unig neu ran gyntaf y cod post. Os yw eich busnes wedi’i gofrestru gan ddefnyddio cyfeiriad preifat (e.e. arlwywyr cartref), dim ond rhan gyntaf y cod post sy’n cael ei chyhoeddi.

Os na allwch chi ddod o hyd i’ch sgôr, dylech chi gysylltu â thîm diogelwch bwyd eich awdurdod lleol.

Rydych chi am apelio yn erbyn eich sgôr

Ewch ati i ddysgu sut y gallwch chi apelio yn erbyn eich sgôr

Rydych chi am gael sgôr hylendid bwyd ar gyfer eich busnes

I gael sgôr hylendid bwyd, mae angen i chi gofrestru eich busnes gyda’ch awdurdod lleol. Ar ôl cofrestru, caiff eich safle ei arolygu a bydd sgôr yn cael ei dyrannu i chi gan eich awdurdod lleol.

Rhagor o wybodaeth am y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd