Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Cyfarfod â Thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru – 24 Ebrill 2024

Penodol i Gymru

Agenda ar gyfer cyfarfod â thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru ar y dirwedd busnesau bwyd yng Nghymru a heriau ar gyfer twf ac arloesedd. Cyfarfod hybrid yw hwn a gynhelir wyneb yn wyneb yng Nghanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE, Caerdydd ac ar-lein drwy MS Teams.

Cyfarfod â Thema Pwyllgor Cynghori ar Fwyd Cymru

Agenda a phapurau

9:30 – 9:45 Croeso gan y Cadeirydd

Gan gynnwys cyflwyniad, diweddariad llafar o gyfarfod y Bwrdd ym mis Mawrth, ymddiheuriadau, datganiadau o fuddiannau a chofnodion cyfarfod mis Chwefror 2024.

9:45 – 10:00 Adroddiad y Cyfarwyddwr

Diweddariad ysgrifenedig gan uwch-arweinwyr UKIA a Chymru ers y cyfarfod â thema diwethaf ym mis Chwefror 2024.

10:00 – 10:30 Cefnogaeth gan awdurdodau lleol i fusnesau bwyd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth

Jon Wood, Awdurdod Lleol Bro Morgannwg

10:30 – 11:00 Cefnogaeth Llywodraeth Cymru i hybu arloesedd yn sector bwyd Cymru

Kath Thurlow, Uwch-reolwr Arloesi a Thechnoleg Bwyd, yr Is-adran Fwyd, Llywodraeth Cymru

11:00 – 11:15 Egwyl

11:15 – 11:45 Heriau busnes a chymorth technegol

Emma Burgess, Rheolwr Technegol ac NPD, Lewis Pies

11:45 – 12:05 Canolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE

Helen Taylor, Cyfarwyddwr Technegol

12:05 – 12:15 Trafodaeth gryno WFAC

12:15 – 12:20 Unrhyw faterion eraill a dod â’r cyfarfod i ben

12:20 – 13:00 Taith o gwmpas ZERO2FIVE

Trefnu lle a chyflwyno cwestiynau

I drefnu lle yn y cyfarfod hwn ar-lein, i gyflwyno cwestiwn neu i gael mwy o wybodaeth, e-bostiwch: walesadminteam@food.gov.uk.