Cofnodion cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru a gynhaliwyd ar 5 Chwefror 2026
Crynodeb o’r sawl a oedd yn bresennol a thrafodaethau’r cyfarfod.
Yn bresennol:
Aelodau Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru (WFAC) a oedd yn bresennol:
- Dr Rhian Hayward, MBE, Cadeirydd
- Dave Holland
- Georgia Taylor
- Helen Taylor
- John Williams
- John Richards
- Ifan Lloyd
- Lindsay Horth
Swyddogion yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a oedd yn bresennol:
- Sian Bowsley – Cyfarwyddwr yr ASB yng Nghymru
- Sioned Fidler – Pennaeth Cyfathrebu, y Gymraeg a Chymorth Busnes
- Lucy Edwards – Uwch-reolwr Busnes
- Christie O’Keefe – Rheolwr Busnes
- Owen Lewis – Pennaeth Polisi
- Jonathan Davies – Pennaeth Strategaeth
Cyflwynwyr:
- Steve Adie – Pennaeth Polisi Safonau, yr ASB yng Nghymru
- Sue Davies – Which?
- Jasmine Drew – Llywodraeth Cymru
- Lynda Scammell – Yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA)
- Ed Scully – MHRA
Cyflwyniadau, ymddiheuriadau, a chofnodion y cyfarfod diwethaf
Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Ni nodwyd unrhyw ymddiheuriadau. Cytunwyd ar gofnodion cyfarfod mis Tachwedd 2025.
Datgan buddiannau
Ni ddatganwyd unrhyw fuddiannau newydd.
Atchwanegiadau
Sue Davies, Which? – Nododd Sue fod tystiolaeth Which? yn tynnu sylw at risgiau sylweddol i ddefnyddwyr a risgiau rheoleiddio yn y farchnad atchwanegiadau bwyd, yn enwedig ar-lein. Mae atchwanegiadau’n cael eu defnyddio’n helaeth, yn aml heb gyngor proffesiynol, gyda llawer o ddefnyddwyr yn drysu gan wybodaeth a labeli. Yn sgil ymchwiliadau, canfuwyd bod nifer o gynhyrchion yn cael eu gwerthu mewn dosau ymhell uwchlaw lefelau diogel, a hynny ochr yn ochr â chynhyrchion chwistrelladwy anghyfreithlon a honiadau camarweiniol cyson o ran colli pwysau, gan sôn yn aml fod atchwanegiadau yn “ddewisiadau amgen naturiol” i feddyginiaethau. Marchnadoedd ar-lein sy’n cyflwyno’r pryderon mwyaf, gyda gwiriadau gwan cyn i gynhyrchion gael eu rhestru ac achosion ailadroddus o ddiffyg cydymffurfio. Roedd Sue yn galw am ganllawiau cliriach, gwaith gorfodi mwy effeithiol, a mwy o atebolrwydd ar gyfer llwyfannau ar-lein.
Steve Adie, yr ASB – Amlinellodd Steve y dirwedd reoleiddio ar gyfer atchwanegiadau bwyd a rôl ganolog yr Asiantaeth Safonau Bwyd. Mae cyfrifoldeb am ddiogelwch bwyd, labelu, polisi maeth a gorfodi wedi’i rannu ar draws sawl corff ac mae’n amrywio o wlad i wlad yn y DU. Mae hyn yn ei dro yn creu cymhlethdod cynhenid a photensial ar gyfer bylchau rheoleiddio. O fewn y fframwaith hwn, mae’r ASB yn gyfrifol am ddiogelwch a hylendid bwyd, gan weithio gydag awdurdodau lleol ar faterion gorfodi. Mae’r ASB hefyd yn gyfrifol am bolisi labelu yng Nghymru, ac am bolisi labelu a maeth yng Ngogledd Iwerddon. Pwysleisiodd Steve rôl yr ASB wrth ddiogelu defnyddwyr drwy oruchwyliaeth, rheoli digwyddiadau, samplu, asesu risg, mewnwelediad defnyddwyr, canllawiau i fusnesau ac awdurdodau lleol, a gweithio cydlynol ar draws rheoleiddwyr, a hynny oll wedi’i danategu gan yr egwyddorion craidd bod rhaid i fwyd fod yn ddiogel, wedi’i ddisgrifio’n gywir a chefnogi canlyniadau iachach.
