Ein Bwyd 2024
Croeso i Ein Bwyd 2024.
Mae 25 mlynedd ers sefydlu’r Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) a degawd ers creu Safonau Bwyd yr Alban (FSS). Mae cyrraedd y cerrig milltir hyn yn gyfle i fyfyrio ar y rheswm dros greu’r ddau sefydliad a’r rolau allweddol rydym yn parhau i’w chwarae heddiw.
Bwyd diogel yw u o’r prif ffactorau sy’n pennu iechyd pobl. Ein gwaith ni yw diogelu iechyd y cyhoedd a chynnal buddiannau defnyddwyr mewn perthynas â bwyd, gan weithio i sicrhau bod y system fwyd yn darparu bwyd diogel ac iach.
Fodd bynnag, nid adroddiad am yr ASB nac FSS mo hwn. Yn hytrach, mae’n ymwneud â’r system fwyd ehangach yr ydym yn rhan ohoni – gan edrych ar ba mor dda y mae’n gweithio, ble mae’r pwysau, a meddwl am y risgiau a allai fod o’n blaenau. Mae’n rhan o’n hymrwymiad i fod yn dryloyw ynghylch cyflwr safonau bwyd yn y DU.
Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae digwyddiadau fel yr argyfwng BSE a’r digwyddiad cig ceffyl wedi dangos pwysigrwydd rheoleiddio cryf ac annibynnol. Mae’r system fwyd, gan gynnwys y busnesau sy’n rhan ohoni, yn parhau i wynebu risgiau a phwysau. Ein rôl ni yw sicrhau ei bod yn parhau i gyflawni ar gyfer defnyddwyr yn ddiogel, ac ar yr un pryd, yn helpu busnesau bwyd i ffynnu.
Mae’n galonogol iawn gweld llywodraethau ledled y DU yn cydnabod pwysigrwydd bwyd yn eu polisïau wrth fynd i’r afael â rhai o heriau cymdeithasol ein hoes, yn enwedig gordewdra, clefydau sy’n gysylltiedig â deiet a newid yn yr hinsawdd. Rydym yn falch o chwarae ein rhan yn y strategaethau a’r polisïau bwyd a gordewdra ar draws y pedair gwlad a fydd yn ceisio gwella iechyd drwy leihau’r niwed o fwyd afiach a/neu anniogel.
Gall yr adroddiad hwn helpu i lywio’r camau nesaf hyn. Drwy fod yn onest am gyflwr presennol y system, gallwn helpu i sicrhau’r gwelliannau sydd eu hangen i ddiogelu iechyd y cyhoedd a chynnal ymddiriedaeth pobl yn y bwyd maen nhw’n ei fwyta.
Lawrthlwytho Ein Bwyd 2024
Darllenwch yr adroddiad llawn yma: