Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg

Canllawiau ar weithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd: canllawiau’r cynllun statudol a’r Safon Brand

Canllawiau i awdurdodau lleol ar weithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd (CSHB), gan gynnwys canllawiau’r cynllun statudol yng Nghymru a Gogledd Iwerddon, a’r Safon Brand yn Lloegr.

Mae’r canllawiau’n sicrhau bod cysondeb yn y ffordd y mae awdurdodau lleol yn gweithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd.

Cymru

Canllawiau ar Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013

Diben y canllawiau hyn yw helpu swyddogion awdurdodedig yng Nghymru i roi Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, a’r rheoliadau cysylltiedig, ar waith.

Dylid eu darllen ar y cyd â Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 a’r rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf.

Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013, Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Cymru) 2013 a Rheoliadau Sgorio Hylendid Bwyd (Hyrwyddo Sgôr Hylendid Bwyd) (Cymru) 2016: Canllawiau ar gyfer awdurdodau bwyd

Lloegr

Y Safon Brand

Mae’r canllawiau ar y Safon Brand yn rhoi cyngor ac arweiniad i awdurdodau lleol yn Lloegr ar bob agwedd ar weithredu’r cynllun.

Pan fydd busnesau bwyd yn cael eu sgorio o dan y cynllun ac wrth i ddefnyddwyr weld brandio’r cynllun, y nod yw sicrhau y gall defnyddwyr fod yn hyderus bod yr awdurdod lleol yn gweithredu’r cynllun yn unol â’n bwriad.

Y Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd: Canllawiau ar weithredu’r cynllun – y Safon Brand

Gogledd Iwerddon

Canllawiau ar Ddeddf Sgorio Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2016

Mae’r canllawiau hyn wedi’u datblygu i sicrhau bod y cynllun statudol yn cael ei weithredu’n llwyddiannus a’i gymhwyso’n gyson yng Ngogledd Iwerddon.

Dylid eu darllen ar y cyd â Deddf Sgorio Hylendid Bwyd (Gogledd Iwerddon) 2016 a’r rheoliadau a wnaed o dan y Ddeddf.

Gweithredu’r Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd statudol yng Ngogledd Iwerddon: Canllawiau i gynghorau dosbarth

Add to smarter communications search On