Jasmine Drew, Llywodraeth Cymru – Disgrifiodd Jasmine rôl Llywodraeth Cymru wrth reoleiddio atchwanegiadau bwyd o fewn y Fframwaith Labelu, Cyfansoddiad a Safonau Maeth (NLCS). Mae hyn yn cynnwys cyfrifoldeb dros ddatblygu polisïau, cyngor gweinidogol, llunio rheoliadau a chynnal adolygiadau ôl‑weithredu ar gyfer atchwanegiadau bwyd, ochr yn ochr â meysydd cysylltiedig fel labelu maeth ac ychwanegu fitaminau a mwynau. Mae asesiadau diogelwch a gwaith gorfodi y tu allan i gylch gwaith Llywodraeth Cymru, gan ddibynnu yn lle hynny ar yr ASB ac awdurdodau lleol. Roedd y cyflwyniad hefyd yn nodi proses awdurdodi’r NLCS ar gyfer sylweddau atchwanegiadau bwyd newydd, o’r cais a’r asesiad risg hyd at ymgynghori a phrosesau penderfynu gweinidogion, gyda phwyslais ar alinio ar draws y pedair gwlad lle bo modd a nodi risgiau gwahaniaethu’n gynnar.
Lynda Scammell ac Ed Scully, MHRA – Esboniodd Lynda ac Ed gymhlethdod penderfynu a yw atchwanegiadau bwyd yn dod o dan ddeddfwriaeth bwyd neu feddyginiaethau, gan ganolbwyntio ar ddull yr MHRA o ymdrin â chynhyrchion “ar y ffin”. Gwneir dosbarthiadau fesul achos, yn seiliedig ar honiadau cynnyrch, cyflwyniad, cynhwysion, dos, defnydd bwriadedig a chanfyddiad cyffredinol defnyddwyr, gyda sensitifrwydd arbennig i honiadau meddyginiaethol, tystiolaethau a chymariaethau â meddyginiaethau trwyddedig. Tynnodd y cyflwyniad sylw at y ffaith nad yw penderfyniadau ffiniol yn aml yn syml, yn enwedig ar gyfer cynhyrchion perlysieuol a chategorïau sy’n dod i’r amlwg, fel cynhyrchion sy’n gysylltiedig â GLP‑1. Mae gorfodi’n seiliedig yn bennaf ar gydymffurfiaeth wirfoddol, gan gynyddu lle bo angen trwy brosesau penderfynu statudol. At ei gilydd, mae’r deunydd yn tanlinellu’r baich rheoleiddiol a gaiff ei greu gan ffiniau aneglur, honiadau anghyson a chynnwys a gynhyrchir gan ddefnyddwyr, gan atgyfnerthu’r angen am ganllawiau cliriach, goruchwyliaeth gryfach a chamau cydlynol ar draws rheoleiddwyr.
Steve Adie, yr ASB – Yna, nododd Steve yr heriau ymarferol o orfodi rheoliadau atchwanegiadau bwyd a blaenoriaethau’r ASB ar gyfer y dyfodol. Mae awdurdodau lleol yn wynebu cymhlethdod sylweddol oherwydd sylweddau anghyfarwydd, cynhyrchion sy’n cael eu gwerthu uwchlaw’r lefelau a argymhellir, problemau o ran labelu a honiadau, gorgyffwrdd â chyfraith meddyginiaethau a hysbysebu, a thwf gwerthiannau ar-lein a thrawsffiniol. Mae’r heriau hyn yn cael eu gwaethygu gan gamwybodaeth, marchnata gan ddylanwadwyr a chynhwysion newydd. Mewn ymateb, bydd yr ASB yn parhau i gefnogi gwaith gorfodi awdurdodau lleol, diweddaru pecynnau cymorth a chanllawiau, cryfhau hyfforddiant i fusnesau a rheoleiddwyr, a gweithio gyda phartneriaid i wella aliniad ar derfynau uchaf a safonau rheoleiddio, gan gynnwys trwy ymgysylltu â’r UE ar faterion Iechydol a Ffytoiechydol (SPS), er mwyn sicrhau bod atchwanegiadau a roddir ar y farchnad yn ddiogel, yn cydymffurfio ac wedi’u disgrifio’n gywir.
