Neidio i’r prif gynnwys
English Cymraeg
Newyddion

Cyhoeddi papurau cyfarfod Bwrdd yr Asiantaeth Safonau Bwyd ar gyfer mis Medi 2023

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2023 wedi’u cyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 September 2023
Diweddarwyd ddiwethaf: 7 September 2023

Mae’r agenda a’r papurau ar gyfer cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2023 wedi’u cyhoeddi. 

Bydd y cyfarfod yn cael ei gynnal yn Southampton, a’i gadeirio gan gadeirydd yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB), yr Athro Susan Jebb. Bydd yn dechrau am 9am ddydd Mercher 20 Medi, ac mae croeso i’r cyhoedd fod yno’n bersonol. Gallwch gofrestru i’w wylio ar-lein

Mae agenda’r cyfarfod hwn yn cynnwys: 

  • Technoleg Enetig (Bridio Manwl) 
  • Diweddariad Blynyddol ar Les Anifeiliaid – 2022/23 
  • Adroddiad Blynyddol ar Ddigwyddiadau a Gwydnwch – 2022/23 
  • Diweddariad ar y Broses Dadansoddi Risg a’r Gwasanaeth Cynhyrchion Rheoleiddiedig 

Mae’r agenda lawn a’r papurau sydd wedi’u cyhoeddi ar gael ar dudalennau’r Bwrdd ar ein gwefan (Saesneg yn unig). 

Sut i gofrestru ar gyfer cyfarfod agored y Bwrdd 

Bydd cyfarfod y Bwrdd ym mis Medi 2023 yn gyfarfod agored, ac edrychwn ymlaen at groesawu aelodau’r Bwrdd ac aelodau’r cyhoedd sy’n gallu bod yno’n bersonol. Yn ogystal, gallwch gofrestru i wylio’r cyfarfod yn fyw ar-lein

Os oes angen help arnoch i gofrestru, neu os oes gennych unrhyw ymholiadau, cysylltwch â ni: 

Cyflwyno cwestiwn 

Mae Bwrdd yr ASB yn croesawu cwestiynau ar y papurau sy’n cael eu hystyried ym mhob un o’i gyfarfodydd. 

Rydym yn awyddus i sicrhau, cyn belled ag y bo’n ymarferol, fod cwestiynau’n cael sylw yn y drafodaeth yng nghyfarfod y Bwrdd, felly mae’n bwysig bod yr ymholiadau mor gryno ac eglur â phosib. 

Dylai cwestiynau ymwneud â phapurau’r Bwrdd a gyhoeddwyd cyn y cyfarfod. Ni fydd cwestiynau nad ydynt yn ymwneud â phapur ar agenda cyfarfod Bwrdd yr ASB yn cael sylw yn ystod y cyfarfod ond byddant yn cael eu hateb ar wahân ac yn ysgrifenedig. 

Bydd pawb sy’n anfon cwestiwn ar gyfer cyfarfod y Bwrdd hefyd yn cael ateb ysgrifenedig o fewn 20 diwrnod gwaith i gyfarfod y Bwrdd. Cyhoeddir yr atebion ar y dudalen berthnasol yn adran Cyfarfodydd Bwrdd yr ASB ar ein gwefan. 

Gallwch gyflwyno’ch cwestiynau hyd at 5pm ar y dydd Llun cyn cyfarfod y Bwrdd gan ddefnyddio’r ffurflen hon. Ar ôl y dyddiad hwn, ni fyddwch yn gallu cyflwyno cwestiynau a bydd y ffurflen yn cau.