Gwnaeth trafodaeth WFAC dynnu sylw at dwf cyflym yn y farchnad atchwanegiadau, yn enwedig ymhlith busnesau bach a micro, sy’n aml yn dod o’r sectorau ffitrwydd a lles yn hytrach na chefndiroedd gwyddonol. Rhoddodd aelod o’r gynulleidfa, sy’n Ddadansoddwr Cyhoeddus, ei safbwynt a nododd ei fod yn gweithio gyda safonau masnach i ddadansoddi atchwanegiadau a dehongli canlyniadau neu wneud sylwadau ar labelu, a gwnaeth y pwyntiau canlynol:
- Bioargaeledd: Tynnodd sylw at y ffaith bod bioargaeledd gwahanol fathau o fitaminau a mwynau yn amrywiol, sy’n golygu nad yw’r swm a nodir ar y label o reidrwydd yn adlewyrchu’r hyn y mae’r corff yn ei amsugno mewn gwirionedd. Nododd y gwahaniaeth rhwng fitaminau dŵr-hydawdd (er enghraifft, B, C) a fitaminau braster-hydawdd (er enghraifft, A, D, E), a’r ffaith bod fitaminau dŵr-hydawdd, fel fitamin C, yn cael eu hysgarthu’n gyflym.
- Labelu a honiadau: Tynnodd sylw at y cymhlethdod a’r amser sydd ei angen i asesu labeli a honiadau atchwanegiadau, yn enwedig pan fydd gwybodaeth am gynhyrchion ar-lein yn wahanol i’r hynny ar ddeunydd pecynnu ffisegol.
- Awgrym rheoleiddiol: Awgrymodd, pe bai’r rheoliad Gwybodaeth am Fwyd i Ddefnyddwyr (FIC) yn mynnu geiriad cymeradwy yn unig ar gyfer honiadau (heb unrhyw hyblygrwydd ar gyfer geiriad amgen), y byddai’n symleiddio gwaith gorfodi ac yn lleihau amwysedd i swyddogion safonau masnach.
Holodd aelodau a allai canllawiau rheoleiddio symlach a chliriach gefnogi arloesedd mwy diogel a thwf economaidd wrth leihau diffyg cydymffurfio. Nodwyd bod llawer o weithredwyr llai yn cael trafferth gyda chywirdeb labelu, sicrwydd o ran cadwyni cyflenwi, a’u bod yn cael trafferth wrth ddilysu cynhwysion.
Yn ystod y drafodaeth, awgrymodd yr aelodau y canlynol:
- canllawiau cliriach i ddefnyddwyr ar ddefnyddio atchwanegiadau’n ddiogel a chymeriant cronnol
- camau gweithredu cyflymach, trawsasiantaethol ar dueddiadau sy’n dod i’r amlwg (er enghraifft, atchwanegiadau â brand GLP-1)
- ymgysylltiad gwell â marchnadoedd ar-lein
- hyfforddiant a phecynnau cymorth gwell ar gyfer awdurdodau lleol a busnesau bach
- mwy o dystiolaeth ar gysylltiad (‘exposure’) hirdymor a defnydd cyfunol o atchwanegiadau
Roedd y drafodaeth gynhwysfawr yn adlewyrchu cymhlethdod rheoleiddio atchwanegiadau bwyd, gan bwysleisio’r angen am gydweithio amlasiantaethol, asesiad gwyddonol cadarn, a chyfathrebu clir â busnesau a defnyddwyr er mwyn sicrhau diogelwch a chydymffurfiaeth mewn marchnad sy’n esblygu’n gyflym.
Diweddariad y Cadeirydd
Rhoddodd y Cadeirydd ddiweddariad llafar ar sesiwn ‘cwrdd i ffwrdd’ y Bwrdd yn Efrog ac ar gyfarfod y Bwrdd ym mis Rhagfyr yn Reading.
Adroddiad y Cyfarwyddwr (Papur 26/02/02)
Rhoddodd y Cyfarwyddwr ddiweddariad llafar ar yr adroddiad a oedd yn cynnwys diweddariad ar symud tîm Cymru i’r Gyfarwyddiaeth Polisi o dan Rebecca Sudworth, yn ogystal â manylu ar waith ymgysylltu â rhanddeiliaid a’r Senedd, a diweddariad ar gyhoeddi Adolygiad Llywodraeth Cymru o’r ASB yng Nghymru.
Unrhyw fater arall
Nododd yr aelodau y byddai’r cyfarfod â thema nesaf yn cael ei gynnal ar 18 Mai 2026.
Daeth y Cadeirydd â’r cyfarfod i ben.